FREE BOOKS

Author's List




PREV.   NEXT  
|<   3   4   5   6   7   8   9   10   11   12   13   14   15   16   17   18   19   20   21   22   23   24   25   26   27  
28   29   30   31   32   33   34   35   36   37   38   39   40   41   42   43   44   45   46   47   48   49   >>  
aen! Deffroed ysbryd hyf ein teidiau I danio mynwes ddewr pob dyn, Mae'r ddraig yn edrych lawr o'r bryniau Gan ddisgwyl gweled Cymru'n un; Bu'n gwlad am oesau'n araf waedu, Ond sych dy ddagrau, Walia Wen, Mae seren gobaith uwch dy ben, Daeth cledd Llywelyn i'th waredu. Ymlaen! CYMRU, GWLAD Y GAN. Pa beth sy'n Nghymru, gwlad y gan,-- Ai diliau glwys, ai dolydd glan, Ai gwastad diroedd heb eu hail, Yn dwyn eu blodau teg a'u dail? Na, na, nid dyna'r harddwch sydd Yn teg addurno Gwalia rydd. Pa beth sy'n Nghymru, gwlad y gan? Rhaeadrau gwyllt a nentydd glan, Clogwyni serth a chreigiau ban, A harddwch. Eden ym mhob man! Ac O! mae yno fwthyn cu Sy'n werth palasau'r byd i mi. Mae tyrrau cestyll Gwalia Wen Yn pwyntio i fyny tua'r nen, Gan ddweyd mai anfarwoldeb sydd Yn eiddo dewrion Cymru rydd; O boed i mi gael byw yn hon, A beddrod yn ei thyner fron. Mae adsain bloedd y dewrion fu, Heb farw rhwng ein bryniau cu, Ac ysbryd ym mhob awel wynt Yn adrodd hanes Cymru gynt; O boed i mi gael byw yn hon, A beddrod yn ei thyner fron. SIOM SERCH. Daeth ef i geisio denu'r ferch, A phlannu'i galon yn ei bron; Cyn iddi ddysgu pwyso serch, Fe ddysgodd garu'r llencyn llon; Aeth ef a'r lili dyner, wen, Oedd ar ei bron, angyles ne, A phlannai'n ol ar galon Gwen Hardd rosyn cariad yn ei lle. Rhodd iddo'r cyfan feddai'n awr, Ei geiriau mel a'i gwenau drud, Rhodd iddo hefyd galon fawr Yn llawn o gariad byw i gyd; Cydwylai hi fel gwlith y nef Pan wylai ef o dan ryw gur, A chwarddai pan y chwarddai ef, A'r cyfan er mwyn cariad pur. Ond oerodd bron y llanc cyn hir, Ac ymaith aeth gan adael hon, Heb feddwl fawr fel treiddiai cur Fel saeth i lawr i'w gwaedlyd fron; Diangai gobaith teg ei wawr 'Run fath a'r lili oddiar y ferch, Gan adael iddi hi yn awr Wywedig ros twyllodrus serch. TARO YR HOEL AR EI PHEN. Mae ambell i saer gyda'i forthwyl Yn taro yr hoelen yn gam, Ac ambell i un sydd mor drwsgwl A phe bai'n rhoi'r morthwyl i'w fam; Ond hyn sydd yn iawn a dymunol, Pan godi dy forthwyl i'r nen, Gofala wrth daro, 'n wastadol, I daro yr hoel ar ei phen. Mae llawer areithiwr go ddoniol, 'Nol dodi y testyn i lawr, Yn dwedyd pob peth amgylchiadol, Heb son am ei destyn am awr; Siarada mor ddiflas a phlentyn, A thry wyn ei lygaid i'r nen, Paham nad ai'r dyn at ei destyn, A tharo yr hoel ar ei phen? Aet
PREV.   NEXT  
|<   3   4   5   6   7   8   9   10   11   12   13   14   15   16   17   18   19   20   21   22   23   24   25   26   27  
28   29   30   31   32   33   34   35   36   37   38   39   40   41   42   43   44   45   46   47   48   49   >>  



Top keywords:

harddwch

 

forthwyl

 

ambell

 
chwarddai
 
dewrion
 

beddrod

 

cariad

 
thyner
 

Gwalia

 

bryniau


Nghymru

 

destyn

 

ysbryd

 
gobaith
 

ddiflas

 

ymaith

 

Siarada

 
oerodd
 

gwlith

 
gwenau

geiriau

 
feddai
 

amgylchiadol

 

lygaid

 
gariad
 

Cydwylai

 

phlentyn

 

Gofala

 

morthwyl

 

drwsgwl


hoelen

 

dymunol

 

wastadol

 

twyllodrus

 
treiddiai
 

ddoniol

 
feddwl
 
dwedyd
 
testyn
 

oddiar


Wywedig

 

llawer

 

areithiwr

 
gwaedlyd
 

Diangai

 

diroedd

 

blodau

 
gwastad
 

dolydd

 
diliau