FREE BOOKS

Author's List




PREV.   NEXT  
|<   2   3   4   5   6   7   8   9   10   11   12   13   14   15   16   17   18   19   20   21   22   23   24   25   26  
27   28   29   30   31   32   33   34   35   36   37   38   39   40   41   42   43   44   45   46   47   48   49   >>  
oherwydd ei fod mor anhunanol. Canodd, nid gan feddwl am dano ei hun, ei gelfyddyd a'i ddelfrydau, ei uchelgais a'i anfarwoldeb, ond am y bobl yr oedd yn canu iddynt. Angylion gwasanaethgar iddo ef oedd ffurf ac athroniaeth. Ac nid oes yng Nghymru heddyw fardd a'i arddull mor gain, a'i feddwl mor ddwfn, na wna les iddo efrydu symlder Mynyddog, ac achos y symlder hwnnw. OWEN M. EDWARDS. Llanuwchllyn. DARLUNIAU. Y mae y darluniau oll, ond y darlun o of Dinas Mawddwy, o waith y diweddar John Thomas, Cambrian Gallery, Liverpool. MYNYDDOG PEN Y MYNYDD "O dewch tua'r moelydd, Lle mae grug y mynydd Yn gwenu yn ei ddillad newydd grai." Y MELINYDD. "'Rwy'n caru swn yr olwyn ddwr A droir gan ffrwd y nant." MYNWENT EGLWYS LLANBRYNMAIR. Y GOF. "Yng nghanol haearn, mwg, a than, Mae'r gof yn gwneud ei waith, Ar hyd y dydd, gan ganu can O fawl i'w wlad a'i iaith." AWEL Y BORE. "A charu 'r wyf yr awel wynt A hed dros Gymru gu." HEN GAPEL LLANBRYNMAIR. "Bydd llygaid engyl gyda llygaid mam Draw'n gwylio dros dy hun rhag it' gael cam." MYNYDDOG. [Pen y Mynydd. "Ac yma nid oes dim a ddaw Cydrhwng y dyn a Duw.": myn8.jpg] HEN ADGOFION. O na chawn fynd yn ol ar hynt Drwy'r adeg ddedwydd, iach, I brofi y breuddwydion gynt Pan oeddwn blentyn bach; Cawn syllu eilwaith oriau hir Ar flodau gwanwyn oes, Ac ail fwynhau ei awyr glir Heb gwmwl du na loes. O na chawn dreulio eto'n llawn Yr adeg lon, ddi-gur, Pan gylch fy llwybrau fore a nawn 'Roedd blodau cariad pur; Nid yw ond megis ddoe o'r bron Im gofio ienctid ffol; Ond dyma sydd yn rhwygo 'mron, Ddaw'r adeg byth yn ol. CHWI FEIBION DEWRION. (Geiriau i'r "Marseillaise.") Chwi feibion dewrion gwlad y bryniau, Clywch, clywch yr udgorn croch o draw, Llywelyn sydd yn chwifio'i ddreigiau A'i gleddyf gloew yn ei law; Mae dagrau baban gwan a'r weddw Yn gwaeddi'n uwch na chorn y gad, Fod rhyddid hoff ein hanwyl wlad O dan ei chlwyf ymron a marw; Ymlaen! ymlaen i'r gad, Dadweinied pawb ei gledd, Ni awn, ni awn dros freiniau'n gwlad I ryddid neu i'r bedd! Ystormydd rhyfel sy'n ymruo, Yr holl awyrgylch sydd yn ddu, Mae cledd dialedd wedi deffro, Gwae, gwae i'r holl elynol lu; Ni allwn edrych ar gelanedd Estroniaid yn arteithio'n gwlad, Gan ddwyn aneddau'n mam a'n tad A gwneud ein gwlad i gyd yn garnedd; Yml
PREV.   NEXT  
|<   2   3   4   5   6   7   8   9   10   11   12   13   14   15   16   17   18   19   20   21   22   23   24   25   26  
27   28   29   30   31   32   33   34   35   36   37   38   39   40   41   42   43   44   45   46   47   48   49   >>  



Top keywords:

LLANBRYNMAIR

 

symlder

 

MYNYDDOG

 
llygaid
 
gwneud
 

feddwl

 

DEWRION

 
FEIBION
 

Geiriau

 

ienctid


rhwygo

 

fwynhau

 

gwanwyn

 
eilwaith
 

flodau

 

dreulio

 

blodau

 
cariad
 

llwybrau

 
Marseillaise

dagrau

 
awyrgylch
 

dialedd

 

rhyfel

 
Ystormydd
 

freiniau

 

ryddid

 

deffro

 

aneddau

 

garnedd


arteithio

 

Estroniaid

 

elynol

 

gelanedd

 
edrych
 

Dadweinied

 
ddreigiau
 
chwifio
 
Llywelyn
 

gleddyf


dewrion

 

feibion

 

bryniau

 
Clywch
 

udgorn

 

clywch

 

chlwyf

 
ymlaen
 

Ymlaen

 
hanwyl