FREE BOOKS

Author's List




PREV.   NEXT  
|<   30   31   32   33   34   35   36   37   38   39   40   41   42   43   44   45   46   47   48   49   >>  
b dydd, Ddigonedd o lolian a Lili. [Awel Y Bore. "Rhwng hafnau'r bryn uchel mae'r awel erioed Yn smalio a chwareu yn ysgafn ei throed.": myn80.jpg] Y FFARMWR. Y ffarmwr yw bywyd y gwledydd, Rhwng dau gorn yr aradr mae'n byw, Efe yw tywysog y meusydd, Ni phlyga i neb ond ei Dduw; Os ydyw yn chwysu'r cynhaeaf, Ynghanol ei lafur fe gan, Ca wledda yn oerni y gaeaf, A chanu yn ymyl y tan. Pan rua y gwyntoedd a'r stormydd, A phan y daw gwanwyn dilyth, Pan chwery yr wyn ar y dolydd, A robin yn gwneuthur ei nyth, A'r ffarmwr i'r maes gyda'r hadau, A haua ei had yn ei bryd, Er llenwi ei holl ysguboriau A bara i borthi y byd. Pan gasgla ei wenith i'w ydlan, A'i wartheg i'r beudy gerllaw, Fe eistedd yn ymyl y pentan, A chwardda 'r y gwyntoedd a'r gwlaw; Ni wyr am uchelgais na balchder, Ond gwna ei ddyledswydd fel dyn, A cheidw ei feddwl bob amser Ynghanol ei fusnes ei hun. O DEWCH TUA'R MOELYDD. O dewch tua'r moelydd, Lle mae grug y mynydd Yn gwenu yn ei ddillad newydd grai, Mae glesni yr entrych Yn gwenu mor geinwych, Wrth syllu lawr ar geinion mwynion Mai; Dewch i gyd, Dewch tua bro'r grug a'r brwyn, Mae'r dolydd yn deilio, A'r byd yn blodeuo, A'r adar yn llonni yn y llwyn. Ar bennau'r mynyddoedd Mae awel y nefoedd, Yn siarad wrth y nef yng nghlustiau y llawr, Mae dylif o iechyd A ffrwd bur o fywyd, Yng nghol awelon iach y mynydd mawr, Dewch i gyd, &c. Dewch, gwelwch y clogwyn Fel pe bae'n ymestyn Gan godi'i law i'n gwahodd ar ei gefn, Cawn redeg a chwareu Fel iyrchod y creigiau, A chanu can drachefn ar ol trachefn; Dewch i gyd, &c. Mehefin 22, '69, Y GOF. (Y gerddoriaeth gan Proffeswr Parry). Ynghanol haearn, mwg, a than, Mae'r gof yn gwneud ei waith, Ar hyd y dydd, gan gann can O fawl i'w wlad a'i iaith. Gewynau ei fraich sydd mor galed a'r dur, Ei galon, er hynny, sydd dyner a phnr; Mae cyrn ar ei ddwylaw mor gelyd a'r graiw, A dwedir fod corn ar dafod ei wraig. Dechreua holi Sion Jones Ty'n y Nant,-- "Oes eisieu pedoli? Pa sut mae y plant?" Sion Jones yw'r mwyaf gwrol Am daro i wneuthur pedol,-- "On'd yw hi'n dywydd od o bethma, Weithiau'n wlaw, ac weithiau'n eira,-- Chwytha'r tan yn gryfach, Mocyn, Paid a chysgu wrth y fegin,-- Dacw gawod ar y br
PREV.   NEXT  
|<   30   31   32   33   34   35   36   37   38   39   40   41   42   43   44   45   46   47   48   49   >>  



Top keywords:
Ynghanol
 

mynydd

 

dolydd

 

gwyntoedd

 
chwareu
 
ffarmwr
 

trachefn

 

drachefn

 

nefoedd

 
iyrchod

creigiau

 

siarad

 

Mehefin

 

mynyddoedd

 

bennau

 

gwneud

 

haearn

 

gerddoriaeth

 

Proffeswr

 
gwahodd

ymestyn
 

clogwyn

 

gwelwch

 

awelon

 

iechyd

 

nghlustiau

 

dywydd

 

wneuthur

 

bethma

 
Weithiau

chysgu

 
gryfach
 
weithiau
 

Chwytha

 
pedoli
 
eisieu
 
fraich
 

Gewynau

 
Dechreua
 

ddwylaw


dwedir

 
wledda
 

stormydd

 

chwysu

 

cynhaeaf

 

gwanwyn

 

chwery

 

dilyth

 

gwneuthur

 

erioed