FREE BOOKS

Author's List




PREV.   NEXT  
|<   5   6   7   8   9   10   11   12   13   14   15   16   17   18   19   20   21   22   23   24   25   26   27   28   29  
30   31   32   33   34   35   36   37   38   39   40   41   42   43   44   45   46   47   48   49   >>  
yll draw, 'Rwy'n gadael dolydd ar bob llaw, Gan dynnu darlun ar fy mron O'r cwmwl gwyn a'r nefoedd lon. "Yn llawn plentynaidd ffydd 'rwy'n mynd, Ond i ba le, nis gwn, fy ffrynd; Yr Hwn rodd fod i'm dafnau llaith Yw'r Hwn a'm harwain hyd fy nhaith. Mai 18, 1877. Y DERYN YSGAFNAF YN UCHAF. Mae ambell aderyn lled fychan, Mae ambell aderyn lled fawr, Mae rhai yn ehedeg yn uchel, Ac ereill yn ymyl y llawr; Ceir rhai ddigon ysgafn i hedeg I ymyl y lleuad mor llon, A'r lleill sydd yn llawer rhy drymion I hedeg 'run dwylath o'r bron; Ond dyma'r gwirionedd yn hanes y byd, Mai'r deryn ysgafnaf yw'r uchaf o hyd. Os gwelwch ysgogyn go wyntog Yn chwyddo'n anferthol o fawr, O'r braidd y mae gan ei ysgafnder Yn cyffwrdd ei draed yn y llawr; 'Does ryfedd ei fod yn ymgodi I fyny fel pluen i'r nen, 'Does ganddo ddim pwysau'n ei boced, Na gronyn o bwysau'n ei ben. Ond dyma'r gwirionedd, &c. Ceir ambell i eneth benchwiban Yn gwerthu gwyleidd-dra a moes, Ysgafnder yw nodwedd ei meddwl, Ysgafnder yw nodwedd ei hoes; Nid rhaid iddi bluo ei bonnet, Na llenwi ei gwallt gyda charth, Mae digon o bluf yn ei henaid I'w chario i amharch a gwarth. Ond dyma'r gwirionedd, &c. Edrychwch i'r ffair ac i'r farchnad, Ysgafnder sydd yno'n mhob man, Ynghanol brefiadau y lloiau Mae'n codi yr uchaf i'r lan; Mae Satan yn pluo adenydd Rhai dynion i'w codi am awr; Ond cofiwch mai eu codi mae Satan Er mwyn cael eu taro i lawr. Ond dyma'r gwirionedd, &c. Medi 24, '75. PURDEB. (Arddull T. Carew). Y sawl a fynn y rudd sydd goch A gwefus gwrel, llygad du, Y gwddw gwyn, y rhosawg foch I gynneu fflam ei gariad cu,-- Daw amser hen i wywo'r gruddiau, A diffydd fflam ei lygad yntau. Ond y meddwl tawel, pur, Gyda ffyddlon dwyfron lan, Calon gara fel y dur, Hyn sy'n cynneu bythol dan; Lle na cheir hyn, peth eithaf annghall Yw caru llygad, boch, na grudd, nac arall. DDAW HI DDIM. Yr o'wn i 'n hogyn gwirion gynt, Yn destyn gwawd y plwy, Awn gyda phawb yn llon fy hyttt, Pwy bynnag fyddent hwy; Ond os ceisia dyn fy nhwyllo'n awr, 'Rwy'n edrych llawn mor llym, A rhoddaf daw ar fach a mawr Wrth ateb,--"Ddaw hi ddim." 'Rwy'n adwaen ffrynd, a'i arfer yw Benthyca pres yn ffol; Ond dyna'r drwg, 'dyw'r llencyn gwiw Ddim byth yn talu'n ol; Ryw dridiau'n ol, mi cwrddais ef Wrth fyned tua'r ffair, Gofynnodd im' cyn mynd i'r
PREV.   NEXT  
|<   5   6   7   8   9   10   11   12   13   14   15   16   17   18   19   20   21   22   23   24   25   26   27   28   29  
30   31   32   33   34   35   36   37   38   39   40   41   42   43   44   45   46   47   48   49   >>  



Top keywords:

gwirionedd

 

Ysgafnder

 

ambell

 
aderyn
 
meddwl
 

nodwedd

 

ffrynd

 
llygad
 

ffyddlon

 

dwyfron


cynneu

 

bythol

 

Arddull

 
rhosawg
 

gynneu

 

gwefus

 

gariad

 
diffydd
 

gruddiau

 
PURDEB

Benthyca

 
adwaen
 

rhoddaf

 

llencyn

 
Gofynnodd
 

cwrddais

 

dridiau

 

edrych

 

gwirion

 

eithaf


annghall

 

destyn

 

fyddent

 

ceisia

 
nhwyllo
 

bynnag

 
charth
 
ddigon
 
ereill
 

ysgafn


lleuad

 

llawer

 

lleill

 
YSGAFNAF
 

fychan

 

ehedeg

 

drymion

 
gwelwch
 

ysgogyn

 
wyntog