FREE BOOKS

Author's List




PREV.   NEXT  
|<   13   14   15   16   17   18   19   20   21   22   23   24   25   26   27   28   29   30   31   32   33   34   35   36   37  
38   39   40   41   42   43   44   45   46   47   48   49   >>  
Yn eirias mwy i'r Iesu mawr. Dyma'r un oddefodd bwysau Holl bechodau dynol ryw, Ac o'i fodd oddefodd loesau Miniog gledd dialedd Duw; Ac a ddrylliodd deyrnas angau Pan y daeth o'i fedd yn fyw. OWEN TUDUR. {39} (Cantawd). Mae Owen Glyndwr yn ei fedd, Ar ol tymhestlog ddiwrnod, A'r gwaed a erys ar ei gledd I ddweyd ei hanes hynod; Y rhosyn gwyllt wrth glywed hyn Ar fedd y gwron hwnnw Sydd fel rhyw angel yn ei wyn Yn gwenu dros y marw. Dewch, delynorion, cenwch don Ar ol cael hir orffwyso, Mae gwr yn byw'n Mhenmynydd Mon A gyfyd Gymru eto; Er fod priddellau Cymru wen Yn feddrod i'w thrigolion, Hil Cymro glan fydd bia'r pen Gaiff eto wisgo'r goron. Dyma delyn anwyl Cymru, Dyma fysedd eto i'w chanu, Er fod gormes bron a llethu Ysbryd pur y gan; Byw yw'n hiaith a byw yw'r galon Gura ym mynwesau'n dewrion, Mae gan Gymru eto feibion A'u teimladau'n dan; Pan fo'r cledd yn deffro, Ac eisiau llaw i'w chwyfio, Mae hon i'w chael o oes i oes Wrth ysgwydd hael pob Cymro. Fflamia'i lygad, chwydda'i galon, Pan y gwel ormesdeyrn creulon, Cadw'i wlad rhag brad yr estron Yw ei bennaf nod; Mae llwch ein hanwyl dadau, Sy'n nghadw dan garneddau, Yn dweyd yng nghlust pob Cymro dewr Am gadw ei iawnderau; Ac mae'n bryniau uchel beilchion, A'n hafonydd gwyllt a gloewon, Yn rhoi awgrym cryf mai rhyddion Ydym byth i fod. Y GENNAD,-- At bendefigion Cymru Sy'n hannu o uchel fon, Mae gennyf genadwri O blas Penmynydd Mon; Cynygiodd Owen Tudur Ei galon gyda'i law I Catherine, y frenhines, Mae hithau'n dweyd y daw. Os na ddaw rhyw atalfa, Priodant yn ddioed, Mae'r ddau mor hoff o'u gilydd Ag unrhyw ddau fu 'rioed; Ai tybed bydd 'run Cymro, Pan ddaw y dydd i ben, Heb roi hawddamor iddo Nes crynno'r Wyddfa wen? PENDEFIG,-- Fel un sy'n teimlo gwaed Cymreig Yn berwi yn fy mynwes, 'Rwy'n methu'n glir a chael boddhad Wrth wrando ar yr hanes; Mae gwaed brenhinol Brython hyf Yn curo'n mynwes Owen, A dylid cadw hwn mor bur Ag awyr Ynys Brydain. PENDEFIG ARALL,-- Gadewch rhwng cariad a Rhagluniaeth A phriodi dynol ryw, Mae gwaed y Sais a gwaed y Cymro Bron 'run drwch a bron 'run lliw; Feallai bydd yr uniad yma, Pan ry'r olwyn dro i ben, Yn agor ffordd i gerbyd heddwch Dramwy drwy yr Ynys Wen. Gwened blodau gwylltion Cymru Ar eu modrwy loew dlos, A boed haul yn gwenu arni, Gwen
PREV.   NEXT  
|<   13   14   15   16   17   18   19   20   21   22   23   24   25   26   27   28   29   30   31   32   33   34   35   36   37  
38   39   40   41   42   43   44   45   46   47   48   49   >>  



Top keywords:

gwyllt

 

PENDEFIG

 

mynwes

 
oddefodd
 
Catherine
 

hithau

 

frenhines

 
Priodant
 

unrhyw

 

blodau


gwylltion

 

gilydd

 

atalfa

 
ddioed
 

modrwy

 

rhyddion

 

GENNAD

 
hafonydd
 

gloewon

 
awgrym

Penmynydd

 
Cynygiodd
 

genadwri

 

bendefigion

 
gennyf
 

brenhinol

 

wrando

 

Brython

 

boddhad

 

Feallai


beilchion

 

Gadewch

 

cariad

 

Rhagluniaeth

 
phriodi
 

Brydain

 
hawddamor
 
gerbyd
 
heddwch
 

Gwened


Dramwy

 

crynno

 

Wyddfa

 
Cymreig
 

ffordd

 

teimlo

 

delynorion

 
glywed
 

cenwch

 
thrigolion