FREE BOOKS

Author's List




PREV.   NEXT  
|<   12   13   14   15   16   17   18   19   20   21   22   23   24   25   26   27   28   29   30   31   32   33   34   35   36  
37   38   39   40   41   42   43   44   45   46   47   48   49   >>  
dd oedd gylch eu traed Ynghanol braw a dychryn, Nes y Gelyn giliai ar Nos Galan, Fa la la, &c., Ac aeth pawb i'w fwth ei hunan, Fa la la, &c., Tynnu diliau tannau'r delyn, Fa la la, &c., Wnaent i'w gilydd heb un gelyn, Fa la la, &c. Chwef. 18, '72. DYCHWELIAD Y MORWR. Trwy'r tonnau y llong ddaw yn nes i'r lan-- Dacw y foel a dacw y fan; 'Rwy'n gweld y pant a'r gornant gu, 'Rwy'n gweld y coed, 'rwy'n gweld y ty; Mae adlais anwyliaid yn dod i'r llong, A swn hen gloch y llan, ding dong. DYSGWCH DDWEYD "NA." Fe ddysgir dweyd llawer o eiriau Na ddylid dim dysgu eu dweyd, Ac hefyd anghofir rhai geiriau Y dylid eu dysgu a'u gwneud; Beth bynnag a ddysgwch wrth ddysgu yr iaith, Beth bynnag a gofiwch drwy droion y daith, Faint bynnag o eiriau a ddysgwch yn dda, Gofalwch bob amser am ddysgu dweyd "Na;" Dysgwch ddweyd "Na," 'Does dim sydd mor ddiogel a dysgu dweyd "Na." Os gwelwch chwi gwmni afradlon Yn mynd i oferedd yn ffol, Gan wawdio rhinweddau'u cymdogion, A gadael pob moesau ar ol; Mae trwst y rhai yma wrth gadw eu rhoch Mor wag a diafael ag adsain y gloch, 'Ran hynny, mae pennau y clychau a rhain Yn wag fel eu gilydd, 'blaw tafod bach main; Ac os daw y giwaid hon rywdro i geisio tynnu rhai o honoch i ddinistr, Dysgwch ddweyd "Na," &c. Os gwelwch chwi eneth brydweddol Yn gwisgo yn stylish dros ben, Cyn son am y pwnc priodasol, Rhowch brawf ar gynhwysiad ei phen, Os ffeindiwch chwi allan wrth chwilio'r fath yw, Ei bod hi fel clomen o ran dull o fyw, A'i llygaid, a'i gwddw, a'i haden, a'i phlu', Yn loewach o lawer na dim sy'n ei thy, Ac os bydd rhywun o honoch am roi cynnyg ar Miss, Dysgwch ddweyd "Na," &c. Mae gennyf un gair i'r genethod Wrth ddechreu eu taith drwy y byd, Mae llanciau ar brydiau i'w canfod Heb fod yn lan galon i gyd; Mae'n bosibl cael gwr fydd a'i galon yn graig, Mae'n bosibl cael gwr fydd yn gas wrth ei wraig, Heb gym'ryd yn bwyllus, mae'n bosibl i Gwen Gael gwr heb na chariad, na phoced, na phen, A'r cyngor sydd gennyf i'r ladies (hynny yw, os na fyddant, dyweder, oddiar 35 oed), Dysgwch ddweyd "Na," &c. GEIRIAU CYDGAN GYSEGREDIG. Doed holl drigolion daear lawr I ateb llef y nef yn awr, Nes byddo tan eu moliant hwy
PREV.   NEXT  
|<   12   13   14   15   16   17   18   19   20   21   22   23   24   25   26   27   28   29   30   31   32   33   34   35   36  
37   38   39   40   41   42   43   44   45   46   47   48   49   >>  



Top keywords:

ddweyd

 

Dysgwch

 

bosibl

 
bynnag
 
gwelwch
 

gennyf

 

gilydd

 
ddysgu
 

ddysgwch

 

eiriau


honoch

 

clomen

 

llygaid

 
chwilio
 

brydweddol

 

gwisgo

 

stylish

 
ddinistr
 

giwaid

 
rywdro

geisio

 
loewach
 

ffeindiwch

 

gynhwysiad

 
priodasol
 

Rhowch

 

genethod

 

GEIRIAU

 

CYDGAN

 

GYSEGREDIG


oddiar

 

cyngor

 

phoced

 

ladies

 
fyddant
 

dyweder

 
drigolion
 
moliant
 
chariad
 

ddechreu


cynnyg

 

rhywun

 

llanciau

 
bwyllus
 

brydiau

 

canfod

 

gornant

 
tonnau
 

DYSGWCH

 
adlais