FREE BOOKS

Author's List




PREV.   NEXT  
|<   31   32   33   34   35   36   37   38   39   40   41   42   43   44   45   46   47   48   49   50   51   52   53   54   55  
>>  
ri'n 'r hafan hon. BUGEILGERDD. Ar don "_Kate Kearney_." DEWI. A welaist, a 'dwaenaist ti Doli, Sy' a'i defaid ar ochr Eryri? Ei llygad byw llon Wnaeth friw ar fy mron, Melusach na'r diliau yw Doli. HYWEL. O do, mi adwaenwn i Doli,-- Mae'i bwthyn wrth droed yr Eryri; 'D oes tafod na dawn All adrodd yn iawn Mor hawddgar a dengar yw Doli. Un dyner, un dawel yw Doli,-- Mae'n harddach--mae'n lanach na'r lili; 'Does enw is nen A swnia'n ddisen Mor ber gyda'r delyn a Doli. DEWI Ow! ow! nid yw'n dyner wrth Dewi,-- 'Does meinir yn delio fel Doli, Er ymbil a hi A'm llygad yn lli, Parhau yu gildynus mae Doli. Ymdrechais wneyd popeth i'w boddio, Mi gesglais ei geifr idd eu godro, Dan obaith yn llwyr Y cawn yn yr hwyr Gusanu yn dalu gan Doli. Mae'i mhynwes mor wynned a'r eira,-- Mae'i chalon mor oered mi wiria'; Ar f' elor ar fyrr Fy nghariad a'n ngyrr-- O oered a deled yw Doli! Tri pheth a dim mwy wy'n ddymuno,-- Pob bendith i Doli lle delo,-- Cael gweled ei gwedd Nes myned i'm medd,-- A marw yn nwylo fy Noli. YR HEN AMSER GYNT. Bu'n hoff i mi wrth deithio 'mhell Gael croesaw ar fy hynt; Mil hoffach yw cael "henffych well" Gan un fu'n gyfaill gynt. Er mwyn yr amser gynt, fy ffrynd, Yr hen amser gynt; Cawn wydriad bach cyn canu'n iach, Er mwyn yr amser gynt. Yn chwareu buom lawer tro, A'n pennau yn y gwynt; A phleser mawr yw cadw co O'r hyfryd amser gynt. Er digwyddiadau fwy na rhi',-- Er gwario llawer punt; Er llawer coll, ni chollais i Mo'r cof o'r amser gynt. Tra cura calon yn fy mron, Drwy groes neu hylon hynt, Rhed ffrydiau serch drwy'r fynwes hon Wrth gofio'r amser gynt. [Yr Amser Gynt: "Rhed ffrydiau serch drwy'r fynwes hon Wrth gofio'r amser gynt.": alun88.jpg] I -- Ty anwyl ferch, delw'm serch, clyw annerch clwy enaid, Tro'ist yn ddu'r cariad cu, a chanu'n ochenaid; A oedd un llaw drwy'r dref draw i nharaw'n anhirion? A oedd yn mhleth, at y peth, ddwrn yr eneth union? Yn wir dy wg dagrau ddwg i'r golwg o'r galon, Oni chaf hedd af i'm bedd i orwedd yn wirion. P'le mae'r gred, gofus ged, adduned oedd anwyl? Ai si a siom yr amod drom unasom ryw noswyl? P'le mae'r drem, fel gwawr gem, a luniem dan lwynydd? Torrai'n syn swyn y llyn, y delyn, a'r dolydd: Yn iach i'th wedd, mi wela 'medd, wan agwedd yn agor; Dywed di, fy mun, i mi, a wyli ar fy elor? Pan w
PREV.   NEXT  
|<   31   32   33   34   35   36   37   38   39   40   41   42   43   44   45   46   47   48   49   50   51   52   53   54   55  
>>  



Top keywords:

ffrydiau

 

fynwes

 

llawer

 

llygad

 

chwareu

 

annerch

 

alun88

 

pennau

 

digwyddiadau

 

hyfryd


chollais

 

gwario

 

phleser

 

noswyl

 

luniem

 

lwynydd

 

unasom

 

adduned

 
Torrai
 

agwedd


dolydd

 
mhleth
 

anhirion

 

nharaw

 

wydriad

 

cariad

 

ochenaid

 

orwedd

 

wirion

 
dagrau

ddisen
 

dengar

 

harddach

 

lanach

 
Ymdrechais
 
gildynus
 
popeth
 

boddio

 
Parhau
 

meinir


hawddgar

 

defaid

 

dwaenaist

 

welaist

 

BUGEILGERDD

 

Kearney

 

Wnaeth

 

adrodd

 

bwthyn

 

Melusach