FREE BOOKS

Author's List




PREV.   NEXT  
|<   8   9   10   11   12   13   14   15   16   17   18   19   20   21   22   23   24   25   26   27   28   29   30   31   32  
33   34   35   36   37   38   39   40   41   42   43   44   45   46   47   48   49   >>  
o i'r tan, Dechreua droi gwyn ei ddau lygad i'r nen, A'i fam yn ochneidio dan ysgwyd ei phen; Rhaid ei gipio i'r orsedd pe bai yn ei glocs, A'i blastro ag enw fel label ar focs. Mae Eos y Weirglodd, &c. Rhaid gwneud dyn yn bencerdd os gwelodd o don, Mae Pencerdd Sir Benfro a Phencerdd Sir Fon, Os delir i urddo fel hyn ym mhob sir, Cawn afael ar Bencerdd Caergwydion cyn hir; 'Rwy'n cynnyg cael urddo hen geiliog fy nhad, A'i alw yn bencerdd ceiliogod y wlad. Mae Eos y Weirglodd, &c. Y ffasiwn ddiweddaf a ddaeth fel mae son, Dweyd enw a ffugenw a'r surname yn y bon, Dweyd John Arfon Jones a dweyd Rhys Meirion Rhys, A Lloyd Maldwyn Lloyd, gyda Prys Teifi Prys, A chyda'r rhai yna daw Morris-- Llanfairmathafarn eithaf Rhosllanerchrugog, Llanrhaiadr Mochnant, Hugh, A William Carey Williams a Dafydd-- Llanfairpwllgwyngyll gogerychwyrndrobwll Dysilio gogo goch Pugh. Ebrill 29, '76. FY NGHALON FACH. Fy nghalon fach, paham mae'r wawr I'w gweld fel hwyr y dydd, A'r hedydd llon uwchben y llawr, A'i gan mewn sain mor brudd? Ateba fy chwyddedig fron,-- Mae rhywun ffwrdd tudraw i'r donn. Fy nghalon lawn, mae'r rhod yn troi, A'r rhew a'r eira'n dod, Er hyn mae gwg y gaea'n ffoi Er oered yw yr od; Mae'r gwynt yn sibrwd dros y ddol Fod rhywun hoff yn dod yn ol. TYSTEBAU. Fu 'rioed y fath oes yn yr oesau, A'r oes 'rydym ynddi yn byw, Fe'i gelwir yn oes y peiriannau, Ac oes rhoddi'r mellt dan y sgriw; Mae'n oes i roi tanllyd gerbydau I chwiban dan fynydd a bryn, 'Rwy'n meddwl mai oes y tystebau Y dylid ei galw er hyn. Os bydd dyn yn myned o'i ardal, Rhaid rhoi iddo dysteb lled fawr, Neu'n aros,--rhaid gwneud un llawn cystal I rwymo ei draed wrth y llawr; Rhoir tysteb am waith ac am ddiogi, Rhoir tysteb i'r du ac i'r gwyn, Ceir tysteb am gysgu'n y gwely, Os pery tystebau fel hyn. Gwneud tysteb o nod genedlaethol A wneir i bob crwtyn yn awr, Argreffir colofnau i'w ganmol, A'i godi'n anferthol o fawr; Mae'r gair cenedlaethol yn barod,-- A helpo y genedl, a'r gair, Er mwyn cael cyfodi corachod A llenwi eu llogell ag aur. Mae mul yn hen felin Llanodol, 'Rwy'n cynnyg cael tysteb i hwn, A honno'n un wir genedlaethol, Am gario ar ei gefn lawer pwn; Paham na chai dysteb ragorol I'w rwystro am byth gadw nad? Mae'r mul yn hen ful cenedlaethol, A ha
PREV.   NEXT  
|<   8   9   10   11   12   13   14   15   16   17   18   19   20   21   22   23   24   25   26   27   28   29   30   31   32  
33   34   35   36   37   38   39   40   41   42   43   44   45   46   47   48   49   >>  



Top keywords:
tysteb
 

nghalon

 

cenedlaethol

 

genedlaethol

 
cynnyg
 
tystebau
 

dysteb

 

bencerdd

 

rhywun

 
gwneud

Weirglodd

 

meddwl

 

sibrwd

 

fynydd

 

gerbydau

 

gelwir

 

peiriannau

 

rhoddi

 

tanllyd

 
chwiban

TYSTEBAU
 

ddiogi

 

llenwi

 

rwystro

 

llogell

 

corachod

 

genedl

 

cyfodi

 

Llanodol

 
ragorol

anferthol

 
cystal
 
Argreffir
 

colofnau

 
ganmol
 
crwtyn
 
Gwneud
 

uwchben

 
geiliog
 

ceiliogod


Bencerdd

 
Caergwydion
 

ffasiwn

 

ddiweddaf

 

Meirion

 

Maldwyn

 

ddaeth

 

ffugenw

 

surname

 

ysgwyd