FREE BOOKS

Author's List




PREV.   NEXT  
|<   20   21   22   23   24   25   26   27   28   29   30   31   32   33   34   35   36   37   38   39   40   41   42   43   44  
45   46   47   48   49   >>  
ydymdeimlad calon merch, Gwreichionen olaf bywyd brau Gyneuai'n ol dan law y ddau. Deffroai Mari gyda hyn I gael ei hun mewn gwely gwyn, A gwen trugaredd uwch ei phen Yn edrych ar ei dwyrudd wen. Nid oedd gan wr a gwraig y ty (Lle dodwyd Mari),--blentyn cu, A gall mai dyna'r rheswm pam Y carai'r rheiny gael y fam, Er mwyn cael gwylio'i baban bach Yn tyfu'n llencyn gwridog, iach. Dechreuai'r bychan chwareu'n rhydd, A rhosyn iechyd ar ei rudd, A gweithiai'r fam a chalon rwydd Wrth weld ei gobaith yn ei gwydd Yn tyfu'n hogyn gwyneb crwn, A'i serch ymglymai o gylch hwn. * * * * * Awn heibio i flynyddau maith,-- Fe dyfai'r llanc,--gwnai'r fam y gwaith, Ac ni fu'r blwyddau meithion hyn Heb ambell smotyn hafaidd, gwyn. Edrycha'i llanc yn hoew a chryf, A'i natur fywiog, hoenus, hyf, A godai awydd yn ei fron I fynd yn forwr nwyfus, llon; Dychmygai nad oedd unrhyw ddor Yn agor iddo ond y mor. Fe deimlai'i fam, a theimlai'n flin, Ond ni ddaeth gair dros drothwy'i min, A'r bore ddaeth i'r llanc dinam I rwygo'i hun oddiwrth ei fam. III. Y storm a aeth heibio, a'r dwylaw wnaent gwrdd I gyfarch eu gilydd yn llon ar y bwrdd; "Mae'r cyfan yn fyw," ebe'r Capten yn llon, A diolch a gweddi yn llanw ei fron: "Na!--arhoswch; pa le y mae William ddinam, Y llencyn oedd newydd roi ffarwel i'w fam?" Ond dwedai rhyw un ag ochenaid ddofn, ddofn, "Nid ydwyf yn sicr, ond y mae arnaf ofn Fod drwg wedi digwydd, pan ruai y gwynt, Gan luchio a thaflu y llong ar ei hynt," 'Roedd William yn mrigyn yr hwylbren, hir, praff, Yn ceisio ategu yr hwyl gyda rhaff; Fe ruthrai y gwynt, ac mewn eiliad neu ddwy 'Roedd y llanc wedi myned na welwyd ef mwy. Y tu ol i'r llestr, draw, draw ar y donn, Yn ymladd am fywyd, 'roedd llanc a fu'n llon, A'i obaith a'i nerth ar ddiffygio yn llwyr, A'r t'w'llwch yn dechreu cau amrant yr hwyr; Ar hyn, dacw gwch yn nesau ato ef, A'i hwyliau fel edyn rhyw angel o'r nef; A phan yr oedd William yn suddo i lawr, Wele forwr yn estyn ei ddeheu law fawr I safn y dyfnderau, glafoerllyd, di rol, Gan godi y bachgen i fywyd yn ol. Am oriau bu'n hollol ddideimlad fan hon, Ond rhith weledigaeth oedd fel ger ei fron; Fe welai ei fam yn sylldremio o'r lan, A chlywai'i hochenaid yn esgyn yn wan; A gwelai ofidiau gordrymion a phrudd Yn tynnu eu herydr ar hyd ei dwy rudd; A gwelai ei gartref yn ymyl y nant, A'r pentref, a'r felin, a'r ysgol, a'r plant, Ac yntau ei hunan yn chwareu'n ddinam-- A deig
PREV.   NEXT  
|<   20   21   22   23   24   25   26   27   28   29   30   31   32   33   34   35   36   37   38   39   40   41   42   43   44  
45   46   47   48   49   >>  



Top keywords:

William

 

llencyn

 
chwareu
 

ddaeth

 

ddinam

 
gwelai
 

heibio

 

llestr

 

eiliad

 

obaith


ymladd

 

welwyd

 
mrigyn
 

digwydd

 
ochenaid
 
newydd
 
ffarwel
 

dwedai

 

ceisio

 

ruthrai


hwylbren

 

thaflu

 
luchio
 

chlywai

 

sylldremio

 

hochenaid

 
ofidiau
 

ddideimlad

 

hollol

 

weledigaeth


gordrymion

 

phrudd

 

pentref

 

herydr

 

gartref

 

hwyliau

 

dechreu

 
amrant
 

glafoerllyd

 

bachgen


dyfnderau

 

ddeheu

 
ddiffygio
 
gwridog
 

Dechreuai

 

bychan

 

gwylio

 
rheiny
 

rhosyn

 

iechyd