FREE BOOKS

Author's List




PREV.   NEXT  
|<   33   34   35   36   37   38   39   40   41   42   43   44   45   46   47   48   49   >>  
l Fel rhyw elyrch gwynion nefol Yn ymdrochi yn y llyn. Rhwyfwn, rhwyfwn, &c., &c. Y FRENHINES A'R GLOWR. (Er cof am waredigaeth y Ty Newydd. Cyfansoddwyd i Mr. D. Emlyn Evans). Y FRENHINES. Brysiwch, fellt, ar hyd y gwifrau, Saethwch dros y bryn a'r ddol, Treiddiwch lawr i'r erch ddyfnderau, Dewch a'r newydd i ni'n ol, A oes gobaith i'r gwroniaid Gipio yspail angau du, A rhoi goleu i'r trueiniaid O glaer lusern gobaith cu. Y GLOWR. Ofnadwy fu'r pryder,--y dychryn oedd fawr, Ar drothwy bytholfyd yn disgwyl yr awr, Ond pan ddaeth curiadau'n cydweithwyr i'n clyw, Deallem fod tan cydymdeimlad yn fyw; A bron ein brenhines o'i gorsedd wen, fawr, Yn toddi o serch dros y glowyr yn awr. Y FRENHINES. Gwisga'r eurdlos ar dy ddwyfron, Gyda llawryf werdd y gwron Cana'r ddaear oll dy fawl. Y GLOWR. Cymer dithau, Buddug dirion, Ddiolchgarwch glowr ffyddlon, I wladgarwch pura'i galon Y mae gennyt gyflawn hawl. Daeth teimlad dyngarol fel tan nef ei hun I rwymo brenhines a glowr yn un, Mae gorsedd a thlodi'n diflannu draw, draw, I rinwedd a chariad gael cydysgwyd llaw. DYCHYMYG HEDA. Dychymyg heda uwch y bedd Lle claddwyd priod anwyl, Ac yno mynn gael gwneud ei sedd I ddisgwyl, ac i ddisgwyl; A gwaeddi'i henw a fynn ef Gan ddisgwyl iddi ateb, Ond ni adseinia dynol lef Yn awyr tragwyddoldeb. Lle gwraig sy'n wag trwy'r oll o'r ty, A gwraig heb ail yn unman; Lle mam sy'n wag--"y man lle bu" Adseinia'r gwagle'n mhobman; Ac uwch ei llun y serch a ddaw I sylweddoli'r cyfryw; Ond adlais rheswm dd'wed o draw, "Y llun yn unig ydyw!" Pwy geidw'r plant rhag derbyn cam,-- Pwy wylia dros y rhei'ny? I'r tair sy'n galw am eu mam-- Gair gwag am byth yw "mami!" Ond hyn sy'n gysur, onid yw, Tra'n wylo uwch y marw, Fod Tad amddifaid eto'n fyw-- MAE EF YN LLOND EI ENW! OS DU YW'R CWMWL. (Llinellau er coffadwriaeth am Mrs. Sarah Davies, 153, St. George Street East, Llundain). Os du yw'r cwmwl uwch eich pen, Wrth golli'ch anwyl briod, Os nad oes rhwygiad yn y llen I weld pa beth sydd uchod; Mae Tad y gweddwon eto'n fyw, A'r cwmwl a symuda, Cewch weld fod gwenau wyneb Duw Tu ol i'r cwmwl yna. Y teimlad ddwed,--"Mae niwl y glyn Yn oeraidd i'm hanwylyd, Mor gas i serch yw'r amdo gwyn, Yr arch, a phridd y gweryd:" Ond ffydd sy'n edrych dros y bedd Draw, draw, i'r nefol hafan, Lle mae eic
PREV.   NEXT  
|<   33   34   35   36   37   38   39   40   41   42   43   44   45   46   47   48   49   >>  



Top keywords:

ddisgwyl

 

FRENHINES

 

gorsedd

 
brenhines
 
teimlad
 

gobaith

 

gwraig

 
tragwyddoldeb
 

mhobman

 

adlais


cyfryw

 

sylweddoli

 

rheswm

 
Adseinia
 

gwagle

 

derbyn

 

gwenau

 
symuda
 

gweddwon

 
oeraidd

gweryd

 
edrych
 

phridd

 

hanwylyd

 
rhwygiad
 

Llinellau

 

coffadwriaeth

 

amddifaid

 

Llundain

 

Davies


George

 

Street

 

DYCHYMYG

 

trueiniaid

 
lusern
 

Ofnadwy

 
newydd
 
gwroniaid
 
yspail
 

pryder


ddaeth

 

curiadau

 

cydweithwyr

 
Deallem
 

disgwyl

 

dychryn

 

drothwy

 
bytholfyd
 

ddyfnderau

 
rhwyfwn