FREE BOOKS

Author's List




PREV.   NEXT  
|<   14   15   16   17   18   19   20   21   22   23   24   25   26   27   28   29   30   31   32   33   34   35   36   37   38  
39   40   41   42   43   44   45   46   47   48   49   >>  
ed lloer a ser y nos; Gwened Sais a gwened Cymro, Na foed gwg ar unrhyw ael, A gwened nef uwch law y cyfan, Mae gwen o'r nef yn werth ei chael. PENDEFIGES,-- Heblaw gweniadau'r lleuad wen, A gwenau'r haul o fynwes nen, Heblaw gweniadau'r nefoedd fry, Cant wen rhianedd Cymru gu; Boed meibion Gwalia ddydd yr wyl Yn dyrchu banllef lawn o hwyl, Anadlwn ninnau weddi wan I glustiau'r nefoedd ar eu rhan; Pob bryn fo'n dal ei faner wen, Pob cloch fo'n canu nerth ei phen, Ni daenwn ninnau flodau fyrdd A dail byth-wyrddion ar eu ffyrdd. CYDGAN,-- Mae gwawr yn torri dros sir Fon, A Chymru'n gwenu arni, Mae swn llawenydd yn y don, A diolch yn y weddi; Mae'r clychau'n effro ym mhob llan Yn prysur ddweyd y newydd, A'r awel fach yn gwneud ei rhan I'w gludo draws y gwledydd. Y BARDD,-- Methodd Owen Glyndwr rwymo Teimlad pawb mewn rhwymau hedd, Megis tonn mewn craig yn taro Oedd dylanwad min ei gledd; Ond mae Owen Tudur dirion Wedi uno'r ynys lon, Gwnaeth i'r Cymry dewr a'r Saeson Wenu'n nghylch y fodrwy gron. CYDGAN,-- Chwyther yr udgorn ar lethrau'r Eryri Nes bo'r clogwyni'n dafodau i gyd, Bannau Brycheiniog fo'n llawn o goelcerthi Er mwyn gwefreiddio y wlad ar ei hyd; Llonned y delyn bob treflan a phentref, Heded y cerddi ar ddiwrnod yr wyl, Ar flaen adenydd alawon y Cymry, Nes bo pob ardal yn eirias o hwyl. Fe gwympodd ein gwrolion Wrth gadw hawl ein coron, Rhag iddi fynd o Walia Wen I harddu pen rhyw estron. Mae llef oddiwrth y meirw Sy'n dweyd yn ddigon croew, Yn adlais glir ar lan pob bedd, Na fedrai'r cledd mo'i chadw. Deallodd Owen Tudur Athroniaeth bennaf natur, Ein coron trwyddo ef a gawn Heb nemawr iawn o lafur. CYDGAN,-- Mae modrwy a chariad yn curo y cledd Heb aberth o fywyd nac eiddo, Ca'r bwa a'r bicell gyd-huno mewn hedd, A heddwch ac undeb flodeuo; Teyrnwialen a choron ein hynys bob pryd A ddelir gan hil meibion Gwalia, A chryma teyrnwiail brenhinoedd y byd Yn ymyl teyrnwialen Britannia. Ar ddydd y briodas cenhinen y Cymry Wisgwyd gan Owen i harddu ei fron, A rhosyn y Saeson osodwyd i harddu Bron ei anwylyd edrychai mor llon; A byth wedi hynny mae'r ddau'n un blodeuglwm, Mae'r rhos a'r genhinen yn harddu'r un fron; Bu bysedd dwy genedl yn gosod y cwlwm, A thyfa y ddau yn y fodrwy fach gron. Os hoffech gael gwybod effeithiau'r
PREV.   NEXT  
|<   14   15   16   17   18   19   20   21   22   23   24   25   26   27   28   29   30   31   32   33   34   35   36   37   38  
39   40   41   42   43   44   45   46   47   48   49   >>  



Top keywords:
harddu
 

CYDGAN

 

meibion

 
Gwalia
 

ninnau

 

gwened

 

Heblaw

 

gweniadau

 
Saeson
 
nefoedd

fodrwy

 

treflan

 

phentref

 

ddigon

 

Deallodd

 

Athroniaeth

 

bennaf

 

fedrai

 

oddiwrth

 
adlais

gwrolion
 

adenydd

 
gwympodd
 

alawon

 

eirias

 

estron

 

ddiwrnod

 
cerddi
 
anwylyd
 

edrychai


osodwyd
 

rhosyn

 

teyrnwialen

 

Britannia

 

briodas

 

Wisgwyd

 

cenhinen

 

blodeuglwm

 

hoffech

 

effeithiau


gwybod

 

genhinen

 

bysedd

 
genedl
 

brenhinoedd

 

aberth

 

chariad

 

modrwy

 

trwyddo

 

nemawr