FREE BOOKS

Author's List




PREV.   NEXT  
|<   35   36   37   38   39   40   41   42   43   44   45   46   47   48   49   50   51   52   53   54   55   >>  
nion fel y mae ei gallu yn cynyddu. Hwyrach na lwyddwch i gael cyd-ymdrechiad y Boneddion a enwasoch;--rhai o herwydd eu hoerfel at yr achos Cymreig,--a llawer am fod rhannau eraill o'r wlad yn galw am eu gwasanaeth yn fwy na Chaer, un ai o herwydd cymydogaeth, neu feddiannau. Er hynny, pe na enillech ddim ond ymegniad gwresog ac unfryd trigolion eich tref eich hunain, byddai yn werth eich trafferth, a gallwch wneuthur gwyrthiau. Y mae yr Iaith Gymraeg yn deilwng o'i choleddu, ac eneidiau Cymru yn werth eu cadw. Chwi a gewch fy nymuniadau goreu i, os ydynt werth rhywbeth, a phe byddai gennyf well, chwi a'i caech. Buoch yn ddedwydd iawn gael Mr. Richards yn Gapelwr,--y mae'r gwr hwnnw yn addurn i bob Cymdeithas lle byddo. Yr ydwyf agos yn eddigeddu y pleser a gewch ar eich Cylchwyl, ac er hynny yn ewyllysio i chwi fil mwy. Rhaid i mi gadw gwyliau Homer ddall yn lle Dewi Sant, ac aros fel mynach yn fy nghell yn lle troedio'r heolydd i ddangos fy "nghenin," a gadael i'm henaid lesmeirio wrth gyngan y delyn. Ond rhaid boddloni, ac yr ydwyf yn foddlon ac yn ddiolchgar. Yr oeddych yn ymholi pa fodd yr ydwyf yn byw yma.--Credwch fi,--mor syml a diniwed a Meudwy, a mor ddedwydd a Thywysog. Cof am gartref a hen gyfeillion sydd weithiau yn cynhyrfu hiraeth ynof am wlad fy ngenedigaeth, a dyna'r unig ddefnyn chwerw sydd yn fy nghwpan. Y mae penaethiaid yr Athrofa yn dirion i'r eithaf, a chyd-astudwyr mor gyfeillgar ag y gallwn ddymuno. Yr oeddwn wedi bwriadu englynion i chwi a math o awdl i'ch Cymdeithas; ond hawdd i chwi feddwl nad oes gan un a ymunodd a'r Brifysgol y'mhen pum' mis wedi cydio gyntaf mewn Ieithiadur nemawr amser i gysoddi dim. Pa fodd bynnag, dyma ryw bethau yn llun englynion "Ar y ffolineb o wadu Iaith gynhenid," a ddymunwn gyflwyno i'ch Cymdeithas a chwithau, i aros gwell. A wirionwyd ar unwaith--yr adyn Pan redai i estroniaith, I wadu'i wlad, gyda lediaith, Gwawdio hon, a gwadu ei hiaith? A yw'n gywilydd gan ei galon--iaith serch Iaith su ei fam radlon? Ddyddiau hir, mor dda oedd hon I ynganu angenion? Ai gwr yw a gar awen--heb arddel Iaith beirddion disgywen? Ai un am les hanes hen Wrthoda chwaer iaith Eden? Iaith oedd araeth i ddewrion,--wroniaid Drwy enwog ymdrechion, Tan eu heirf bloeddient yn hon "Trowch i'r gad! tr'ewch ergydion!" Ac onis dewis y dyn--y gyngan Sydd rhwng cangau'r dyffryn? A gwin i'w fant? ac ni fyn
PREV.   NEXT  
|<   35   36   37   38   39   40   41   42   43   44   45   46   47   48   49   50   51   52   53   54   55   >>  



Top keywords:

Cymdeithas

 

byddai

 

ddedwydd

 

gyngan

 

englynion

 

herwydd

 

bethau

 

ffolineb

 

gysoddi

 

bynnag


gynhenid

 

wirionwyd

 

estroniaith

 

unwaith

 

lwyddwch

 

ddymunwn

 

nemawr

 

gyflwyno

 
chwithau
 

oeddwn


bwriadu

 
enwasoch
 

ddymuno

 

gallwn

 

eithaf

 

astudwyr

 

gyfeillgar

 

Boneddion

 

gyntaf

 
lediaith

Brifysgol
 

feddwl

 

ymdrechiad

 

ymunodd

 
Ieithiadur
 
Hwyrach
 
bloeddient
 

Trowch

 
ymdrechion
 

ddewrion


araeth

 

wroniaid

 

ergydion

 

dyffryn

 

cangau

 

chwaer

 

Ddyddiau

 

radlon

 

gywilydd

 

dirion