FREE BOOKS

Author's List




PREV.   NEXT  
|<   31   32   33   34   35   36   37   38   39   40   41   42   43   44   45   46   47   48   49   >>  
yniau, 'Does dim coel ar almanaciau,-- Sefwch o ffordd y gwreichion, blant, Cliriwch le i wr Ty'n Nant." Dacw Rolant Tyddyn Einion, Eisieu rhwymo par o olwynion, A dyma Dafydd o Blas Iolyn Eisieu peg yn nhrwyn y mochyn; Gwyn fyd na f'ai peg yn ei drwyn ef ei hun, I'w rwystro i'w stwffio i fusnes pob dyn. "Dyma aradr yn dod, a dacw og, Chwytha'r tan, Mocyn, on'd wyt ti'n hen rog,-- Huw Huws, Blaen y Ddol, a fu yma ers tro, Eisieu gwneud blaen ar y big-fforch o'i go', 'Does neb yn y byd all wneud blaen arno fo. "Holo! dacw Sian Ty'n y Canol, Hi gollodd bedolau ei chlocs ar yr heol, Gwyn fyd na fa'i thafod yn colli'i phedolau, Er mwyn iddi gloffi yn lle cario chwedlau; Chwytha'r tan, Mocyn, ymhell y bo'th galon,-- Sefwch 'nol, Mr. Jones, rhag ofn y gwreichion, Chwi welwch, Sion Jones, fod digon o waith Yn dyfod i'r Efel i chwe gof neu saith." Fel hyn, ynghanol mwg a than, Mae'r gof yn gwneud ei waith, Ar hyd y dydd, gan ganu can O fawl i'w wlad a'i iaith. Mawrth 30, '76. CLYWCH Y FLOEDD I'R GAD. (Geiriau Cymraeg ar ymdeithdon newydd Mr. B. Richards, "Let ihe hills resound.") Clywch y floedd i'r gad--i'r gad! Yn adseinio bryniau'r wlad; Ymdonna'r ddraig Ar ben bob craig, Fry yn y nen; Tra saif yr ieuanc wawr I orenro'r Wyddfa fawr, Fe saif y Cymro dewr Dros ei Walia wen. Dewrder pur A lanwo'r galon ddur; O dewch yn llu Dros Gymru fu A Chymru fydd; Rhyw hawddfyd llon Gorona'r ymdrech hon; A chanu wnawn, A'n bronnau'n llawn 'Nol cael y dydd. Clywch y floedd, &c., &c. Anwyl wlad, fy anwyl wlad, Nefoedd o fwynhad Ydyw byw a marw Yn bur i ti; Rhydd dy nentydd bach, A dy awyr iach, Nerth yn fy mraich A fy nghalon i: Trig cerdd a chan Rhwng dy fryniau glan, A chaniadau mwyn dy delynau mad; Ac mae'r awen wir Yn llenwi'th dir-- Gwynfa y byd yw fy anwyl wlad. Clywch y floedd, &c., &c. Y DDWY BRIODFERCH. (Efelychiad). Mi welais yn yr eglwys Ddwy eneth heirdd eu gwedd; 'Roedd un mewn gwisg priodas, A'r llall yng ngwisg y bedd. Darllenwyd y gwasanaeth,-- "I'r byw, i fyw," aeth un; A'r llall yng nglynn marwolaeth Briododd Angeu'i hun. Fe aeth y ddwy i'w cartref Yn ieuanc iawn en gwedd; Aeth un i'r palas gorwych, A'r llall i'r tywyll fedd. Deffroai un y bore Mewn
PREV.   NEXT  
|<   31   32   33   34   35   36   37   38   39   40   41   42   43   44   45   46   47   48   49   >>  



Top keywords:

Clywch

 

Eisieu

 
floedd
 

gwneud

 
Chwytha
 

ieuanc

 

gwreichion

 

Sefwch

 

Nefoedd

 

fwynhad


bronnau

 
Cliriwch
 

mraich

 

nentydd

 
ffordd
 
Dewrder
 
Wyddfa
 

nghalon

 

Gorona

 
ymdrech

orenro
 

hawddfyd

 

Chymru

 

gwasanaeth

 
Darllenwyd
 
marwolaeth
 

nglynn

 

ngwisg

 

priodas

 

Briododd


tywyll
 

Deffroai

 

gorwych

 

cartref

 

almanaciau

 

delynau

 

chaniadau

 

fryniau

 

llenwi

 
eglwys

heirdd

 
welais
 
Gwynfa
 

BRIODFERCH

 

Efelychiad

 
Ymdonna
 

gollodd

 
bedolau
 

chlocs

 
thafod