FREE BOOKS

Author's List




PREV.   NEXT  
|<   40   41   42   43   44   45   46   47   48   49   >>  
HUDOL. Byron enwog fu'n darlunio Merch a blodau yn ei llaw, Y peth tlysaf a fedd natur, Er ei chwilio drwyddi draw; A! ti fethaist, Byron ddawnus, Er dy fost, dy glod, a'th fri, Swyn i'r llygad sydd yn unig Yn dy arlun clodfawr di. Mil mwy liudol i fy nghalon Clywed merch, cartrefle swyn, Fel yn arllwys ei llais treiddgar Am ben llais piano mwyn; Seiniau natur yn ymblethu Gyda sain offeryn hardd,-- Dawn a dysg yn ymgofleidio Dodda galon dyner bardd. Wrth im' weld ei bysedd meinion Fel yn dawnsio gyda hoen, Ar allweddau yr offeryn-- Ffoai gofid, ciliai poen; Teimlwn fysedd cudd tynerwch Ar holl dannau'm calon wan, Bron na syrthiais i ber-lewyg Gan y swyn oedd yn y fan. Anwyl eneth, wrth im' wrando Ar eich llais, oedd imi'n wledd-- Gweled delw gwir brydferthwch Fel yn eistedd ar eich gwedd, Dychymygais mewn mynydyn Fod angylion Gwynfa lan, Rhwng eich dysg, eich moes, a'ch doniau, Yn eiddigus wrth eich can. O! DEDWYDD BOED DY HUN. ("Oh! happy be thy dreams"). O! dedwydd, dedwydd, bo dy hun, Llawn o ddedwyddwch fo'th freuddwydion di; Y bryniau aur sydd byth dan heulog hin, A'r awyr las sy'n ddwyfol glir i ti; Fry, fry, mae ysbryd pur dy fam, Draw'n gwylio dros dy hun rhag it' gael cam, Mor bur a'r ser sy'n gwylio dros dy lun, O! dedwydd, dedwydd, bo dy hun. O! dedwydd, dedwydd, bo dy fywyd di, Mae'th fam yn gwylio'th gwsg o'r nef yn awr; A'r llaw fu'n arwain hon i'r gwynfyd fry Fo eto i'th arwain di trwy'r cystudd mawr; Bydd llygaid engyl gyda llygad mam Byth, byth, i'th gadw rhag cael unrhyw gam, Cwsg tra mae'r ser yn gwylio uwch dy lun, O! dedwydd, dedwydd, bo dy hun. 'RWY'N DOD, 'RWY'N DOD. (Just as I am). Er mwyn y gwaed, fy Iesu hael, Mae gobaith i bechadur gwael; Ac fel yr un aflana'n bod, At orsedd gras--'rwy'n dod, 'rwy'n dod. Ni oedaf funud awr yn hwy Heb guddio f' hun mewn marwol glwy', Wrth droed dy groes yw'r fan i fod, Fy Nghrist, fy Nuw,--'rwy'n dod, 'rwy'n dod. Er cael fy nhaflu ar bob llaw, Gan ofn gelynion yma a thraw; Ac er fod ofnau cas yn bod, O fewn fy mron,--'rwy'n dod, 'rwy'n dod. Er mod i 'n ddall, yn noeth, yn dlawd, Mae'r Hollgyfoethog imi'n frawd, A thrysor penna'r nef sy'n bod, Yng nghroes fy Nuw,--'rwy'n dod, 'rwy'n dod. 'Rwy'n credu'r hen addewid wiw, Fod maddeu'n nghalon dyner Duw; Cael claddu'm meiau yw fy nod, Yng nghlwyfau'r Oen,--'rwy'n dod, 'rwy'n dod
PREV.   NEXT  
|<   40   41   42   43   44   45   46   47   48   49   >>  



Top keywords:
dedwydd
 

gwylio

 

arwain

 
offeryn
 

llygad

 

nghalon

 

cystudd

 

llygaid

 
unrhyw
 
nghroes

nghlwyfau

 

claddu

 

addewid

 

maddeu

 

gwynfyd

 

orsedd

 

guddio

 

nhaflu

 

marwol

 
gelynion

Hollgyfoethog
 

Nghrist

 
aflana
 

gobaith

 

bechadur

 

thrysor

 

ymgofleidio

 
Seiniau
 
ymblethu
 

ciliai


Teimlwn
 

fysedd

 

meinion

 

bysedd

 

dawnsio

 

allweddau

 

treiddgar

 

arllwys

 

chwilio

 

drwyddi


fethaist

 

tlysaf

 

darlunio

 
blodau
 

ddawnus

 

liudol

 

Clywed

 

cartrefle

 

clodfawr

 

tynerwch