FREE BOOKS

Author's List




PREV.   NEXT  
|<   9   10   11   12   13   14   15   16   17   18   19   20   21   22   23   24   25   26   27   28   29   30   31   32   33  
34   35   36   37   38   39   40   41   42   43   44   45   46   47   48   49   50   51   52   53   54   55   >>  
Am ryddid ardderchog; A'r un Crist fu ar bren crog, Ni ymedy a Madog." E daw ar hyn,--d'ai ar ol Ryw ddistawrwydd ystyriol. Ac Iorwerth, ar y geiriau, Fel llew dig ffyrnig mewn ffau; Malais y Sais, echrys wg, A welid yn ei olwg. _Tyb Euraid Ap Ifor_. O ryw fuddiol arfeddyd,--rhoi'n rhagor Euraid Ap Ifor ei dyb hefyd,-- "Hyf agwrdd bendefigion, Rhy brysur yw'r antur hon; Ar furiau tref, ai rhaid trin Anhoff astalch a ffestin? Mae llid yn fy mron hynaws, At Saeson, a'u troion traws; Ond serch, a glywserch i'm gwlad, O'm calon a rwyddlon red; Na ato fyth, etwa fod Neint hon yn gochion i gyd,-- Arafwn,--o'r tro rhyfedd Hwyrach cawn, y mwynhawn, hedd; E ddaw ergyd ddiwyrgam, Lawn cur, i ddial ein cam; Ac hefyd dylid cofio,-- Er prudded, trymed y tro,-- Er angeu'r gair fu rhyngom, 'R amodau, rhwymau fu rho'm: Pan roddo Gymro y gair, Hwnnw erys yn wir-air; Ei air fydd, beunydd heb ball, Yn wir, fel llw un arall: Ein hynys hon i estron aeth, A chyfan o'n gwiw uchafiaeth; Ond ni throes awch loes, na chledd, Erioed mo ein hanrhydedd; A'n hurddas a wnawn arddel, Y dydd hwn, a doed a ddel: Ein hiawn bwys yn hyn, O bid, Ar Dduw a'i wir addewid. Duw a'n cyfyd ni, cofiwn, Y diwedd, o'r hadledd hwn; Heddyw, oedwn ddywedyd Ein barn, yn gadarn i gyd; Profwn beth dd'wed ein prif-fardd,-- Gwir iawn bwyll yw geiriau'n bardd;-- Pa lwyddiant, yn nhyb Bleddyn, A ddigwydd o herwydd hyn?" Amneidient mewn munudyn Ar yr ethol ddoniol ddyn,-- Yna, a phwys ar ben ei ffon, Y gwelid y gwr gwiwlon: Ei farf fel glan arian oedd,--mewn urddas, Cyrhaeddai hon wasg ei wyrddion wisgoedd; Yn null beirdd, enillai barch,--ar bob peth E ddygai rywbeth hawddgar a hybarch. _Proffwydoliaeth Bleddyn_. D'wedai, agorai'r gwir-air,-- "Clyw frenin gerwin, y gair! 'R hyn ddaw, trwy fy llaw i'r llys, Duw y dynged a'i dengys; Am ennyn aer mwy na neb, Troi a chynnal trychineb, Gwneyd ochain yn seilfain sedd,-- Rhoi dy wersyll ar d'orsedd! Am ddifrodi, llosgi, lladd, Brad amlwg, a brwd ymladd; A rhoi bro, mewn taro tynn, I wylo am Lywelyn:-- (Iachawdwr a braich ydoedd, Ac anadl ein cenedl oedd;) Fel y rhoist gur, mesur maith, Y telir i ti eilwaith. O! trochaist lawryf mewn trwch-waed, Dy arlwy wrth Gonwy oedd gwaed. Hwn geraist yn lle gwirawd,-- Bleiddiaid sy'n ffoi rhag cnoi cnawd. Y mae maith och mam a thad, Gwaedd a chur gweddw a chariad,-- A main lle mae ymenydd Llawer dewr, a gollai'r dydd,-- Temlau
PREV.   NEXT  
|<   9   10   11   12   13   14   15   16   17   18   19   20   21   22   23   24   25   26   27   28   29   30   31   32   33  
34   35   36   37   38   39   40   41   42   43   44   45   46   47   48   49   50   51   52   53   54   55   >>  



Top keywords:

Euraid

 

geiriau

 

Bleddyn

 

enillai

 

frenin

 

hybarch

 

hawddgar

 

ddygai

 

Proffwydoliaeth

 

agorai


rywbeth

 

gerwin

 

Amneidient

 

herwydd

 

ddigwydd

 

munudyn

 

ddoniol

 

lwyddiant

 
Cyrhaeddai
 

urddas


wyrddion

 
wisgoedd
 

gwelid

 

gwiwlon

 

dynged

 

beirdd

 

ddifrodi

 

Bleiddiaid

 

gwirawd

 
geraist

eilwaith
 

trochaist

 

lawryf

 

ymenydd

 
chariad
 
Llawer
 
Temlau
 

gollai

 
gweddw
 

Gwaedd


rhoist

 

seilfain

 

wersyll

 

orsedd

 

ochain

 

Gwneyd

 

trychineb

 

chynnal

 

llosgi

 

Iachawdwr