FREE BOOKS

Author's List




PREV.   NEXT  
|<   9   10   11   12   13   14   15   16   17   18   19   20   21   22   23   24   25   26   27   28   29   30   31   32   33  
34   35   36   37   38   39   40   41   42   43   44   45   46   47   48   49   >>  
edda ei weld gan y wlad. Mae'n cario yr yd mor ddigyffro Dros fynydd, a dyffryn, a dol, Ac wedyn caiff eisin i'w ginio I aros i'r blawd fynd yn ol; Rhag c'wilydd i genedl y Cymry Am fod eu syniadau mor gul, Fe ddylid gwneud ymdrech o ddifri I gychwyn y dysteb i'r mul. Mae'i glustiau'n mynd lawr dros ei lygaid, O! clywch ef yn codi ei gri, Mae'n g'wilydd fod tad y ffyddloniaid Heb dysteb pryd hyn ddyliwn i; Oferedd im' fyddai ei ganmol, Mae gweithio i'w wlad bron a'i ladd, Rhowch dysteb i'r mul cenedlaethol,-- Nid ef fydd y cyntaf a'i ca'dd. Ebrill 29, '76. RHOWCH BROC I'R TAN. Ar ol bod trwy'r dydd yn llafurio A'r morthwyl, y trosol, neu'r rhaw, A dioddef eich gwlychu a'ch curo Gan genllysg a gwyntoedd a gwlaw; 'Rol cyrraedd eich bwthyn eich hunan, Mor ddifyr fydd cau'r drws yn hy, A'r oerfel a'r t'w'llwch tu allan, A'r cariad a'r tan yn y ty; Rhowch broc i'r tan, A chanwch gan, I gadw cwerylon o'r aelwyd lan. Pan fyddo y gwr wedi monni, A'i weflau'n lled lipa i lawr, A'i lygaid gan dan yn gwreichioni, A'i drwyn braidd yn hir ac yn fawr; Edryched y gwragedd dan wenu, A pheidiwch dweyd gair wrtho fe, Daw amser a'r gwr at ei ganu, A'r gweflau a'r llygaid i'w lle. Rhowch, &c. Os bydd rhai o'r gwragedd ar brydiau Yn edrych yn sarrug a sur, A'u llygaid fel cwmwl taranau Yn lluchio y mellt at y gwyr; Mae cariad yn well yn y diwedd Ar ol bod mewn helbul ei hun, 'Dyw'r mellt sydd yn llygaid y gwragedd Erioed wedi lladd yr un dyn. Rhowch, &c. Pan fyddo yr aelwyd yn oeri, A'r anwyd yn dyfod i'r gwaed, Pan fyddo y trwyn wedi rhewi, A'r winrhew ar fysedd y traed, Pan fo Catherine Anne wedi briwo, A Dafydd y gwas ddim yn iach, A'r babi yn nadu a chrio, A'r gath wedi crafu John bach, Rhowch, &c. Ion. 3, '73. MI SAETHAIS GAN. (O Longfellow). Mi saethais gan i fyny i'r ne', A disgyn wnaeth nas gwyddwn ple, Can's ni fu 'rioed un llygad llym All ddilyn saeth ar hediad chwim. Anadlais gan i wynt y ne', Aeth gyda'r gwynt nas gwyddwn ple, Oblegid nid oes llygad glan All ddilyn llwybrau adlais can. 'Mhen blwyddau hir mewn calon pren Y saeth a gefais ar ei phen, A'r gan a gefais wedi mynd A glynu i gyd mewn calon ffrynd. WELWCH CHWI FI? Mi glywsoch y testyn a welwch chwi V, A chan arno hefyd cyn clywed f'un i; Os ydyw y pwnc yn un diflas a thrist, Rhoe
PREV.   NEXT  
|<   9   10   11   12   13   14   15   16   17   18   19   20   21   22   23   24   25   26   27   28   29   30   31   32   33  
34   35   36   37   38   39   40   41   42   43   44   45   46   47   48   49   >>  



Top keywords:

Rhowch

 

gwragedd

 

dysteb

 
llygaid
 
aelwyd
 

cariad

 

lygaid

 
gefais
 

gwyddwn

 

llygad


ddilyn

 

wilydd

 

dyffryn

 
Dafydd
 

SAETHAIS

 

Longfellow

 

Catherine

 
saethais
 

diwedd

 
helbul

taranau

 
lluchio
 

Erioed

 

winrhew

 
fysedd
 

disgyn

 

WELWCH

 

glywsoch

 

testyn

 

ffrynd


welwch

 

diflas

 

thrist

 

clywed

 
blwyddau
 

hediad

 
fynydd
 
ddigyffro
 
Anadlais
 

llwybrau


adlais

 

Oblegid

 

wnaeth

 
edrych
 

llafurio

 

ddylid

 

morthwyl

 
trosol
 

gwneud

 
RHOWCH