FREE BOOKS

Author's List




PREV.   NEXT  
|<   21   22   23   24   25   26   27   28   29   30   31   32   33   34   35   36   37   38   39   40   41   42   43   44   45  
46   47   48   49   >>  
ryn yn treiglo o lygad ei fam. Gofynnai'n ei freuddwyd,--"Mam, pam yr ydych chwi Yn wylo eich dagrau cariadus yn lli?" A hithau yn ateb fel hyn yn y fan,-- "'Rwy'n cofio fy machgen yn faban bach gwan, Ac wedyn yn tyfu mewn nerth ac mewn oed I neidio a chwareu o amgylch fy nhroed." Ar hyn daeth rhyw niwl dros ei feddwl yn chwim, A'i fam a ddiflannodd fel cysgod yn ddim; A gwelai len arall yn lledu o'i flaen, A breuddwyd mewn breuddwyd yn agor o'i flaen. Ymhellach yn ol, fe welai ei fam Yn suo a hwian ei baban dinam, Ar hyn, dyna rywun yn cnocio yn hy, A morwr cryf, barfog, yn dyfod i'r ty, A safai cyn dechreu llefaru; Nid hir y bu yno cyn gweled ei wraig, A deigryn a safai ar rudd oedd fel craig, Ymgrymai i roddi ei gusan i hon, A'r cwbl a ddwedodd a'i ben ar ei bron,-- "Fy Mari, O fy Mari!" Ond William ddeffroai yn raddol ar hyn, A bywyd ail wridai ei wyneb gwyn, gwyn, A gwybu yn fuan mai morwr cryf, llon, A'i cipiodd mor wyrthiol o afael y donn; 'Roedd hwnnw ac ereill yn dianc o Ffrainc, Pan oedd yr hen Boni yn llywydd y fainc. A phan y daeth William i fywyd yn ol, 'Roedd y wawr yn ymgodi a'r haul yn ei chol, Gan chwalu y t'w'llwch a'r caddug ar daen, A bryniau hen Gymru 'n ymgodi o'i flaen. Edrychai'n fyfyriol ymlaen tua'r tir, A'i freuddwyd yn gwibio trwy'i feddwl mor glir, A syllai bob 'nail ar y morwr hardd, cryf, Yr hwn a achubodd ei fywyd mor hyf; A chofiai ei freuddwyd, ei gartref, a'r dyn Yn curo y drws, ac yn agor ei hun, Ac nis gall anghofio y dyn yn ei fyw, Wrth weled y morwr yn gweithio y llyw. "Paham yr edrychwch i'm gwyneb o hyd?" Gofynnai y morwr, tra gwrol ei bryd; "Myfyrio yr oeddwn ar freuddwyd tra ffol," Medd William, gan syllu i'r glannau yn ol, "Lle gwelais fy hunan yn blentyn di-nam, Yn chwareu o amgylch i liniau ei fam;-- Lle clywais i rywun yn curo yn hy', A morwr o rywle yn dyfod i'r ty, A synnu yr oeddwn, mor debyg i chwi Oedd hwnnw a welais yn dod i'n ty ni." "Dywedwch i mi," ebe'r morwr yn awr, Gan syllu drwy bellder goleuni y wawr, "A oes gan eich mam lygad glas yn ei phen Sy'n ganmil disgleiriach na glesni y nen? Oes ganddi hi ruddiau, dywedwch yn rhwydd, A wrident yr eira pe bae yn eu gwydd? Oes ganddi hi wallt fel y nos ar ei phen Yn disgyn fel cwmwl ar hyd ei grudd wen? Ond gall, o ran hynny, fod main gennych chwi Yn ateb i'r darlun a dynnir gen i, A mi heb ei gweled mewn llan nac mewn llys, Ond,--welsoch chwi fodrwy ryw dro ar ei bys, A math
PREV.   NEXT  
|<   21   22   23   24   25   26   27   28   29   30   31   32   33   34   35   36   37   38   39   40   41   42   43   44   45  
46   47   48   49   >>  



Top keywords:

freuddwyd

 

William

 

breuddwyd

 
ganddi
 
gweled
 

ymgodi

 

oeddwn

 
amgylch
 

chwareu

 

Gofynnai


feddwl

 

gwyneb

 

edrychwch

 
dynnir
 

gennych

 

glannau

 

Myfyrio

 
darlun
 

chofiai

 
gartref

achubodd

 
gwelais
 

anghofio

 

fodrwy

 
welsoch
 

gweithio

 

blentyn

 

syllai

 

goleuni

 

ganmil


wrident

 

rhwydd

 

ruddiau

 

disgleiriach

 
glesni
 

bellder

 
clywais
 
liniau
 
dywedwch
 

welais


disgyn

 

Dywedwch

 

Ymhellach

 
gwelai
 

ddiflannodd

 

cysgod

 

llefaru

 
dechreu
 

barfog

 
cnocio