FREE BOOKS

Author's List




PREV.   NEXT  
|<   39   40   41   42   43   44   45   46   47   48   49   >>  
wadau'r hanner pan; A dywedai,--"Mi glywais fod merched yn wylltion, Mae nhw'n magu plu'--ant i 'hedeg yn union." O DEWCH I BEN Y MYNYDD. (Y gerddoriaeth gan Mr. D. Emlyn Evans). O dewch i ben y mynydd draw, I weld yr haul yn machlud, A natur gyda'i thyner law Yn cau amrantau bywyd. Fel arwr dan ei glwyf yr huan cun Orwedda'n bruddaidd yn ei waed ei hun, A'r llen sy'n derfyn rhwng y nos a'r dydd A deflir dros ei wyneb prudd. Ond wele'r ser yn filoedd Ar hyd yr wybren dlos, Mor ddisglair y cabolwyd Botymau gwisg y nos; Os yw yr haul yn dangos Prydferthion daear gref, Mae'r nos, er twylled ydyw, Yn dangos mwy o'r nef. OS YDYM AM FYND TRWY Y BYD. Os ydym am fynd trwy y byd Heb gwrdd a phrofedigaeth, A chael yr haul uwch ben o hyd, Heb gwmwl siomedigaeth; A throi gofidiau o bob rhyw, I gyd yn fel a menyn, Y ffordd i ni yw dysgu byw I gyd 'run fath a'r gwenyn. Awn fel y gwenyn at ein gwaith, Pan d'wyna haul y borau, Bydd melus dod yn ol o'r daith Dan lwyth o'r golud gorau; Dos, ddyn, i'r maes, ac yno gwel Ryw gyfoeth ar bob cangen, Mae Duw yn dangos lle mae'r mel I'r sawl sydd arno'i angen. Os gwlawia'r nen drallodion lawr, Paid bod yn llwfrddyn claear, A phaid a gwneud rhyw fynydd mawr O dwmpath pridd twrch daear; Os gweli rywdro yspryd syn, Wel, paid a mynd i grynu, Sylldremia yn ei wyneb gwyn, Mae'n sicr o ddychrynu. Os daw ynfydion ar eu taith I gynnyg dy hyfforddi, Dos di ymlaen i wneud dy waith Ynghanol eu baldorddi; Os daw celwyddau gyda'r gwynt, 'Run fath a'r gwynt darfyddant, Mae rhaffau celwydd ym mhob hynt Yn crogi'r rhai a'u nyddant. Mae'n rhaid i'r storm gael rhuo'n brudd, A ffyliaid fod yn ffyliaid, Er hynny, synwyr wel y dydd I gladdu pennau byliaid; Gan hynny rhwym dy wregys cryf Pan fflachia'r mellt yn d'ymyl, Ac edrych am yr haul yn hyf-- Mae ef tu ol i'r cymyl. Os wyt am gadw ar ffordd y gwir A gochel bradus heidiau, Gwell iti gadw'th draed o dir Gwleidyddiaeth a'i holl bleidiau; Mae "A. B. C." gwleidyddwyr tynn A "V" ar ben y wyddor, Ond main yw'r lle a geir i'r hyn A elwir yn egwyddor. Paid gwisgo'th galon ar dy fraich Os na fydd eisieu hynny, A phaid a chrymu dan dy faich, Ond cwyd dy ben i fyny; Boed gwres ymroddiad yn dy waed, A dywed trwy bob tywydd, Fod daear rhyddid dan dy draed, A Duw uwch ben yn llywydd. MIL MWY
PREV.   NEXT  
|<   39   40   41   42   43   44   45   46   47   48   49   >>  



Top keywords:

dangos

 

gwenyn

 

ffyliaid

 

ffordd

 
dwmpath
 
celwydd
 

darfyddant

 

rhaffau

 

gwneud

 

llwfrddyn


claear

 

fynydd

 

ddychrynu

 

ymlaen

 

gynnyg

 

ynfydion

 

hyfforddi

 
Ynghanol
 

nyddant

 

yspryd


rywdro
 
celwyddau
 

Sylldremia

 

baldorddi

 

egwyddor

 

gwisgo

 

fraich

 
gwleidyddwyr
 

wyddor

 

eisieu


tywydd

 
rhyddid
 

llywydd

 
ymroddiad
 

chrymu

 

bleidiau

 
byliaid
 
pennau
 

wregys

 

fflachia


gladdu

 

synwyr

 

heidiau

 

bradus

 

Gwleidyddiaeth

 

gochel

 
edrych
 

Orwedda

 
bruddaidd
 

amrantau