FREE BOOKS

Author's List




PREV.   NEXT  
|<   4   5   6   7   8   9   10   11   12   13   14   15   16   17   18   19   20   21   22   23   24   25   26   27   28  
29   30   31   32   33   34   35   36   37   38   39   40   41   42   43   44   45   46   47   48   49   50   51   52   53   >>   >|  
O bedair rhan y byd, I'w mangre hwy; Tan obaith yn ddilyth, Cael telyn yn eu plith, I ganu heb gwyno byth, Hosanna mwy. Tra bwyf ar riwiau serth, Preswylydd mawr y berth, Rho'th gwmni trwy; Mae cofio am y loes Dan arw gur y groes, Yn rhyw feluso f'oes, Hosanna mwy. Na ddigied neb o'r plant, Am imi ganu ar dant O'u telyn hwy: Myfyrio'r tywydd du Fu ar ein Iesu cu, A droes fy nghan mor hy', Hosanna mwy. ANGAU. _Englynion a ysgrifenwyd yn ddifyfyr ym mynwent y Wyddgrug_. "Ni foddir (mae'n rhyfeddol)--chwai angau, A chyngor dymunol; Er wban, griddfan greddfol, (Uthr in' yw!) ni thry yn ol. Er gwaedd mam,--er gweddi myrdd, Er gwen byd,--er gwyneb hardd, Er swn cwyn,--er seinio cerdd, Er ing ffull, mynn angau'i ffordd. Ni eiriach rai bach rhag bedd,--i'r cedyrn Rhoir codwn i'r dyfn-fedd; A mirain feibion mawredd Ostyngir, siglir o'u sedd. I'r llaid yr aeth fy nhaidiau,--i huno, Fu'n heinyf er's dyddiau: I'r ystafell dywell dau, Ryw funud, yr af innau. Ond cael nod hynod, a hedd--yr Iesu, A drws i dangnefedd; Yn dawel yn y diwedd, Af i gaban bychan bedd. CYMDEITHAS GYMREIGYDDOL CAERLLEON. Boed llwydd, mewn pob dull addas,--a chynnydd I'ch enwog Gymdeithas; Heb stwr, na chynnwr, na chas-- Geni beirdd heirdd fo'i hurddas. Bu gannoedd drwy bob gweniaith,--addefent, Am ddifa'r Omeriaith; Aent hwy i lawr i fynwent laith-- I fyny safai'r fwyn-iaith. Heddyw gwelaf na faidd gelyn--er gwyn, Roi gair yn ei herbyn; A dolef gref sy'n dilyn, "A lwyddo Duw, ni ludd dyn." Cur llawer fu Caerlleon,--y gw'radwydd Sy'n gwrido hanesion; Am groesi'r Clawdd hir i hon, Brethid calonnau Brython. 'Nawr Cymry gant wisgant wen, Chwarddu gant a cherddi gwin, Ceir bri, a chwmni, a chan, O fewn Caer heb ofn y cwn. Byw undeb, gyda bendith,--a daenir O'ch doniawl athrylith: Gelyn breg, rhwyg rheg rhagrith I chwerwi'ch plaid, na chaer i'ch plith. DAU ENGLYN Ar Briodas Mr. P. Williams a Miss Whitley, Broncoed. Gan Naf eiddunaf i'r ddau--bob undeb, A bendith, a grasau, I fyw'n hir, ac i fwynhau Dedwyddwch hyd eu dyddiau. Eirchion y gwaelion heb gelu,--pur rad Parhaus fo'n defnynnu: Pob urddawl ollawl allu Iddyn' ddel--medd Ioan Ddu. Tach., 1812 GENEDIGAETH IORWERTH
PREV.   NEXT  
|<   4   5   6   7   8   9   10   11   12   13   14   15   16   17   18   19   20   21   22   23   24   25   26   27   28  
29   30   31   32   33   34   35   36   37   38   39   40   41   42   43   44   45   46   47   48   49   50   51   52   53   >>   >|  



Top keywords:

Hosanna

 

dyddiau

 

bendith

 

Caerlleon

 

chynnwr

 

lwyddo

 

llawer

 

calonnau

 

Brethid

 

Brython


Gymdeithas

 

gwrido

 

hanesion

 

groesi

 

Clawdd

 

radwydd

 

Heddyw

 

gwelaf

 
gweniaith
 

Omeriaith


fynwent

 
herbyn
 

heirdd

 

addefent

 

gannoedd

 

hurddas

 

beirdd

 

grasau

 

fwynhau

 
Dedwyddwch

eiddunaf
 

Williams

 

Whitley

 

Broncoed

 
Eirchion
 
gwaelion
 
ollawl
 

urddawl

 
Parhaus
 

defnynnu


Briodas

 

chynnydd

 

chwmni

 

wisgant

 

Chwarddu

 

cherddi

 

daenir

 

chwerwi

 

rhagrith

 

ENGLYN