FREE BOOKS

Author's List




PREV.   NEXT  
|<   23   24   25   26   27   28   29   30   31   32   33   34   35   36   37   38   39   40   41   42   43   44   45   46   47  
48   49   >>  
brad Yn hwylio i ryfel yn syth o fy ngwlad." V. Ryw fore, rhoi'r postman ddau guriad i ddor Y bwthyn bach hwnnw yn ymyl y mor, A Mari a glybu, ond teimlai ryw fraw Yn mynd at ei chalon, a chrynnai ei llaw, A methai gan ofnau a myned ymlaen, 'Roedd blwyddau er pan gadd hi lythyr o'r blaen. Hi gafodd y llythyr ar drothwy y ddor, A gwelai ei fod wedi dod dros y mor; Llawysgrif pwy ydoedd? O ba wlad y daeth? Ai William sy'n glaf, neu a oes newydd gwaeth? Agorodd y sel, a darllennodd--ond och! 'Roedd gwaed y cynhyrfiad yn rhewi ar ei boch; Y capten a'i gyrrodd i ddweyd fel y bu-- Fod storm wedi codi, fod corwynt a'i ru Bron wedi achosi llongddrylliad tra erch, Ac hefyd fod William, canolbwynt ei serch, Yng nghanol y ddrycin, a'r storm, wedi cwrdd A damwain, a syrthio i'r mor dros y bwrdd. Fe dorrodd y newydd ar deimlad y fam Fel taranfollt erchyll, a'i chalon rodd lam; Mor hynod ddisymwth bu'r ergyd i hon, Nes clodd y fath newydd ei dagrau'n ei bron; Ni wyddai p'le i droi, na pha beth i'w wneud, Ond teimlai lais distaw'n ei mynwes yn dweyd,-- "Feallai fod gobaith, feallai i'th Dduw Ofalu am William, a'i fod ef yn fyw." Hi syrthiodd ar ei gliniau A chodai fyny ei llef, Trwy'r storm o orthrymderau, At un sydd yn y nef; Ond ofnai fod ei gweddi Yn gofyn gan yr Ior Am achub un oedd wedi Ei gladdu yn y mor. Daeth eilwaith adlais distaw O fewn i'w mynwes wyw, I ddweyd er hyn y gallai Fod William eto'n fyw; A'r adlais hwnnw roddodd Ail nerth i'w gweddi gref, Nes gyrrodd mewn ochenaid Ei chalon tua'r nef. VI. Ust! ust! dyna gnoc! pwy sy'n curo mor hy? O diolch--a William yn dyfod i'r ty! Pwy draetha'u teimladau pan syrthiodd y ddau Ar yddfau eu gilydd i gyd lawenhau? Dechreuai William ddweyd yn awr Ei hanes prudd, pan syrthiodd lawr, Ac fel 'r achubwyd ef mor hyf Gan law ddieithr morwr cryf; "O na chawn ei weled," atebai y fam, "Y morwr achubodd fy mhlentyn rhag cam, Cai ddiolch fy nghalon am achub o'r lli. Yr hwn sy'n anwylach na mywyd i mi." "Myfi yw y gwr," ebe llais yn y ddor, "Achubodd y bachgen rhag marw'n y mor,"-- "Fy Nuw!"--ebe Mari, pan welodd y dyn, A syrthiodd i freichiau ei phriod ei hun. Dechreuwyd a holi ac adrodd mor hy, A'r tri yn cydwylo wrth ddweyd sut y fu, Y tad yn rhoi darlun o droion y daith, A'r fam yn rhoi darlun o'i phryder tra maith. 'Mhen awr, fe ddaeth cenad i'r bwthyn dinam At Mari yn dweyd fel bu farw ei mam; Y clefyd ddadglodd gloion rhydlyd ei serc
PREV.   NEXT  
|<   23   24   25   26   27   28   29   30   31   32   33   34   35   36   37   38   39   40   41   42   43   44   45   46   47  
48   49   >>  



Top keywords:

William

 

ddweyd

 
syrthiodd
 

chalon

 
newydd
 

distaw

 

mynwes

 

gyrrodd

 

darlun

 

adlais


gweddi

 
teimlai
 

bwthyn

 

gilydd

 
lawenhau
 
Dechreuai
 
yddfau
 

draetha

 

teimladau

 
gladdu

ddieithr
 

achubwyd

 

eilwaith

 

ochenaid

 
roddodd
 
gallai
 

diolch

 

mhlentyn

 

droion

 

adrodd


cydwylo
 

phryder

 

ddadglodd

 

clefyd

 

gloion

 

rhydlyd

 

ddaeth

 

Dechreuwyd

 

anwylach

 
nghalon

achubodd

 
ddiolch
 
welodd
 

freichiau

 

phriod

 
Achubodd
 

bachgen

 
atebai
 

achosi

 
llongddrylliad