FREE BOOKS

Author's List




PREV.   NEXT  
|<   15   16   17   18   19   20   21   22   23   24   25   26   27   28   29   30   31   32   33   34   35   36   37   38   39  
40   41   42   43   44   45   46   47   48   49   >>  
briodas, Holwch briddellau maes Bosworth yn awr, Yno coronwyd dymuniad y deyrnas, Ac yno y syrthiodd gormesdeyrn i lawr; Mae adsain y fanllef fuddugol trwy'r oesau Yn gwibio o glogwyn i glogwyn trwy'n gwlad, Bydd clod Harri Tudur a dewrder ein tadau Ar ol y fath ymdrech mewn bythol fawrhad. Esgynnwn i'n mynyddau, A holwn hen garneddau Sy'n cadw llwch ein tadau Ar ol blinderus hynt; Ateba'u llwch o'r beddau Fod gwaed ar hyd eu llwybrau, A myrdd o orthrymderau Yn blino Cymru gynt. Ond wedi i'r Tuduriaid Gael dod yn benaduriaid, Cyduna'r holl Brydeiniaid I ufuddhau i'w pen; Mae aeron per y blodau Yn tyfu'n meusydd brwydrau, A heddwch lond calonnau Hen deulu'r Ynys Wen. Ar orsedd bena'r ddaear, Dan goron hardda'r byd, Eistedda Buddug hawddgar Dan wenau'r nef bob pryd; Mae gwaed brenhinol Owain Yn llifo trwy'r llaw sydd Yn dal teyrnwialen Prydain Uwchben miliynnau rhydd. Y fesen a blanwyd ar ddydd y briodas Dyfodd yn dderwen gadarna'n y byd, Dau begwn y ddaear yw terfyn y deyrnas, A chariad yn rhwymo y deiliaid ynghyd; Gogledd a deau sy'n dangos eu miloedd O ddeiliaid i orsedd Victoria a dwng,-- "Mae gan ein Brenhines ddigonedd o diroedd I'r llew mawr Brytanaidd i ysgwyd ei fwng." Na foed adseiniau'n cymoedd Yn cael eu deffro mwy I ateb swn rhyfeloedd Ar hyd eu llethrau hwy; Tywysog gwlad y bryniau A ddalio tra bo byw, Yn noddwr i rinweddau Dan nodded llaw ei Dduw. Y DDRAENEN WEN. Eisteddais dan y ddraenen wen Pan chwarddai bywyd Ebrill cu Mewn mil o ddail o gylch fy mhen, A myrdd o friall o bob tu; Eisteddai William gyda'i Wen, Ac Ebrill yn ei ruddiau gwiw, Tra canai'r fwyalch uwch ein pen Ei chalon yn ei chan i Dduw; Rhoi William friall ar fy mron, A modrwy aur yn llaw ei Wen; Mi gofiaf byth yr adeg hon Wrth eistedd dan y ddraenen wen. IFAN FY NGHEFNDER. Dyma godl yn dwbl odli; 'E wnes y prawf o ran spri. Aeth Ifan fy nghefnder yn ysgafn ei droed, Ryw noson i hebrwng ei Fari; A phan wrth y gamfa sy'n troi at Ty'n Coed, Fe daflodd ei fraich am ei gwarr hi. Ond cyn iddo prin i gael amser i ddweyd,-- "Pa bryd caf dy weled di eto?" Na gwybod yn hollol pa beth oedd o 'n wneud, Aeth awel o wynt gyda'i het o. A phan oedd o 'n rhedeg a dim am ei ben, I geisio, a ffaelu dal honno, Fe welai ar ol dod yn ol at ei wen Fod y ci wedi dianc a'i ffon o. Heb hidio
PREV.   NEXT  
|<   15   16   17   18   19   20   21   22   23   24   25   26   27   28   29   30   31   32   33   34   35   36   37   38   39  
40   41   42   43   44   45   46   47   48   49   >>  



Top keywords:
friall
 

William

 

Ebrill

 
ddraenen
 

glogwyn

 

briodas

 

ddaear

 

deyrnas

 
orsedd
 
chalon

bryniau

 

eistedd

 

modrwy

 

Tywysog

 

gofiaf

 

noddwr

 

chwarddai

 

Eisteddais

 

DDRAENEN

 
nodded

rinweddau
 

ddalio

 
fwyalch
 

ruddiau

 

Eisteddai

 

gwybod

 

hollol

 
ddweyd
 
ffaelu
 

rhedeg


geisio
 

nghefnder

 

ysgafn

 

NGHEFNDER

 

llethrau

 

fraich

 

daflodd

 

hebrwng

 

ddeiliaid

 

orthrymderau


llwybrau

 

Tuduriaid

 

beddau

 
garneddau
 

blinderus

 

benaduriaid

 

blodau

 

meusydd

 

brwydrau

 

heddwch