FREE BOOKS

Author's List




PREV.   NEXT  
|<   18   19   20   21   22   23   24   25   26   27   28   29   30   31   32   33   34   35   36   37   38   39   40   41   42  
43   44   45   46   47   48   49   50   51   52   53   54   55   >>  
nt bleth, a molant blaid Gywreinwych ei gwroniaid. Mae gennyf yma i ganu Fwy gwron, sef Garmon gu; Ag eirf dig eu gorfod oedd, Gorfodaeth braich gref ydoedd; Hwn gadd glod a gorfodaeth Heb ergyd na syflyd saeth; I lu duwiol a diarf Yn wyrth oedd,--ac heb nerth arf; Duw yn blaid, a wnae eu bloedd Heibio i ddawn y byddinoedd. _Hwyrddydd ar y Mor_. Y dwthwn 'raeth cymdeithas Gwyr Rhufain, o Frydain fras, Ar hwyrddydd o ryw harddaf, Mwyna 'rioed yn min yr haf; E giliai'r haul, glauar hin, Ag aur lliwiai'r Gorllewin; Goreurai gyrrau oerion, Ferwawg a del frig y donn; Holl natur llawen ytoedd, Ystwr, na dwndwr, nid oedd; Ond sibrwd deng ffrwd ffreudeg Llorf dannau y tonnau teg; A'r tawel ddof awelon, Awyr deg ar warr y donn; Ton ar don yn ymdaenu, Holl anian mewn cyngan cu, Gwawr oedd hyn, a gyrr i ddod, Ac armel o flaen gwermod; Cwmwl dwl yn adeiliaw, Oedd i'w weled fel lled llaw. _Tymhestl_. Ael wybren, oedd oleubryd,--a guddid Gan gaddug dychrynllyd,-- Enynnai yr un ennyd, Fel anferth goelcerth i gyd. Mor a thir a'u mawrwaith oedd, Yn awr, fal mawr ryfeloedd; Mawr eigion yn ymrwygo, Ar fol ei gryf wely gro; Archai--gan guro'i erchwyn, A'i dwrw ffrom--dorri ei ffrwyn; Ymwan Udd {47} uwch mynyddoedd, At y Nef yn estyn oedd; Dynoethid yna weithion, Draw i'r dydd, odreu'r donn; Dodwodd y cwmwl dudew Ei genllysg i'r terfysg tew; A'r gwyntoedd rwygent entyrch, Neifion deifl i'r Nef yn dyrch; Deuai nos i doi y nen, Duai'n ebrwydd dan wybren; Ac o'r erchyll dywyll do Tan a mellt yn ymwylltio; Taranent nes torwynnu Y llynclyn diderfyn du. Yn mysg y terfysg twrf-faith Gwelid llong, uwch gwaelod llaith, Yn morio yn erbyn mawr-wynt,-- Mor yn dygyfor, a'r gwynt Wnai'r hwyliau'n ddarnau'n ei ddig, A'r llyw ydoedd ddrylliedig; Mynedyddion mwyn doddynt, Eu gwaedd a glywid drwy'r gwynt; Llef irad a llygad lli, Y galon ddewra'n gwelwi; Anobaith do'i wynebau, Ac ofn dor y gwyllt-for gau, Gwynnodd pob gwep gan gynni,-- Llewygent,--crynent rhag cri Gwylan ar ben'r hwylbren rhydd, "Ysturmant yr ystormydd!" A mawrwych galon morwr, Llawn o dan, droai'n llyn dwr; Llw fu'n hawdd, droe'n llefain O! A chan elwch yn wylo. _Garmon a Bleiddan_. Yn mawr swn ymrysonau 'R tro, 'roedd yno ryw ddau Llon hedd ar eu gwedd hwy gaid, A chanent heb ochenaid: Un Garmon, gelyn gormail, A Bleiddan ddiddan oedd ail; Gwelent drigfannau gwiwlon, Ac iach le teg, uwchlaw tonn,-- Lle nad oes
PREV.   NEXT  
|<   18   19   20   21   22   23   24   25   26   27   28   29   30   31   32   33   34   35   36   37   38   39   40   41   42  
43   44   45   46   47   48   49   50   51   52   53   54   55   >>  



Top keywords:

Garmon

 

wybren

 

Bleiddan

 

terfysg

 

ydoedd

 

Gwelid

 

gwaelod

 

llaith

 

diderfyn

 

Taranent


ymwylltio

 

torwynnu

 

llynclyn

 

dygyfor

 

doddynt

 

gwaedd

 

glywid

 

Mynedyddion

 
ddrylliedig
 

hwyliau


ddarnau

 
gorfod
 

Dodwodd

 

braich

 

genllysg

 

mynyddoedd

 

Dynoethid

 

weithion

 

gwyntoedd

 
ebrwydd

Gorfodaeth
 

erchyll

 

dywyll

 

Neifion

 
entyrch
 
rwygent
 
ymrysonau
 

chanent

 
uwchlaw
 

gwiwlon


drigfannau

 

ochenaid

 

gormail

 

ddiddan

 

Gwelent

 

llefain

 

Gwynnodd

 

crynent

 

Llewygent

 

gwyllt