FREE BOOKS

Author's List




PREV.   NEXT  
|<   7   8   9   10   11   12   13   14   15   16   17   18   19   20   21   22   23   24   25   26   27   28   29   30   31  
32   33   34   35   36   37   38   39   40   41   42   43   44   45   46   47   48   49   >>  
fyddin yn dod i'r gad, Uwch, uwch Y cenir i gledd ein gwlad; Calon a chleddyf i gyd yn ddur, Rhyddid yn rhoi Gelynion i ffoi O flaen ein gwyr. Clywch y tabwrdd yn awr Yn adseinio sydd, Clywch floedd fychan a mawr Wedi cael y dydd; Mae gwawr eto'n dod yn y dwyrain dir, Daw haul ar ein gwlad Mewn hwyl a mwynhad, Cawn heddwch cyn hir. ENWAU. Mi ganaf gan mewn cywair llon, Os gwrendy pawb yr un, Rhyw gan ar enwau ydyw hon, Ond heb gael enw ei hun; Mae rhai'n rhoi enwau mawrion, hir, Ar hogiau bychain, man, Ond dyma'r enwau sy'n mhob sir Trwy Gymru yw Sion a Sian,-- Sian Jones, &c. Mae'r Sais yn chwerthin am ein pen Fod Taffy i'r back bones, Am alw plant hen Gymru wen Yn John a Jenny Jones; Mae Smith a Brown a John a Jane Yn Lloegr bron mor llawn, Ac O! mae enwau'r Saeson glan Ag ystyr ryfedd iawn. 'Roedd Mr. Woodside gynt yn byw Yn High Street Number Ten, Cyfieithwch hynny i'r Gymraeg Mae'n Meistar Ochor Pren; 'Roedd Squiar Woodall gynt yn byw Ym mhalas Glan y Rhyd, Os trowch chwi hynny i'r Gymraeg, Mae'n Sgwiar Pren i Gyd. 'Dwy'n hoffi dim o'r arfer hon A geir yng Nghymru iach, Rhoi'r taid yn Sion a'r tad yn John, A'r wyr yn Johnny bach; A galw mam y wraig yn Sian, A'r wraig yn Jeanny ni, A galw'r wyres fechan, lan, Yn Jeanny No. 3. Sian Jones, &c. Chwef 10, '74. YR HEULWEN. (Y Gerddoriaeth gan D. Emlyn Evans). Daw yr heulwen a'i gusanau, Iechyd chwardda yn y gwynt, Cymyl sydd fel heirdd lumanau Bron a sefyll ar eu hynt; Gawn ni fynd a'r haf o'r gweunydd, Dwyn cusanau'r haul yn llu, Ar ein bochau gwridog beunydd, I addurno cartref cu? Dringwn fry i gartre'r hedydd, Chwarddwn, neidiwn megis plant, Lle mae'r cwmwl yn cael bedydd Yng ngrisialaidd ddwfr y nant; Canwn gerddi a dyriau, Casglwn flodau gwyllt y wlad, Ac mi gadwn y pwysiau Harddaf oll i'n mam a'n tad. FFUGENWAU. Ceir llawer i glefyd ar hyd ein hen wlad, Rhai'n berygl ryfeddol a hir eu parhad; Mae clefyd Eisteddfod yn dod yn ei dro, A chlefyd excursions a chanu Soh, Doh; Ond clefyd ffugenwau yw'r gwaethaf a gaed, Mae'n drymach na chlefyd y genau a'r traed. Mae Eos y Weirglodd ac Eos y Bryn, Ac Eos yr Afon, ac Eos y Llyn, A llewod ac arthod, eryrod a brain, Ac ambell i fwnci ynghanol y rhain. Os digwydd i hogyn wneud pennill o gan, A'i anfon i'r print ac oddiyn
PREV.   NEXT  
|<   7   8   9   10   11   12   13   14   15   16   17   18   19   20   21   22   23   24   25   26   27   28   29   30   31  
32   33   34   35   36   37   38   39   40   41   42   43   44   45   46   47   48   49   >>  



Top keywords:

Gymraeg

 

chlefyd

 
clefyd
 

Jeanny

 
Clywch
 

fechan

 

bochau

 

Dringwn

 

gartre

 

cartref


addurno

 
beunydd
 

cusanau

 

gwridog

 
heulwen
 
gusanau
 
lumanau
 

Iechyd

 

heirdd

 
chwardda

sefyll
 

gweunydd

 

Gerddoriaeth

 

HEULWEN

 
flodau
 
Weirglodd
 

drymach

 

excursions

 

gwaethaf

 

ffugenwau


llewod
 

pennill

 

oddiyn

 

digwydd

 

eryrod

 

arthod

 

ambell

 

ynghanol

 

Eisteddfod

 
gerddi

Casglwn

 
dyriau
 
ngrisialaidd
 

neidiwn

 

Chwarddwn

 
bedydd
 

gwyllt

 
glefyd
 

berygl

 
parhad