FREE BOOKS

Author's List




PREV.   NEXT  
|<   32   33   34   35   36   37   38   39   40   41   42   43   44   45   46   47   48   49   >>  
byd llawn poen a chlwy; Y llall oedd fil mwy dedwydd, Cael peidio deffro mwy. BETH SYDD ANWYL? Pan yn nyddiau ie'netid cu, Beth sy'n anwyl? Cael pleserau, a chariadau, Hyn sy'n anwyl: Crwydro drwy y coed a'r dail, Son am gariad bob yn ail; Gwneuthur coron flodan hardd I f' anwylyd yn yr ardd, Pan yn nyddiau ie'enctid cu, Hyn sydd anwyl. Pan y tyfa'r llanc yn ddyn, Beth sy'n anwyl? Tyrru elw--gwneuthur enw-- Hyn sy'n anwyl; Cario'n faich ofidiau gant, Casglu eyfoeth, magu plant, Codi cestyll yn y gwynt, Cestyll breuddwyd dyddiau gynt, Pan y tyfa'r llanc yn ddyn, Hyn sydd anwyl. Ar brydnawnddydd byrr yr oes, Beth sydd anwyl? Hyder gwastad, ffydd a chariad, Hyn sy'n anwyl; Troi y cefn ar ofal byd, Gweddi daer, a chartref clyd; Cael cydwybod heb un briw, Heddwch bron, a ffydd yn Nuw, Ar brydnawnddydd byrr yr oes, Hyn sy'n anwyl. Y GLOWR A'R CHWARELWR. (Geiriau deuawd i leisiau gwrywaidd). Y DDAU. Pan fyddo'r rhew yn gwydro'r llyn, A gwywo'r meillion mad, A'r disglair od fel arian gwyn Ar hyd bob glyn a gwlad; Pan fyddo'r gwynt yn chwythu'n gry' A'r storm yn tramwy'r fro, Mae'n dda cael glo i dwymno'r ty, A llechi ar y to. Y GLOWR. Myfi yw'r glowr du ei liw, Sy'n mynd i lawr, i lawr, I agor cistiau gwerthfawr Duw, Sy'n nghroth y ddaear fawr; O! cofiwch weithiau am fy mhoen Tra'n twymno gylch y tan; Os aflan yw fy ngwisg a nghroen, Mae gennyf galon lan. Y DDAU. Cydweithiwn megis Cymry glan I godi Gwalia wen, I'r byd i gyd ni roddwn dan A chysgod uwch ei ben. Y CHWARELWR. Chwarelwr siriol ydwyf fi Yn byw ar ddant y graig, I dynnu dail o'i chalon hi I gadw ty a gwraig; Os rhuo clod mae'r fflamau tan I'r glowr am y glo, Dadganu clod chwarelwr glan Mae'r cenllysg ar y to. Y DDAU. Cydweithiwn megis Cymry glan I godi Gwalia wen; I'r byd i gyd ni roddwn dan A chysgod uwch ei ben. BAD-GAN. Rhwyfwn, rhwyfwn yn ein badau, Canwn gyda bron ddiglwyf, Tynnwn, tynnwn drwy y tonnau,-- Cadwn amser gyda'r rhwyf; Dacw faner gwawr y borau Yn ymdorri ar y bryn, Ac yn taflu rhes o'r bryniau Ar eu pennau i lawr i'r llyn. Rhwyfwn, rhwyfwn, &c., &c. Dyfnach, dyfnach, a y tonnau, A'r cysgodion yn fwy clir, Gloewach, gloewach a'r wybrenau Fel yr awn oddiwrth y tir; Ar y lan mae'r lili swynol Yn ymbincio yn ei gwyn, Ac mae'r cymyl gloewon sirio
PREV.   NEXT  
|<   32   33   34   35   36   37   38   39   40   41   42   43   44   45   46   47   48   49   >>  



Top keywords:

roddwn

 

tonnau

 

Gwalia

 
chysgod
 
CHWARELWR
 

brydnawnddydd

 

Rhwyfwn

 
rhwyfwn
 

nyddiau

 

Cydweithiwn


weithiau

 

cofiwch

 

gennyf

 
nghroen
 

ngwisg

 

twymno

 

Chwarelwr

 
siriol
 

dyfnach

 
Dyfnach

cysgodion

 
pennau
 

ymdorri

 

bryniau

 
Gloewach
 

gloewach

 

ymbincio

 

swynol

 

gloewon

 

wybrenau


oddiwrth

 

fflamau

 

Dadganu

 

chwarelwr

 
cenllysg
 

gwraig

 
chalon
 
tynnwn
 
Tynnwn
 

ddiglwyf


chwythu

 

ofidiau

 

gwneuthur

 
anwylyd
 

enctid

 

Casglu

 

eyfoeth

 
dyddiau
 

gwastad

 
breuddwyd