FREE BOOKS

Author's List




PREV.   NEXT  
|<   27   28   29   30   31   32   33   34   35   36   37   38   39   40   41   42   43   44   45   46   47   48   49   50   51  
52   53   54   55   >>  
yn ar lawr. Ei ddull, ei wedd, a'i ddillad, A'i lun, oedd fel un o'r wlad. Craffai arnaw--draw fe drodd, A lliw egwan llewygodd; Oherwydd y tramgwydd trwm A ddyrysodd ei reswm; Drwy'i galon a'i dirgeloedd, Safai bar,--can's ei fab oedd; Ei deulu o'i ddeutu ddaeth, Gan weled ei ddygn alaeth; Rhoent uwch ei fab, drygfab,--dro Eu ced olaf,--cyd-wylo; Uchel oernych alarnad Wrth ei ddwyn fry i dy i dad: (Gwyddent mai dilyn geu-dduw, A dal dig, a gadael Duw,-- Trwy lithiol rai ffol, di-ffydd, Wnai ei ddwyn i'w ddienydd!) Hwy ddeallent, modd hollol, A ddwedai, 'nawr, am ddod'n ol, Ryw ddiwrnod, a dyrnod du Dialedd ar ei deulu. Iddo fe gwnaed angladd fawr, Hir wylwyd ar ei elawr: (Mae natur bur ei bwriad A maith ddeddf mewn mam a thad;) Er brad, er braenaru bron Ei rieni, rai union,-- Eto wylodd y teulu, Am y mab, fel cynfab cu; Ni pheidient am anffodion A thranc gwas ieuanc, a son; Ac a pharch gwnaent er cofthau, Hel peraidd, lwysaidd lysiau; Hel mwysion freila maesydd, Hel blodau ar gangau'r gwydd; Hel mawr ar lili mirain, Hel y rhos ar ol y rhain; Hel llawryf digoll irwedd, Hela'r bawm i hulio'r bedd: A dagrau rhwydd, sicrwydd serch, Mwydent, llenwent y llannerch. Garmon, er cof mwynlon mad, Gweddus, o'r holl ddigwyddiad, O fewn y tir roes faen teg, A geiriau ar y garreg;-- "Daw hinon, er llid annuw, I'r dyn doeth a gredo'n Duw; A dylaeth, barn, a dolef, I'r adyn fo'n erbyn Nef." ABERIW. AT MR. E. PARRY. _Berriew, Chwef_. 10, 1824. ANWYL GYFAILL, Mae ymdeithydd yn myned heibio i Lerpwl, a rhesymol i mi achub y cyfleustra i ysgrifenu at un a brofodd ei gyfeiligarwch drwy amryfal dirionderau. Chwi a welwch wrth ddyddiad y llythyr fy mod yn mhell o fangre fy mam. Daethum yma y 30ain o'r mis diweddaf, a chefais Mr. Richards a'r holl deulu yn foneddigaidd, tirion, a charedig. Mae yma dri o wyr ieuainc yn cael eu parotoi i'r Brif Ysgol,--ni welais dri erioed mor wahanol eu hansawdd a'u tymherau i'w gilydd; ond trefnodd y Rhagluniaeth y cefais fy mwrw arni o'r bru, a'r hon a drefnodd fy ngherddediad hyd yma, iddynt fy nerbyn gyfeillgarwch agos yr wythnos gyntaf o'm hainfodiad yn eu plith. Fel hyn, y mae'r coelbren wedi syrthio i mi mewn lle hyfryd o ran teulu i gyfaneddu yn eu plith, ac am gyfeillgarwch sydd fel olew i olwynion fy natur, gallaf ddywedyd "dyma etifeddiaeth deg." Pe byddai lle yn y byd a barai i mi anghofio yr aelwyd y dysgais ymgropian hyd-ddi gyntaf--y
PREV.   NEXT  
|<   27   28   29   30   31   32   33   34   35   36   37   38   39   40   41   42   43   44   45   46   47   48   49   50   51  
52   53   54   55   >>  



Top keywords:

gyfeillgarwch

 

gyntaf

 

cyfleustra

 

ysgrifenu

 

heibio

 

Lerpwl

 

rhesymol

 

amryfal

 

gyfeiligarwch

 

brofodd


llythyr

 

ddyddiad

 

dirionderau

 

welwch

 

garreg

 

geiriau

 

ddigwyddiad

 

Gweddus

 
dylaeth
 

Berriew


GYFAILL

 
fangre
 

ABERIW

 

ymdeithydd

 

ieuainc

 

syrthio

 

coelbren

 

hyfryd

 

gyfaneddu

 
nerbyn

iddynt
 

wythnos

 

hainfodiad

 

anghofio

 
aelwyd
 
dysgais
 
ymgropian
 

byddai

 
gallaf
 

olwynion


ddywedyd

 

etifeddiaeth

 

ngherddediad

 

drefnodd

 

mwynlon

 

charedig

 

parotoi

 

tirion

 

foneddigaidd

 

diweddaf