FREE BOOKS

Author's List




PREV.   NEXT  
|<   11   12   13   14   15   16   17   18   19   20   21   22   23   24   25   26   27   28   29   30   31   32   33   34   35  
36   37   38   39   40   41   42   43   44   45   46   47   48   49   >>  
Ofnatsen gynddeirus, yn te, Peth hwnnw yw gweled rhai'n bethma Fel tase, fel tau, yn te. Ym Mon chwi gewch glywed miawn mynyd, A llawer o siarad a stwr, A phawb fel pe tae yn dywedyd Cymraeg o'r "sort oreu reit siwr." Pan ddeuwch chwi drosodd i Arfon, Cewch "firi di-wedd" ym mhob lle, A'r enw roir yno ar feddwon Yw "chwil ulw beipan" yn te. Fel tau, &c. Os ewch tua Meirion a morol, Cewch giasag i fynd ar ei thraws, A ciariad, a ciarag, a cianol, A ciamu, a ciamfa, a ciaws; Ac yno fel pobman trwy'r gogledd, Mae'r pla wedi taenu'n mhob lle, Yn te ydyw'r dechreu a'r diwedd, Yn te ydyw'r bethma yn te. Fel tau, &c. Os ewch chwi i lawr tua'r Deheu, 'Run siwt mae hi obry yn awr, Mae pawb gan ta pun ar ei oreu Yn dishgwl yn ffamws i lawr; Mae pawb yno'n grwt neu yn grotan, Yn whleia a'u giddil o hyd, Wy'n sposo taw dyna y bachan Sy'n cwnni yn awr yn y byd. Fel tau, &c. Chwef., '73. GWRANDO'N RASOL AR EIN CRI. (EMYN). Groesaw'n awr! I Iesu'n brawd, Ar liniau Mair mewn natur dyn, Ac ar y groes cymerai'n gwawd A'n beiau trymion arno'i hun; Clyw ein gweddi, Geidwad cu, Gwrando'n rasol ar ein cri. Dros bechadur, rhedai'n lli Waed a dwfr, o'i anwyl fron. Dyma'r ffynnon! Boed i ni Olchi'n beiau i ffwrdd yn hon; Clyw ein gweddi, Geidwad cu, Gwrando'n rasol ar ein cri. Y MEDLEY CYMRAEG. Fel 'roeddwn yn rhodio ar doriad y wawrddydd, Pan ganai yr adar yn felus a llon, Pan dyfai'r blodionos ar gloddiau y dolydd, A'r gwlith ar eu gruddiau o amgylch Llwyn Onn, 'Roedd geneth yn godro yn ddifyr tan ganu, A nesais i weled pwy ydoedd y ferch, A gwelwn Ferch Megan ei hun Mor iached a'r rhosyn, A'i llygaid yn dan o fywyd a serch; 'Roedd adar y llwyn Yn tewi i wrando Er clywed y gan a ganai fel Hen ferch yn gwau ei hosan, Ar hyd y nos, A'i gweill bach glic glic yn clecian Ar hyd y nos, Canai'r gath ar ben y pentan, Canai hithau ganig ddiddan, Tra y canai'r gwynt tu allan Ar hyd y nos; Rhedai'i meddwl tra yn canu At wroldeb yr hen Gymry Pan oedd gwaedlyd y gyflafan, Gan wyr Harlech ruthrent allan Nes adseiniai bryniau anian Floedd y rhain i'r gad; Benyr grogent ar hen greigiau, A neuaddoedd y mynyddau Ail ddywedent y bloeddiadau Dros ein hanwyl wlad; Rhuthrent tua'r dyffryn, Gledd yng nghledd a'r gelyn, Gwyr mewn gwae
PREV.   NEXT  
|<   11   12   13   14   15   16   17   18   19   20   21   22   23   24   25   26   27   28   29   30   31   32   33   34   35  
36   37   38   39   40   41   42   43   44   45   46   47   48   49   >>  



Top keywords:

Gwrando

 

Geidwad

 
gweddi
 

bethma

 
llygaid
 

nesais

 

rhosyn

 

gwelwn

 

ydoedd

 

iached


gloddiau

 
rhodio
 

roeddwn

 

doriad

 
wawrddydd
 
CYMRAEG
 
MEDLEY
 

ffwrdd

 

geneth

 
ddifyr

amgylch
 

gruddiau

 

blodionos

 

dolydd

 
gwlith
 
clecian
 

Floedd

 

greigiau

 

grogent

 

bryniau


Harlech
 

ruthrent

 

adseiniai

 

neuaddoedd

 

mynyddau

 

nghledd

 

dyffryn

 

Rhuthrent

 

ddywedent

 
bloeddiadau

hanwyl

 
gyflafan
 
gwaedlyd
 

gweill

 

pentan

 
wrando
 

clywed

 
hithau
 

wroldeb

 
meddwl