FREE BOOKS

Author's List




PREV.   NEXT  
|<   29   30   31   32   33   34   35   36   37   38   39   40   41   42   43   44   45   46   47   48   49   >>  
; Addurno'u dail ag ysgrif hardd Adawaf i rai ereill, Os caf fi alw dalen bardd Yn ddalen cywir gyfaill. Paid byth a meddwl, gyfaill mwyn, Am gyfeillgarwch trylen, Y gall yr awen byth ei ddwyn I bennill ar un ddalen; Na, na, mae cyfeillgarwch byw Yn uwch, yn is ei syniad, Mae'n hirach, lletach, dyfnach yw Na holl ddalennau'r cread. Ond un peth yn y ddalen hon Sy'n hynod debyg iddo, Mae'n berffaith wyn a phur ei bron Cyn i fy llaw ei britho; Peth arall yn y ddalen wen A ddeii gymhariaeth eto, Mae cyfeillgarwch pur fel llen Yn hawdd i weled trwyddo. Gall llaw ddiystyr ddod ryw dro I rwygo hyn o ddalen, Pan fyddwn ni ein dau'n y gro Heb fywyd, gwres, nac awen; Gall dwylaw malais ddod ryw bryd I aflonyddu'n heddwch, Ond gofyn gwaetha dwylaw'r byd I rwygo'n cyfeillgarwch. DEWCH I GNEUA. GEIRIAU RHANGAN (Part Song). (Y Gerddoriaeth gan Mr. D. Lewis, Llanwrtyd). O dewch i gneua tua'r coed, Fa, la, la, Yn llawen galon, ysgafn droed, Fa, la, la; Cawn eistedd dan y gwyrddion ddail, A chwareu ym mhelydrau'r haul, A thorri cneuen bob yn ail, Fa, la, la. Cawn weld dedwyddwch 'deryn bach, Fa, la, la, Yn trwsio pluf ei aden iach, Fa, la, la; A'i weld yn esgyn fry i'r nen, Neu'n canu ar y gainc uwchben, A ninnau'n canu wrth fon y pren, Fa, la, la. Ar ol yspeilio'r llwyni cyll, Fa, la, la, Cawn ddychwel adref gyda'r gwyll, Fa, la, la; Cawn gydymdwymno a mwynhau Wrth danllwyth mawn y bwthyn clau, A chanu can, a thorri cnau, Fa, la, la. LOLIAN A LILI. O'r anwyl, y mae fy rhieui Am imi roi 'mwriad ar Mari, Tra gwyddant eu dau Nad allaf fwynhau Fy hunan heb lolian a Lili. Be waeth am athroniaeth rhieni? Anghariad yw ceisio 'nghynghori, Mae rheswm mor bwl Yn siarad fel ffwl Er pan eis i lolian a Lili. Gofynwyd im' gynnyg ar Gweni, Sy' a dwyfil o wyn ar lan Dyfi; Pob parch i Gwen fwyn A'i defaid a'i hwyn, Ond gwell gen i lolian a Lili. Fe drinir fy mod yn pendroni, A mod i 'n rhoi 'nhraed yn y rhwydi; Mae 'nhraed ddigon rhydd,-- Fy nghalon i sydd Mewn rhwyd ar ol lolian a Lili. Gwyn fyd na fa'i'r rhaeadr yn rhewi I atal ei gan i'r clogwyni, Er mwyn im' gael awr O eistedd i lawr Yn dawel i lolian a Lili. Pe bai gennyf ddawn i farddoni, Anadlwn fy serch wrth fwyn odli; Cae'r awen fad rydd Bob nos a pho
PREV.   NEXT  
|<   29   30   31   32   33   34   35   36   37   38   39   40   41   42   43   44   45   46   47   48   49   >>  



Top keywords:
ddalen
 

lolian

 

cyfeillgarwch

 

nhraed

 
eistedd
 
thorri
 

dwylaw

 

gyfaill

 

mwriad

 
rhieui

gwyddant

 

Addurno

 

athroniaeth

 

fwynhau

 

llwyni

 

ddychwel

 

yspeilio

 

ninnau

 

uwchben

 
bwthyn

rhieni
 

danllwyth

 

gydymdwymno

 

mwynhau

 

LOLIAN

 

nghynghori

 

rhwydi

 

ddigon

 

pendroni

 
drinir

nghalon

 
rhaeadr
 
clogwyni
 

defaid

 
siarad
 
ceisio
 
rheswm
 

Gofynwyd

 
Anadlwn
 

dwyfil


gennyf

 
farddoni
 

gynnyg

 

Anghariad

 

cneuen

 

britho

 

berffaith

 

ysgrif

 

ddiystyr

 

fyddwn