FREE BOOKS

Author's List




PREV.   NEXT  
|<   14   15   16   17   18   19   20   21   22   23   24   25   26   27   28   29   30   31   32   33   34   35   36   37   38  
39   40   41   42   43   44   45   46   47   48   49   50   51   52   53   54   55   >>  
ofid, a dolefain, O'i chodiad irad yn y Dwyrain, 'Fu'r un baich i fawrion a bychain; Baban a mam (un ddamwain) lle cafodd, Dieneidiodd o dan ei hadain. Ond Duw'r hedd o'i ryfedd rad, Yn 'diwedd, roi wrandawiad I'w blant,--pan godent eu bloedd, Dan ofid hyd y nefoedd: O Scio wylo, alaeth, I'w glustiau'n ddiau a ddaeth; A rhoes, Ior y Groes, ar gri, Dyst eirian o'i dosturi; D'ai'n gymorth, da borth di-baid, Nes i ryw'r Nazareaid, Rai marwawl, er eu muriau, Ac erfyn eu gelyn gau. Angylion, genadon gwynion gannoedd, Gyrrai i'w llywiaw, y gorau lluoedd, Rhwygent y muriau, rhoi gwynt y moroedd I'r ddi-ofn daran, hwyl ar ddyfnderoedd, Llu'r Proffwyd dan arswyd oedd--pan welent, Hwy draw a gilient i eu dirgeloedd. Yn awr (a Duw'n ei wiriaw) Golygwn ddwthwn a ddaw,-- Pan deflir, lluchir i'r llawr Ddu arfawg anghrist ddirfawr; A phan gair, yn hoff ei gwedd, Gaer enwawg i'r gwirionedd: Drwy reol gwydrau'r awen, Draw'r llwydd a welaf drwy'r llen;-- Llwydd oesoedd lluoedd Iesu, Pan gant y feddiant a fu O ddiwall wlad addewid, Heb gaethder, llymder, na llid. Gyrr y Dwyrain, ac oer ia diroedd Y dwfn eira, eu di-ofn yrroedd; Gyrr y Deau hithau ei hieithoedd, A Gorllewin ei gorau lluoedd; Un fwriad a niferoedd--y fawr-blaid O Groesadiaid, ac eres ydoedd. Bydd ar dyrau Salem furiau, Y banerau yn ben arwydd, I'r tylwythau, ar eu teithiau I le'u tadau, olud dedwydd; Ar Fosciaid y blaid heb lwydd,--dyrchefir Ac eres welir y Groes hylwydd. A thi, Roeg, a'th ddaear wych, A'th awyr brydferth hoew-wych, A welir eto eilwaith, Fal gynt, er rhyfelawg waith, Yn llwyddo'n fronlle addysg, A lle llawn pob dawn a dysg; Byddi, heb nam, yn fam faeth I rinwedd--i wroniaeth-- I ddidwyll gelfyddydau, Pob llwydd, a wna pawb wellhau; I bob mad gariad gwladawl, A fu gynt dy fwya' gwawl. Ac iawn adferir, gwnn, dy furiau, Dy awen, llwynydd, dy winllanau, Dy brif-ysgolion, dirion dyrau, Lleoedd doethion ddynion o ddoniau; Sparta hen, Athen hithau--a gant lwydd, A fydd ddedwydd o gelfyddydau. Darlunir hyd ar lenni, A mynnir, gwn, o'th meini Gelfyddyd byd heb oedi; Y dynion a adweini, Yn rhediad eu mawrhydi, Yn eil-oes, gwnn, a weli; Eu cerf-ddelwau, lluniau llawn, Fodd uniawn, a feddieni. Llwydd, llwydd, a dawn rwydd, dan ryddid--eto Iti a chalondid: Yn y byd hwn, na boed tid Dan nefoedd yn dynn ofid. Ond aed (ac O! nad oeded)--lywodraeth Ddi-ledryw gwlad Alffred, A'i moliant i ym
PREV.   NEXT  
|<   14   15   16   17   18   19   20   21   22   23   24   25   26   27   28   29   30   31   32   33   34   35   36   37   38  
39   40   41   42   43   44   45   46   47   48   49   50   51   52   53   54   55   >>  



Top keywords:

llwydd

 

lluoedd

 

Llwydd

 

muriau

 

nefoedd

 

furiau

 

gelfyddydau

 

hithau

 

Dwyrain

 

ddidwyll


llwyddo

 

fronlle

 

rhyfelawg

 

rinwedd

 

addysg

 

wroniaeth

 

dedwydd

 

teithiau

 
banerau
 

arwydd


tylwythau

 
ydoedd
 

ddaear

 

brydferth

 

eilwaith

 

Fosciaid

 

dyrchefir

 

hylwydd

 

ysgolion

 
lluniau

uniawn
 

feddieni

 

ryddid

 

ddelwau

 
mawrhydi
 
rhediad
 
chalondid
 

ledryw

 
Alffred
 

moliant


lywodraeth

 

adweini

 

dynion

 

adferir

 

llwynydd

 

winllanau

 

dirion

 

wellhau

 

gwladawl

 

gariad