FREE BOOKS

Author's List




PREV.   NEXT  
|<   35   36   37   38   39   40   41   42   43   44   45   46   47   48   49   >>  
na bae fory yn dod. Ces lythyr ers echdoe gan rywun, Agorais y sel yn y fan, Yn hwnnw fe sonnir gan rywun Am gariad, a modrwy, a llan; Mae'i eiriau'n felusach na'r diliau, A'i lygad fel awyr las, glir, Mae'n dwedyd y car fi hyd angeu, A gwn nad all ddweyd ond y gwir. Mae rhywun yn dod bore fory, Mae'n sicr o ddod yn ddi-feth, Mae rhywun a finnau'n priodi, Ond pwy ydyw rhywun yw'r peth; Ie, pwy ydyw rhywun yw'r cwestiwn, Mae'i ruddiau cyn hardded a'r rhos, Os daw bore fory, mi fyddaf 'Run enw a rhywun cyn nos. YSGYDWAD Y LLAW. (Can. Y gerddoriaeth gan Mr. Jos. Parry Mus. Doc.). Bum yn ysgwyd fy llaw a llawer, A'u gafael yn oer ddi-fraw; Nid ydoedd y galon gynnes I'w theimlo yn dod i'r llaw; Mae ereill ymron ag ofni I'w llaw gael llychwino'i gwawr, Ond caraf gael llaw i'w hysgwyd A galedwyd gan lafur mawr. Bum yn ysgwyd y llaw wen, dyner, Pe buasai y rhos di-ail Rhwng bysedd y llaw wen honno Ni buasai yn siglo'i ddail; Ond teimlais guriadau'r galon Yn rhedeg i ben pob bys, A theimlais onestrwydd yno Fel yn gwefrio y fron ar frys. Fe ddywedir fod iaith y galon I'w darllen ar ruddiau dyn, Ac y saetha o'r llygaid gariad, Sydd yn gryfach na nerth ei hun; Ond gwelais fod twyll mewn gwenau, Edrychant yn deg o draw, Ond ni cha'dd fy mron ei thwyllo Erioed pan yn ysgwyd llaw. GRUFFYDD AP CYNAN. Ar fore teg flynyddau'n ol, Ffarweliodd Gruffydd gyda fi, Wrth ysgwyd llaw dros gamfa'r ddol, Ein dagrau redent fel y lli; Ysgydwai'i gledd yn nhrofa'r ffordd I ddwedyd wrthyf ffarwel mud, Tra'm calon innau megis gordd Yn curo'n gynt, yn gynt o hyd. Cychwynnai ef i'r rhyfel trwm, I ganol erch elynol lu, A chyda chalon fel y plwm, Cychwynnais innau'n ol i'r ty; Ond gyrrodd Gruffydd weddi fyw Gynhwysai f'enw i i'r nef, A chlywodd clust agored Duw Fy ngweddi innau drosto ef. Ar ddydd y frwydr trwy'r prynhawn, Tra'r o'wn yn synfyfyrio'n ffol, Breuddwydiais freuddwyd rhyfedd iawn,-- Fod Gruffydd wedi dod yn ol; Y bore ddaeth, a daeth y post, Gan gludo newydd prudd dros ben, Fod Gruffydd wedi'i glwyfo'n dost, Ag eisieu gweld ei eneth wen. Cychwynais ato yn y fan,-- Ce's edrych ar ei welw rudd,-- Cyn hedeg o'i anfarwol ran I weld ei Dduw mewn gwlad o ddydd; "Ffarwel, fy ngeneth," ebai ef, "Mae telyn yn fy nisgwyl i, A honno, meddai engyl nef, Y nesaf un i'th delyn d
PREV.   NEXT  
|<   35   36   37   38   39   40   41   42   43   44   45   46   47   48   49   >>  



Top keywords:

rhywun

 

ysgwyd

 
Gruffydd
 

buasai

 
ruddiau
 

gariad

 

flynyddau

 

GRUFFYDD

 

Cychwynnais

 

Erioed


elynol

 
chalon
 

Cychwynnai

 

Ffarweliodd

 
nhrofa
 
ffordd
 
ffarwel
 

ddwedyd

 

gyrrodd

 
dagrau

wrthyf
 

redent

 

Ysgydwai

 

rhyfel

 
prynhawn
 
anfarwol
 

edrych

 

eisieu

 

Cychwynais

 

meddai


nisgwyl
 

Ffarwel

 

ngeneth

 

ngweddi

 

drosto

 

frwydr

 

thwyllo

 

agored

 

Gynhwysai

 
chlywodd

synfyfyrio

 
newydd
 
glwyfo
 

ddaeth

 

Breuddwydiais

 
freuddwyd
 

rhyfedd

 
hardded
 

cwestiwn

 
fyddaf