FREE BOOKS

Author's List




PREV.   NEXT  
|<   7   8   9   10   11   12   13   14   15   16   17   18   19   20   21   22   23   24   25   26   27   28   29   30   31  
32   33   34   35   36   37   38   39   40   41   42   43   44   45   46   47   48   49   50   51   52   53   54   55   >>  
Ond oedai Edward wedyn Eu galw i'r llys, hysbys hyn; Disgwyliai a dwys galon,-- Heb gau ei amrantau 'mron, I'w fanon wirion, arab, Ar awr ferth, esgor ar fab. Harddai y lle--rhoi fwrdd llawn, A gosod rhyw esgusiawn; Ond er yr holl arfolli Holl blaid ein penaethiaid ni Ni charent y gwych aeron-- Y dawnsiau a'r llefau llon: Y morfa llwm a hirfaith, Lle berw tonn, oedd llwybr eu taith, A myfyrient am fawrion Aeth mewn cyrch dan dyrch y donn,-- Y glewion, enwogion wyr Laddwyd, a'r prif luyddwyr: Rhodient pan godai'r hedydd Fel hyn, hyd i derfyn dydd; A'u dyddiau oll fel diddim, Synnent, ond ni ddwedent ddim: Wedi egwyl ddisgwyliad, O fewn eu bron daeth ofn brad,-- Swn, fal rhwng sisial a son, "Llawrudd a chyllill hirion;" 'Roedd gwaelod y trallod trwch, I wyr Gwalia'n ddirgelwch. _Geni Tywysog_. Wele! o'r diwedd, ar ol hir dewi, Deuai i Iorwerth genadwri O Gaersalwg,--gwnai ei groesholi,-- Yna ei holl anian oedd yn llonni Hyd grechwen, pan glywodd eni--bachgen Ag aur wialen a gai reoli. Ac yna a'i udganwr A'i gorn teg i gern y twr: Galwyd arglwyddi Gwalia, ar unwaith, Ar heng hirfaith i ddod i'r gynghorfa. Pob rhyw gadr waladr oedd Yn esgud yn ei wisgoedd; Distain wnai iddynt eiste Bob yn lwyth--bawb yn ei le: Deuai'r Ynad dirinwedd, Mewn parchus, arswydus wedd; Mewn rhwysg a muner-wisgoedd, Coron ar y coryn oedd; A gwyneb yn llawn gweniaith, O drefn y dechreuai draith. "Fy neges, brif enwogion, A glywiau teg y wlad hon,-- Nid ydyw i wneyd adwyth, Dwyn loesion llymion yn llwyth,-- I fygwth clwyf a gwaith cledd, Nac i lunio celanedd; Ond o fwriad adferu Eich hyfawl barch fel y bu; Cymru ben baladr ffladr fflwch Heddyw sydd eisiau heddwch; Rhoddi Llywiawdwr addwyn, Nwyfre maith, wnaf er ei mwyn; Un na's trina es'roniaith, Na swn gwag Seisonig iaith; Fe'i ganwyd ar dir Gwynedd, Dull Sais, na'i falais, ni fedd; Addefir ef yn ddifai,-- Ni wyr un fod arno fai: Yn fwynaidd gwybod fynnwn, Beth wnewch? Ufuddhewch i hwn?" * * * * * Cydunent, atebent hwy,-- "Ymweledydd mawladwy, I'n cenedl rhyw chwedl go chwith Ydyw geiriau digyrrith; Cymru wech,--nis cymrai hon Lyw o astrus law estron; Ond tynged a brwnt angen, A gwae ei phobl, blyga'i phen: Llin ein llon D'wysogion sydd 'Leni mewn daear lonydd: Rho di'r llyw cadarn arnom A dedwydd beunydd y b'om:-- Enwa 'nawr, er union waith, Y gwr del wisga'r dalaith, 'Nol cyfraith, fel b'o rhaith rhom, Na thyrr ing fyth awr rhy
PREV.   NEXT  
|<   7   8   9   10   11   12   13   14   15   16   17   18   19   20   21   22   23   24   25   26   27   28   29   30   31  
32   33   34   35   36   37   38   39   40   41   42   43   44   45   46   47   48   49   50   51   52   53   54   55   >>  



Top keywords:

Gwalia

 

enwogion

 

wisgoedd

 

hirfaith

 

Heddyw

 

fflwch

 

eisiau

 

ffladr

 

heddwch

 

roniaith


Seisonig

 

Nwyfre

 

addwyn

 

Llywiawdwr

 

ganwyd

 

baladr

 

Rhoddi

 

draith

 
glywiau
 

dechreuai


rhwysg

 
gweniaith
 

gwyneb

 

adwyth

 

fwriad

 

celanedd

 

adferu

 

hyfawl

 

llymion

 
loesion

llwyth
 

fygwth

 

gwaith

 

fynnwn

 
lonydd
 
cadarn
 
wysogion
 

dedwydd

 
beunydd
 

rhaith


cyfraith

 

dalaith

 

tynged

 

estron

 

fwynaidd

 

gwybod

 

arswydus

 

Ufuddhewch

 

wnewch

 

falais