FREE BOOKS

Author's List




PREV.   NEXT  
|<   22   23   24   25   26   27   28   29   30   31   32   33   34   35   36   37   38   39   40   41   42   43   44   45   46  
47   48   49   >>  
o lun calon mewn perlau yn hon, A gwallt yn ei chanol yn ddolen fach gron?" "Mae gan fy mam lygaid fel glesni y nen, A gwallt sydd fel hanner y nos ar ei phen, Mae harddwch yn byw ar ei gwefus a'i gen, Ac ysbryd serchawgrwydd yn dawnsio'n ei gwen; Ac hefyd, wrth feddwl, mae adgof gen i Am fodrwy 'run fath a'r un hon ddwedsoch chwi, A math o lun calon mewn perlau yn hon, A gwallt yn ei chanol yn ddolen fach gron!" "Ai breuddwyd yw hyn?" ebe'r morwr yn rhydd, A'i deimlad a'i galon yn neidio i'w rudd, "Ai'm mab a achubais o afael y donn? Ai delw fy Mari yw'r llygad byw, llon, A welaf o'm blaen? 'Rwyf yn diolch i'r Nef, Mae Mari yn fyw, a fy machgen yw ef!" IV. "Roedd annedd fy Mari a minnau a'r ddor A'i gwyneb i waered at lan y mor, Ac ni fu dedwyddach dau yn y byd Na Mari a minnau tra buom yn nghyd. Ryw noson anhapus--mi cofiaf hi byth-- Daeth ysbryd anghydfod dros drothwy ein nyth, A Mari a minnau a gawsom air croes,-- Y cyntaf a gawsom erioed yn ein hoes. "Eis allan yn sydyn, a chauais y ddor, A chrwydro y bum ar hyd erchwyn y mor, Yn gwylio y tonnau yn chwareu'n y fan Ym mynwes eu gilydd hyd ymyl y lan; Dan chwerthin a neidio o amgylch fy nhroed, Yn orlawn o fywyd fel plant deuddeg oed. Meddyliais mor ffol y bum i gyda'r fun A garwn yn fwy na fy enaid fy hun; Ac eistedd a wnaethum mewn myfyr tra syn, A chenais gan fechan yn debyg i hyn,-- "'Mari anwyl, wnei di faddeu Fy ymadrodd creulon, ffol, Gaf fi yfed gwin dy wenau Pan y deuaf yna'n ol? Pam y rhaid i gariad cywir Fod yn llanw ac yn drai? Arnaf fi, fy Mari anwyl, Arnaf fi yr oedd y bai. "'Mynnaf brynnu gown o sidan Goreu fedd yr hollfyd crwn, I'w roi i Mari a'm llaw fy hunan, I wneud fyny'r cweryl hwn; Gwn y medr Mari faddeu Holl ffaeleddau cariad gwir, A thrawsffurfio gyda'i gwenau Gwmwl du yn awyr glir.' "Pan oeddwn yn dychwel a'r gown i fy mun, Gan deimlo yn ddig wrth fy ffoledd fy hun, A theimlo y mynnwn i wneuthur fy rhan I garu y cweryl o'r ty yn y fan; Ar hynny! mi deimlwn ryw law nerthol, fawr, O'm hol yn fy nhynnu yn llegach i'r llawr, A phedwar o forwyr a'm rhwyment mewn brad, Ac ymaith y'm cipiwyd i lawr at y bad! Un cilgwth!--un floedd a drywanai fy mron, A dyna ni'n nofio ar wyneb y donn. "Llong ryfel angorai draw, draw ar y donn, A rhwyfai y morwyr yn union at hon, A mi, fel mewn breuddwyd, a gefais fy hun (Yn lle bod yn gofyn maddeuant fy mun) Yn nghanol y milwyr, a'r morwyr llawn
PREV.   NEXT  
|<   22   23   24   25   26   27   28   29   30   31   32   33   34   35   36   37   38   39   40   41   42   43   44   45   46  
47   48   49   >>  



Top keywords:

gwallt

 

minnau

 

cweryl

 

neidio

 
breuddwyd
 
faddeu
 

ddolen

 

perlau

 

chanol

 

gawsom


morwyr

 

ysbryd

 

ffaeleddau

 

cariad

 

hollfyd

 

gariad

 

ymadrodd

 
creulon
 

thrawsffurfio

 

Mynnaf


brynnu
 
cilgwth
 

floedd

 

drywanai

 

rhwyment

 

forwyr

 

ymaith

 
cipiwyd
 

maddeuant

 

nghanol


milwyr

 
gefais
 

angorai

 
rhwyfai
 

phedwar

 

deimlo

 
ffoledd
 
theimlo
 

wneuthur

 

mynnwn


dychwel

 

oeddwn

 

nhynnu

 

llegach

 

nerthol

 

deimlwn

 
gwenau
 

diolch

 
llygad
 

achubais