FREE BOOKS

Author's List




PREV.   NEXT  
|<   37   38   39   40   41   42   43   44   45   46   47   48   49   50   51   52   53   54   55   >>  
wyf yn cael fod "darllen llawer yn flinder i'r cnawd." Nid ydyw caethiwo fy hun i fyfyrdod wedi cael un effaith ddrwg ar fy iechyd eto. Aeth cyfaill i mi, a ddarllenasai lawer llai na mi, adref ddoe wedi ei nychu gan ormod o waith. Y mae fy nghorff yn gadarn wrth natur, ond yr wyf yn gorfod cerdded allan rywfaint bob dydd, er mwyn ei gadw mewn trefn. Bu holiad cyffredin yn ddiweddar ar holl aelodau ein Coleg ni. Aethum drwyddo yn well nag yr oeddwn i na'm hathrawon yn disgwyl. O hyn i wyl Mihangel nesaf, rhaid imi fyned drwy ffwrn boethach nag a brofais eto,--cael fy holi ar gyhoedd o flaen yr holl Brif-ysgol, am fy ngwybodaeth o'r Lladin a'r Roeg, a Rhesymeg. Rhaid i mi hefyd ddysgu ysgrifeni Lladin mor rhwydd a Chymraeg. Yr wyf yn fynych yn crynu wrth feddwl am y frawdle, yn enwedig wrth weled cynnifer a gawsant eu dwyn i fyny yn yr ysgolion goreu o'u mebyd, yn colli'r dydd. Y mae fy mhwys yn bennaf ar y Rhagluniaeth oruchel a fu mor dyner tuay ataf hyd yn hyn. Y'mhellach, yr wyf yn yslyried mai fy nyledswydd ataf fy hun--at fy nghynalwyr--ac at y plwyfolion a gaf ryw dro, hwyrach, o dan fy ngofal--ydyw lloffa cymaint ag a allaf o wybodaeth am bob dysg a chelfyddyd. Gwelodd y caredig Mr. Clough a Mr. Phillips fy awyddfryd am bob hyfforddiad, a chymerasant fi gyda hwynt i wrando y darlithoedd a draddodir gan ein prif ddysgedigion ar y celfyddydau breiniol. Y diweddaf a glywais oedd yr enwog Ddoctor Buckland, areithydd ar natur y ddaear, ei chreigydd a'i meteloedd. Pan ddeuaf adref gallaf roddi i chwi rai newyddion am weithiau glo a phlwm. Hawdd i chwi weled fod y gofalon a'r gorchwylion hyn yn difa fy holl amser, ac nid hyn yw y cwbl. Wrth aneddu yn Nhrefaldwyn a Rhydychen, ffurfais gydnabyddiaeth a llawer o foneddigion,--rhai o honynt, o ran dysg a dawn, ym mhlith y gwyr enwocaf yn y deyrnas. Nid oes boreu braidd yn myned heibio nad wyf yn derbyn llythyr o ryw gwr neu gilydd i'r wlad. Nid oes gennyf, gyda chwareu teg, amser i ateb un o honynt; ac os bydd un gohebwr y gallaf hyderu ar ei gyfeillgarwch i beidio digio wrthyf, yr wyf yn gadael iddo aros nes elo fy helbul yn yr athrofa heibio. Fy mwriad yn myned dros yr holl bethau hyn ydyw, i ddangos i chwi a'm hanwyl gyfeillion, Mr. Thomas Jones ac Isaac, yr unig achos na ysgrifenais atoch oll lawer cyn hyn. Os gwelwch ddim yn yr hyn a ddywedais, yn mynegi yr anrhydedd anisgwyliadwy a ddaeth i'm rhan, gwybyddwch mai nid er mwyn cynhyrfu ymffrosl ynoch yr
PREV.   NEXT  
|<   37   38   39   40   41   42   43   44   45   46   47   48   49   50   51   52   53   54   55   >>  



Top keywords:

honynt

 

heibio

 

gallaf

 

Lladin

 

llawer

 

ffurfais

 

gydnabyddiaeth

 

Rhydychen

 

foneddigion

 

Nhrefaldwyn


aneddu

 

flinder

 

braidd

 

darllen

 

draddodir

 

deyrnas

 

enwocaf

 

mhlith

 
caethiwo
 

ddaear


breiniol

 
chreigydd
 

meteloedd

 

areithydd

 

Buckland

 

glywais

 

Ddoctor

 

ddeuaf

 

fyfyrdod

 
ddysgedigion

gofalon
 

gorchwylion

 

weithiau

 

celfyddydau

 
newyddion
 
diweddaf
 
derbyn
 

ysgrifenais

 
ddangos
 

bethau


hanwyl

 

gyfeillion

 

Thomas

 

gwybyddwch

 

cynhyrfu

 

ymffrosl

 

ddaeth

 

anisgwyliadwy

 

gwelwch

 

ddywedais