FREE BOOKS

Author's List




PREV.   NEXT  
|<   46   47   48   49   50   51   52   53   54   55   >>  
a chariad, ar eu cynnydd, Fo'n teyrnasu tros y tir. CAN GWRAIG Y PYSGOTWR. Gorffwys donn, dylifa'n llonydd, Paid a digio wrth y creigydd; Y mae anian yn noswylio, Pa'm y byddi di yn effro? Dwndwr daear sydd yn darfod,-- Cysga dithau ar dy dywod. Gorffwys for! mae ar dy lasdon Un yn dwyn serchiadau 'nghalon; Nid ei ran yw bywyd segur, Ar dy lifiant mae ei lafur; Bydd dda wrtho, for diddarfod, Cysga'n dawel ar dy dywod. Paid a grwgnach, bydd yn ddiddig, Dyro ffrwyn ym mhen dy gesig; A pha esgus iti ffromi? Nid oes gwynt ym mrig y llwyni: Tyrd a bad fy ngwr i'r diddos Cyn cysgodion dwfn y ceunos. Iawn i wraig yw teimlo pryder Pan bo'i gwr ar gefn y dyfnder; Ond os cyffry dig dy donnau, Pwy a ddirnad ei theimladau? O bydd dirion wrth fy mhriod,-- Cysga'n dawel ar dy dywod. Byddar ydwyt i fy ymbil, For didostur, ddofn dy grombil; Trof at Un a all dy farchog Pan bo'th donnau yn gynddeiriog; Cymer Ef fy ngwr i'w gysgod, A gwna di'n dawel ar dy dywod. [Gwraig y Pysgotwr. "Gorffwys for, mae ar dy lasdon Un yn dwyn serchiadau 'nghalon.": alun105.jpg] Y DDEILEN GRIN Sech yw'r ddeilen ar y brigyn, Buan iawn i'r llaid y disgyn; Ond y meddwl call a ddarllen Wers o addysg ar y ddeilen. Unwaith chwarddodd mewn gwyrddlesni, Gwawr y nef orftwysodd arni; Gyda myrddiwn o gyfeillion, Dawnsiodd yn yr hwyr awelon. Darfu'r urdd oedd arni gynnau, Prin y deil dan wlith y borau, Cryna rhag y chwa ireiddlon Sydd yn angeu i'w chyfoedion. Ni all haul er ymbelydru, Na llawn lloer er ei hariannu, Ac ni all yr awel dyner Alw yn ol ei hen ireidd-der. Blaguro ychydig oedd ei chyfran, Rhoi un wen ar wyneb anian; Llef o'r nef yn Hydref waedda-- Darfu'th waith,"--a hithau drenga. Footnotes: {1a} O wawl-arluniau gan y diweddar John Thomas. {1b} O wawl-arluniau gan y diweddar John Thomas. {1c} O wawl-arluniau gan y diweddar John Thomas. {1d} O wawl-arluniau gan y diweddar John Thomas. {26} Cyfeiriad at farwolaeth echrydus Iorwerth II. Cym. _The Bard_, Gray. {27} Man y llofruddiwyd llawer o hil Edward. {28} Harri VII., buddugwr Bosworth. {33} Yr arwyddair dan Loer arian y Twrc yw,--"Nes llenwi hol ddaear." {45a} Flodden Field, by Sir Walter Scott. {45b} Siege of Corinth, by Lord Byron; and Siege of Valencia, by Mrs. Hemans. {47} The English Channel. {53} Hesperus, the evening star. {101} Caveri.--Afon yn Ngorllewin Hindostan, a lifa he
PREV.   NEXT  
|<   46   47   48   49   50   51   52   53   54   55   >>  



Top keywords:

arluniau

 

diweddar

 

Thomas

 

Gorffwys

 

ddeilen

 

donnau

 

lasdon

 

serchiadau

 

nghalon

 

ychydig


chyfran

 

Blaguro

 

ireidd

 

evening

 

Hydref

 

waedda

 

hithau

 

Channel

 
Hesperus
 

Caveri


Hindostan

 
chyfoedion
 

ireiddlon

 

Ngorllewin

 

drenga

 

hariannu

 

ymbelydru

 

Bosworth

 

buddugwr

 
llawer

Edward
 

arwyddair

 

Flodden

 

Walter

 
ddaear
 
llenwi
 
llofruddiwyd
 

Valencia

 
English
 

Hemans


Cyfeiriad

 

farwolaeth

 

Corinth

 

echrydus

 

Iorwerth

 

Footnotes

 

disgyn

 

ddiddig

 

ffrwyn

 

grwgnach