FREE BOOKS

Author's List




PREV.   NEXT  
|<   25   26   27   28   29   30   31   32   33   34   35   36   37   38   39   40   41   42   43   44   45   46   47   48   49  
>>  
ddyfod i lawr I chwilio am hon ymysg blodau y llawr; I fyny mae hi, ac ni fedd y nef gu Un lili brydferthach na Lili Cwm Du. FFARWEL Y FLWYDDYN. Ar noson ddrychinog, a gwyntog, ac oer, Ysgubai'r ystormydd dros wyneb y lloer; 'Roedd delw y gaeaf ar ddaear a nen, A thymor y flwyddyn yn dyfod i ben. "Ffarwel," ebe'r flwyddyn, "fe ddarfu fy ngwen, Fy meibion, y misoedd, a'm gwnaethant yn hen; Ces amdo yn barod, o lwydrew yn haen, A dor tragwyddoldeb sy'n agor o'm blaen. "Ffarwel," ebe'r flwyddyn, "'rwy'n estyn fy llaw, A honno yn wleb gan y ddrycin a'r gwlaw; 'Rwy'n mynd i fyd arall i gloddio fy medd, A'm chwaer sydd yn dyfod wrth droedfainc fy sedd. "Pan anwyd fi gyntaf, 'roedd gwywder ar daen, A mynwent prydferthwch o'm hol ac o'm blaen; Daeth gwanwyn 'rol hynny, a'r blodyn morgun A gododd ei sedd ar ei feddrod ei hun. "Fe chwarddai y ddaear, a gwridai yr haul, A minnau'n ysmalio mewn glesni a dail; A chanai y gog ei Sol-ffa y fan draw, A'r fronfraith a ganai'r hen nodiant gerllaw. "Daeth Mai gyda hynny a hirddydd a haf, Ar fynwent y gaeaf daeth gerddi mor braf; Priodais a harddwch gan gredu yn siwr Fod llawnder Mehefin yn gyfoeth i'm gwr. "Pryd hynny, agorai'r amaethwr ei geg, A dywedai,--''Nawr, flwyddyn, mae eisieu hin deg;' Ond er iddo waeddi, y gwlaw oedd yn dod, A'r m'linydd yn diolch am ddwr ar ei rod. "Mi gefais fy meio am wlawio cyhyd, A gwneuthur cryn niwed i'r gwair ac i'r yd; Ond cofiwch chwi, ddynion, beth bynnag fu'r drefn, 'Roedd Duw a Rhagluniaeth o hyd wrth fy nghefn. "O ddiwrnod i ddiwrnod, aeth haf ar ei hynt,-- Gostyngodd yr heulwen, a chododd y gwynt; Daeth llwydrew fel lleidr, pan giliai yr haul, Rhodd wenwyn ym mywyd y blodau a'r dail. "Dechreuais cyn nemawr a wylo yn hallt,-- Dechreuodd y stormydd a thynnu fy ngwallt; Aeth haf a'i brydferthwch i mi yn ddi goel, 'Rwy' heno yn marw yn dlawd ac yn foel. "Mi glywais y clychau yn canu mor llon, Wrth weled babanod yn dod at y fron; Bum i gyda'r mamau yn siriol eu pryd Yn gwenu a siglo uwch ben llawer crud. "Mi glywais y clychau,--daeth mab a daeth merch At allor yr eglwys i roi cwlwm serch; Ar ol i mi farw, d'wed gwragedd di ri',-- 'Wel hon oedd y flwyddyn ro'dd fodrwy i mi.' "Mi glywais y clychau yn brudd lawer gwaith,-- Mi welais yr elor yn myned i'w thaith; Ar filoedd ar filoedd ce's weld yn ddiau Y beddrod yn agor,--yn derbyn,--a chau! "Ffarwel iti, ddaear,--ffarwel iti, ddyn, Ffarwel yr hen bo
PREV.   NEXT  
|<   25   26   27   28   29   30   31   32   33   34   35   36   37   38   39   40   41   42   43   44   45   46   47   48   49  
>>  



Top keywords:

flwyddyn

 

Ffarwel

 

ddaear

 
clychau
 
glywais
 

ddiwrnod

 

filoedd

 
blodau
 

gefais

 

thynnu


wlawio

 

wenwyn

 

nemawr

 
linydd
 

stormydd

 

gwneuthur

 

Dechreuodd

 
diolch
 

Dechreuais

 
giliai

nghefn

 
ddynion
 

bynnag

 

ngwallt

 
Gostyngodd
 

lleidr

 

Rhagluniaeth

 

llwydrew

 

heulwen

 

cofiwch


chododd

 

fodrwy

 

gwragedd

 

gwaith

 
welais
 

derbyn

 
beddrod
 
ffarwel
 
thaith
 

babanod


brydferthwch

 

siriol

 

eglwys

 
llawer
 

gerddi

 

gwnaethant

 

lwydrew

 
misoedd
 

meibion

 
thymor