FREE BOOKS

Author's List




PREV.   NEXT  
|<   36   37   38   39   40   41   42   43   44   45   46   47   48   49   50   51   52   53   54   55   >>  
Iaith hudoliaeth y delyn? Onid yw iaith fyw mor fad--yn deilwng O'n dilyth arddeliad? Neb ond un gwrthun a'i gwad Neu a ludd ei choleddiad. Y mae doethaf gymdeithion--Cymroaidd, Ac amryw o'r Saeson-- Y'Ngwalia mae angylion Gyda'u heirf am gadw hon. A cheir yn pleidio ei choron--euraidd Iorwerth a'i gyfeillion, A gwr mawr o gyrrau Mon Yn Llywydd yn Nghaerlleon. Mwy addas i was isel--a'i osgedd Am esgyn yn uchel, Garu ei iaith, a'r gwr wel Werth ei hurdd wrth ei harddel. O'i gwrthod, gwawd ac erthwch,--a'i dilyn Hyd elor drwy dristwch; Ni cha lin goruwch ei lwch, O glod goreu gwladgarwch. Boed gan Gymro ym mhob broydd--o'i brif-iaith Bur fost yn lle c'wilydd, Fel na ddel, tra y del dydd, Lediaith ar ein haelwydydd. TELYN CYMRU. _Allan o Saesoneg Mrs. Hemans, i Gymdeithas Gymreigyddol Rhuthyn, 1824_. O delyn oesol! dyro eto gainc, Fel pan ewynai'r hirlas yn y wledd; Pan gurai bronnau gan wladgarol ainc, Pan wlychid byrddau Owain gan y medd: O Delyn! deffro 'ngrym yr oesoedd hen, Adleisia'r bryn dy geinciau gyda gwen. Dy dant ni's tyr--Rhufeinydd erchyll don Ddaeth dros las ddyfroedd, gyda llawer rhwyf, Enynai fflam trwy dderi sanctaidd Mon, A gwnai gromlechau'n garnedd yn ei nwyf, Rhoi lwch y creiriau gyd a'r gwynt a'r lli', Delyn, rho gainc, nis gallai d'atal di. Dy dant ni's torrir. Chwyfiodd baner Sais Yn ddig ar awel flith Eryri gerth, Uwch bloedd ei udgyrn, clywid swn dy lais, Pan guchiai'i gestyll ar y clogwyn serth, Cynhyrfai'th don y dewrion i fwy bri, Eu llethri oedd ganddynt, bronnau rhydd, a thi Oes ddu oedd hon; pan gwympai'r glew dirus, Pan dyfai chwyn gylch bwrdd lle gwleddodd cant, Pan lechai'r llwynog yn y drylliawg lys, Oedd nerth i ti'r pryd hyn--dawn ym mhob tant, Yn nyddiau hedd dy geinciau grymus gyr, O Delyn ber! o'th dannau un ni's tyr. AT EI RIENI. _Athrofa'r Iesu, Rhydychen, Chwefror, 11fed, 1826_. ANWYL RIENI, Yn lle esgus dros fod yn ddistaw cyhyd, rhoddaf i chwi hanes byr o'r modd yr ydwyf yn byw. Wrth ymdrechu dyfod i fyny gyda y rhai a gawsant bob mantais ysgolheigaidd ym moreu eu hoes, yr wyf yn gorfod bod yn ddiwyd iawn wrth fy llyfrau. Nid ydyw treiddio i mewn i ieithoedd ond gorchwyl sych a diffrwyth, ac i un yn fy sefyllfa i, o ran gwall cyfleusterau boreuol, y mae yn waith digon caled. Am y tro cyntaf yn fy mywyd, yr
PREV.   NEXT  
|<   36   37   38   39   40   41   42   43   44   45   46   47   48   49   50   51   52   53   54   55   >>  



Top keywords:

geinciau

 

bronnau

 

gwympai

 

creiriau

 

gallai

 

ganddynt

 

drylliawg

 

llwynog

 

lechai

 

gwleddodd


bloedd

 

Chwyfiodd

 

udgyrn

 

clywid

 

guchiai

 

gestyll

 

dewrion

 

torrir

 
clogwyn
 

Cynhyrfai


llethri

 
grymus
 

ddiwyd

 

llyfrau

 

gorfod

 

mantais

 

gawsant

 

ysgolheigaidd

 

treiddio

 
boreuol

cyntaf
 

cyfleusterau

 

gorchwyl

 

ieithoedd

 
diffrwyth
 
sefyllfa
 
dannau
 

Athrofa

 
Chwefror
 

Rhydychen


nyddiau

 

ymdrechu

 

ddistaw

 

rhoddaf

 

harddel

 

gwrthod

 

erthwch

 

osgedd

 

gwladgarwch

 

deilwng