FREE BOOKS

Author's List




PREV.   NEXT  
|<   36   37   38   39   40   41   42   43   44   45   46   47   48   49   >>  
i." Y BLODYN GWYWEDIG. Tra'n eistedd fy hunan un hwyr dinam, Yn ymyl y ffenestr at fachlud haul, Yn fy llaw yr oedd llyfr ges gan fy mam, Ac yno dechreuais a throi ei ddail; Cyn hir, syrthiai blodyn gwywedig i lawr; Rhwng y dail y bu am flynyddau maith, A gweled y blodyn gwywedig yn awr Dynnai'r dagrau yn lli o'm llygaid llaith; A chofio a wnawn am y dyddiau gynt Pan wyliai fy mam dros ei phlentyn bach, A phan redwn i yn rhydd fel y gwynt, Heb ofal am ddim, a fy nghalon yn iach. Edrychais i weled y ddalen gu Lle dodwyd y blodyn gwywedig, gwan, Gwelais yno eiriau a'm toddai i, Geiriau gweddi f'anwylaf fam ar fy rhan; Meddyliais fod mam wedi dianc draw I ardal lle nad yw y blodau yn wyw, Os syrthiodd ei chorff lawr i'r bedd gerllaw, Anfarwoldeb flodeua yng ngardd fy Nuw; Mi godais y blodyn oedd wrth flaen fy nhroed, Ac ar weddi fy mam y dodais ef, A gollyngais fry un ochenaid fawr Am gael mynd cyn hir at fy mam i'r nef. WYLWN! WYLWN! (Requiem,--Y gerddoriaeth gan Mr. J. Parry, Mus. Bac). Wylwn, wylwn! cwympa'r cedyrn, Cwympa cedyrn Seion wiw, Wylwn, wylwn! dianc adref Y mae cewri Mynydd Duw; Cydalarwn dan y stormydd, Crogwn ein telynau'n syn,-- Crogwn hefyd ein llawenydd Ar hen helyg prudd y glyn: Y cadarn a syrthiodd! Mae bwlch ar y mur, A Seion ar suddo mewn tristwch a chur. Ond ndgorn Duw a rwyga feddau'r llawr, A syrth y ser yn deilchion ar un awr;-- Dydd dial Duw!--dydd gwae i fyrddiwn fydd, A dydd gollyngdod teulu'r Nef yn rhydd. Clywaf lais o'r Ne'n llefaru, Treiddia trwy hen niwl y glyn, "Rhai sy'n meirw yn yr Iesu Gwyn eu byd y meirw hyn;" Diolch am yr enfys nefol Sydd fel bwa am y bedd, Dyma yr addewid ddwyfol Gaed o wlad yr hedd. Moliannwn,--Gorfoleddwn,-- Cawn gwrdd i gyd-ganu,--cyd-foli,--cyd-fyw, Mae allwedd marwolaeth wrth wregys ein Duw. MAM. Eisteddai geneth lwyd ei gwedd I ddweyd ei chwyn a'i cham, Ar noson oer yn myl bedd, A hwnnw'n fedd ei mam; Hi syllai fyny tua'r nen, A'i llygaid prudd yn llyn, Ac yng ngoleuni'r lleuad wen, Hi wylai gan fel hyn,-- "Mam! mam, O fy mam! 'Does neb yn y byd Mor anwyl a mam. "Ai llygad mam yw'r seren dlos Sydd yn y nefoedd fry, Yn wincio arnaf yn y nos I esgyn ati hi? Ai llais fy mam yw'r awel iach Sy'n hedeg dros y tir, Yn dwedyd wrth ei geneth fach,-- "Cei ddo
PREV.   NEXT  
|<   36   37   38   39   40   41   42   43   44   45   46   47   48   49   >>  



Top keywords:
blodyn
 

gwywedig

 

geneth

 
llygaid
 

syrthiodd

 

Crogwn

 

cedyrn

 

Treiddia

 
Diolch
 
ndgorn

feddau

 

tristwch

 

cadarn

 

deilchion

 

Clywaf

 

gollyngdod

 

fyrddiwn

 

llefaru

 

llygad

 
ngoleuni

lleuad
 

nefoedd

 
wincio
 

dwedyd

 

allwedd

 

Gorfoleddwn

 

ddwyfol

 
addewid
 
Moliannwn
 

marwolaeth


wregys
 

syllai

 

Eisteddai

 

ddweyd

 

phlentyn

 

wyliai

 

chofio

 

llaith

 

dyddiau

 

Gwelais


eiriau

 

toddai

 

Geiriau

 
dodwyd
 

Edrychais

 

nghalon

 

ddalen

 

dagrau

 

ffenestr

 

fachlud