FREE BOOKS

Author's List




PREV.   NEXT  
|<   27   28   29   30   31   32   33   34   35   36   37   38   39   40   41   42   43   44   45   46   47   48   49   >>  
l, yn disgwyl am air gyda hi, Ond ofer yw disgwyl wrth awel y nef, Ac ofer yw disgwyl wrth donnau y lli; Gwneud storm yn fy mynwes mae storm yn y nen, A thynnu fy nagrau mae dafnau y gwlaw, O eisieu bod rhywun yn cofio ei Wen, Ac eisieu cael gweled ysgrifen ei law. Daw'r mellt mewn trugaredd Drwy swynol gyfaredd, A newydd i rai dros y gwyrddlas li, Ond llawn o gynddaredd Yw'r mellt a'r taranau uwchben ein ty ni; Mi rois iddo 'nghalon, a rhois iddo'm llaw, 'Rwy'n disgwyl, 'rwy'n disgwyl, a disgwyl nes daw. CLYWCH Y FLOEDD I'R FEWYDR. ("Cambrian War Song," gan Mr. Brinley Richards). Clywch y floedd i'r frwydr, Bloedd dros ryddid Cymru, Ar y mynydd uchel draw Llysg tafodau tan; Clywch gleddyfau'n tincian, A banerau'n clecian, Cymry sydd yn dyfod allan, Dros hen wlad y gan; Er fod rhengau'r gelyn Yn ymgau i'n herbyn, Mynnwn weled Cymru'n rhydd, Neu farw yn y gad; Fyny a'r banerau, Chwifiwn ein cleddyfau, Codwn floedd nes rhwygo'r nen, Cymru ddaw yn rhydd. Swn y gwynt pruddglwyfus Sua yn y coed, Hithau'r gornant nwyfus, Chwery wrth fy nhroed; Huno y mae popeth Dan y cwrlid rhew, Tra ffarwelia geneth Gyda'i milwr glew. Clywch y floedd yn codi,-- Bloedd dros ryddid Cymru, Mynnwn weled Cymru'n rhydd Neu farw dros ein gwlad; Rhyddid ddaw i'n gwenau Gyda gwawr y borau Gwaedda ysbryd Cymru gynt,-- "Awn ymlaen i'r gad." Fyny a'r banerau, Chwifiwn ein cleddyfau, Codwn floedd nes rhwygo'r nen, Cymru ddaw yn rhydd; Clywch y floedd yn codi, Mynnwn weld hen Gymru'n rhydd. DYMA BEDWAR GWEITHIWR. Dyma bedwar gweithiwr dedwydd Gyda chydymdeimlad llwyr, Gydgychwynant gyda'r wawrddydd, Gyd-ddychwelant gyda'r hwyr; Maent yn meddu gwragedd hawddgar, Gyda phedwar bwthyn iach, Ae mae gan bob un o'r pedwar Bob i bedwar plentyn bach. Dringa'r pedwar aeliau'r creigydd, Tyllant gernau'r clogwyn cas, Ac a'r pedwar dan y mynydd Ar ol gwythi'r lechen las; Pedwar diben sydd i'r pedwar, Tra mae'r pedwar yn cydfyw, Caru'u gwaith, eu gwragedd hawddgar, Caru'u gwlad, a charu Duw. (Caneuon y Chwarelwyr, ar ymor yn agos i'r Werddon, Mawrth 10fed, '77). HEN AWRLAIS TAL Y TEULU. Glywch chwi gloch yr awrlais Sydd yn taro awr 'rol awr? Mal "un, dau, tri, pedwar, pump, chwech," Medd hen awrlais tal y teulu; Ar y pared yma bu Yn amser ein hen deidiau, Fel rhyw fynach
PREV.   NEXT  
|<   27   28   29   30   31   32   33   34   35   36   37   38   39   40   41   42   43   44   45   46   47   48   49   >>  



Top keywords:

disgwyl

 

pedwar

 

floedd

 

Clywch

 
banerau
 
Mynnwn
 

ryddid

 

Bloedd

 

mynydd

 

hawddgar


gwragedd

 

bedwar

 

awrlais

 

Chwifiwn

 

rhwygo

 

cleddyfau

 

eisieu

 
phedwar
 

bwthyn

 

clogwyn


gernau
 
Tyllant
 

Dringa

 

aeliau

 

creigydd

 

plentyn

 

BEDWAR

 
GWEITHIWR
 

ymlaen

 

Gwaedda


ysbryd

 
ddychwelant
 

gwythi

 
wawrddydd
 

Gydgychwynant

 

gweithiwr

 
dedwydd
 
chydymdeimlad
 

chwech

 

deidiau


fynach

 

Glywch

 

gwaith

 

Caneuon

 

Pedwar

 

cydfyw

 
Chwarelwyr
 

AWRLAIS

 
Werddon
 

Mawrth