FREE BOOKS

Author's List




PREV.   NEXT  
|<   10   11   12   13   14   15   16   17   18   19   20   21   22   23   24   25   26   27   28   29   30   31   32   33   34  
35   36   37   38   39   40   41   42   43   44   45   46   47   48   49   >>  
d pawb sy'n diflasu ei fys yn ei glust; Os na fydd y gan o un diben i chwi, Trowch yma a sylwch a welwch chwi V. A welwch, &c. Mae ambell i sgogyn yn tramwy trwy'r fro, A balchder a hunan yn byw arno fo, Mae starch yn ei gefn, a rhew yn ei warr, A chuddia ei hunan yn mwg ei sigar; Ysgydwa'i ffon geiniog wrth gerdded mewn bri, A thala am fwg i ddweyd welwch chwi V. A welwch chwi V, Uchelgais ei fywyd yw "Welwch chwi fi?" Mae hithau'r ferch ieuanc yn gwneud gwallt ei phen Fel math o ryw golofn fry fry yn y nen, A het ar ben hynny, a rhosyn ar hon, A phluen ar hynny i fyny fel ffon; Prin gwelir y top heb gael telescop cry', Ond gwelir mai'r diben yw "Welwch chwi fi?" A welwch chwi fi? Arwyddair y ffasiwn yw "Welwch chwi fi?" "A welwch chwi fi?" meddai llawer gwr mawr, "A welwch chwi finnau?" medd y bychan ar lawr; Mae hynny yn dangos yn amlwg, wrth gwrs, Mai nid yn y dillad ac nid yn y pwrs Mae gwreiddyn y drwg am gael dringo i fri, Ond calon y dyn sy'n dweyd "Welwch chwi V?" A welwch chwi V? Y galon yw cartref y "Welwch chwi V," Gocheled y galon rhag "Welwch chwi V." Awst 24, '72. "WILLIAM." " * * * Her lover died, and she wept a song over his grave." Ddoi di yn ol ataf, William, William, Gyda'r sirioldeb oedd gynt gennyt ti? Mi fyddwn am byth iti'n berffaith ffyddlon, William, William,--anwyl i mi. Byth ni ro'wn air i dy ddigio, William, Gwenwn fel angel o'r nef arnat ti; Fel yr oe't ti pan yn gwenu yn hawddgar, William, William,--anwyl i mi. Cofio yr wyf am y dyddiau hynny, Cyn dy gymeryd i'r nefoedd fry; A wyddost ti 'nawr fel 'rwyf fi'n dy garu? William, William,--anwyl i mi. Nid oeddwn yn deilwng o honot, William, Oer oedd fy nghalon yn ymyl d'un di; Ond wedi dy golli, mae'r byd fel cysgod, William, William,--anwyl i mi. Estyn dy law i mi, William, William,-- Dyfera faddeuant fel gwlith oddi fry, Mae nghalon yn gorwedd ym medd fy William; William, William,--anwyl i mi. [Y Melinydd. "'Roedd hen felinydd llawen iawn yn byw ar fin y nant, Yn malu yd o fore i nawn i fagu gwraig a phlant.": myn32.jpg] GEIRIAU LLANW. Mae llawer o hen eiriau llanw I'w cael ym mhob Llan a phob lle, Yn debyg i bethma a hwnnw, Fel tau ac fel tase, yn te, Yn te meddai'r dyn sydd yn holi, Fel tase, yn te, meddai'r llall, Yn ddigon a gwneud dyn i daeru 'Dyw hanner y byd ddim yn gall. Fel tau, fel tase, yn te,
PREV.   NEXT  
|<   10   11   12   13   14   15   16   17   18   19   20   21   22   23   24   25   26   27   28   29   30   31   32   33   34  
35   36   37   38   39   40   41   42   43   44   45   46   47   48   49   >>  



Top keywords:

William

 

welwch

 

Welwch

 
meddai
 
gwneud
 

gwelir

 

llawer

 
nghalon
 

hawddgar

 

ddigon


dyddiau

 

wyddost

 

nefoedd

 
gymeryd
 

ffyddlon

 

hanner

 

berffaith

 
fyddwn
 

oeddwn

 
Gwenwn

ddigio

 
felinydd
 

llawen

 

eiriau

 
Melinydd
 

GEIRIAU

 

phlant

 

gorwedd

 

bethma

 

deilwng


gwraig

 

faddeuant

 

gwlith

 

Dyfera

 
cysgod
 

ddweyd

 
Uchelgais
 
gerdded
 
Ysgydwa
 

geiniog


hithau

 

golofn

 

rhosyn

 
ieuanc
 

gwallt

 

chuddia

 

Trowch

 
sylwch
 

diflasu

 
ambell