FREE BOOKS

Author's List




PREV.   NEXT  
|<   6   7   8   9   10   11   12   13   14   15   16   17   18   19   20   21   22   23   24   25   26   27   28   29   30  
31   32   33   34   35   36   37   38   39   40   41   42   43   44   45   46   47   48   49   >>  
dref Am fenthyg tri a thair. Ond os ceisia dyn, &c. Fe ddwedodd cyfaill wrthyf fi Y gwyddai hanes merch, A wnaethai'r tro i'r dim i mi I fod yn wrthrych serch; Gwraig weddw oedd, yn berchen stor O bopeth, heb ddim plant, A chanddi arian lond dwy dror, Ac yn ddim ond hanner cant. Ond os ceisia dyn, &c. Bum i ryw dro ers blwydd neu ddwy, Ar bwynt priodi un; Cyn mynd at allor llan y plwy, Fel hyn gofynnai'r fun,-- "Mae gennyf fam a phedair chwaer Sy'n anwyl iawn gen i, A gaiff y rhain, wrth fegio'n daer, I gyd fyw gyda ni?" Ond os ceisia dyn, &c. AWN, AWN I'R GAD. (Canig gan Gwilym Gwent). Awn, awn i'r gad, Awn, awn yn awr; Awn dros ein gwlad, Awn, awn yn awr; Calon y dewr Gura yn gynt, Baner a chledd Sy'n chwyfio yn y gwynt; Blaenor y llu Sy'n arwain i glod, A geiriau o dan O'i enau yn dod. Seren y goncwest sy'n gwenu fry Dros ein hanwyl wlad; Cael tynnu'r cledd sydd wledd i ni. EISTEDD MEWN BERFA. Tra'r oeddwn yn rhodio un diwrnod, A'r haul yn tywynnu mor llon, Mi ddaethum 'nol hir bererindod I bentref ar ochr y fron; A gwelwn ryw hogyn segurllyd Yn eistedd mewn berfa fel dyn, Gan wneud pob ymdrechion a allai Ar ferfa i yrru ei hun; Fel hwnnw yn union mae ambell i ddyn Yn eistedd mewn berfa i yrru ei hun. Os gwelwch chwi grefftwr go gywrain Yn gadael ei fwyall neu'i ordd, I sefyll tu allan i'w weithdy I siarad a phawb ar y ffordd; Neu holi am weithdai'r gymdogaeth A hanes y gweithwyr bob un, Heb feddwl am weithio ei hunan Y gwaith sy'n ei weithdy ei hun; Mae hwnnw'n lled debyg bob amser i ddyn Sy'n eistedd mewn berfa i yrru ei hun. Ceir ambell amaethwr dioglyd Na welwyd erioed arno frys, Mae'n well ganddo orwedd pythefnos Na cholli dyferyn o chwys; Ni chreda mewn cael ei gynhaeaf Tra'r haul yn tywynnu ar fryn, Ond creda mewn gadael ei feusydd I ofal y gweision a'r chwyn; Mae ffarmwr fel yna bob amser yn ddyn Sy'n eistedd mewn berfa i yrru ei hun. Pan welir masnachydd neu siopwr Yn gadael eu masnach trwy'r dydd, I ofal prentisiaid a chlercod, Nid 'chydig y difrod a fydd; Ond odid na chlywir yn fuan Am feili yn dod i roi stop, A'r writ mae'n ei roi i'r perchennog Sy'n dweyd, "Aeth yr hwch trwy y siop;" Mae siopwr fel yna bob amser yn ddyn Sy'n eistedd mewn berfa i yrru ei hun. Mawrth 2, '76. Y FRWYDR. Clywch, clywch Y
PREV.   NEXT  
|<   6   7   8   9   10   11   12   13   14   15   16   17   18   19   20   21   22   23   24   25   26   27   28   29   30  
31   32   33   34   35   36   37   38   39   40   41   42   43   44   45   46   47   48   49   >>  



Top keywords:

eistedd

 

gadael

 

ceisia

 
weithdy
 
tywynnu
 

siopwr

 

ambell

 
siarad
 

ffordd

 

weithdai


gweithwyr

 

gymdogaeth

 

ymdrechion

 
gwelwn
 

segurllyd

 

feddwl

 

sefyll

 
fwyall
 

gywrain

 
gwelwch

grefftwr

 
difrod
 

chlywir

 

chydig

 
masnachydd
 

masnach

 

chlercod

 

prentisiaid

 

Mawrth

 

FRWYDR


clywch

 

Clywch

 

perchennog

 

erioed

 
welwyd
 

ganddo

 
dioglyd
 
amaethwr
 
gwaith
 

orwedd


pythefnos

 

feusydd

 

gweision

 
ffarmwr
 

gynhaeaf

 

dyferyn

 

cholli

 
chreda
 

weithio

 
blwydd