FREE BOOKS

Author's List




PREV.   NEXT  
|<   11   12   13   14   15   16   17   18   19   20   21   22   23   24   25   26   27   28   29   30   31   32   33   34   35  
36   37   38   39   40   41   42   43   44   45   46   47   48   49   50   51   52   53   54   55   >>  
-law i'r genedl olaf: Lle gwelwyd twyll a galar, Echrys boen, a chroes a bar,-- Rhinwedd welir a hinon, Gwenau, a bonllefau llon; Rhyfela dry'n orfoledd, Screchiadau yn hymnau hedd. Ar eirian fro Eryri, Ei chreigiau a'i hochrau hi,-- Lle mae trigfa'r bar yn bod, A dwyn arfau dan orfod;-- Lle gwelir llu y gelyn, A'u bloedd hell, y blwyddau hyn,-- Anhirion elynion lu, A'u tariannau'n terwynu;-- Anianawl serch yn ennyn, A ffoi at y gwaew-ffyn;-- Tyf breilos, a rhos di-ri', Ar hon, a'r loew lili; Eos fydd bob dydd yn dod I fryn, yn lle cigfranod: "Ar y llethri a'r tyli telaid, Tybiaf y gwelaf y bugeiliaid, Lwythau dofion, yn mhlith eu defaid, Tarfant a chanant ffwrdd ochenaid, Llamsach wyn bach yn ddibaid,--mor ddifyr, Chwim a mygyr gylch y mamogiaid. "Lle codwyd bwyeill cedyrn, Bydd twmpathau chwarau chwyrn; Dawnsio pan y darffo y dydd, A thelyn ar frith ddolydd: I'n hynys, pan ei hunir, Daw tawelwch, heddwch hir; A chywir heddwch a rhyddid Wneir y dydd hwnnw yn aur did; Ar wddwf Cymru rhoddir Y gadwen hon i gadw'n hir; Y drefn gaeth wriogaethol, Mwya'i nerth, a i ddim yn ol; Bydd un gyfraith, 'run rhaith rhawg, I lwyth isel, a Th'wysawg: Iraidd wiwlon rydd-ddeiliaid, Ri'r gwlith, yn eu plith o'u plaid; Colofnau y breintiau bras, A chadarn-weilch y deyrnas; Ar bob mater a cherydd, Rheithwyr yn farnwyr a fydd: 'R un fro wnaeth gwyar yn frith, O dda gynnyrch ddwg wenith; Cod yr amaeth, cydia'i rwymau, Cain reolau, cyn yr haulwen; Deil waith odiaeth, dol a thidau, Iau a bachau lle bo ychen; Teifl yr hadau,--llusga'r ogau, Egyr ddorau gwar ddaearen, Er cael cnydiau, yn eu prydiau, Rhag i eisiau rwygo asen. "Esmwytho nos amaethydd, Heddwch, diofalwch fydd,-- Y daw gelyn digwilydd I'r berllan, na'r ydlan rydd; Ac ni raid braw daw un dydd, Ryw ormeswr i'r maesydd, Neu Fodur cryf i fedi 'Nol anferth drafferth i drin: Tybia'i wlad yn Baradwys,-- Dyry gainc wrth dorri'i gwys A swch fuasai awchus Gleddyf un dewr hyf di-rus; Ymaith ar unwaith yr a, Uwch ei boen y chwibiana. "Ac anterth cymer gyntun, Heb i ofal atal hun; O hyd yn ddiwyd ddiarf Heb fod dan orfod dwyn arf Heb elynion o Gonwy O fewn maes i'w hofni mwy. [Castell Conwy. "Heb elynion o Gonwy O fewn maes i'w hofni mwy.": alun25.jpg] "A thew ffrwyth ar Gwnna'n gynnar; Daw mawnog, gallt, a mynydd, A bronydd, yn dir braenar. "Y ddwy wlad cyd addolant, Cyd foli'r Ion union wnant; Rhont glodydd i'w Dofydd da, Law-
PREV.   NEXT  
|<   11   12   13   14   15   16   17   18   19   20   21   22   23   24   25   26   27   28   29   30   31   32   33   34   35  
36   37   38   39   40   41   42   43   44   45   46   47   48   49   50   51   52   53   54   55   >>  



Top keywords:

elynion

 

heddwch

 

Rheithwyr

 

eisiau

 

wenith

 

Esmwytho

 

gynnyrch

 

farnwyr

 

digwilydd

 

berllan


diofalwch

 

Heddwch

 

amaeth

 

amaethydd

 

wnaeth

 

rwymau

 

bachau

 

thidau

 
odiaeth
 

llusga


haulwen

 
cnydiau
 

reolau

 

prydiau

 

ddorau

 

ddaearen

 

ffrwyth

 

gynnar

 

mawnog

 
alun25

ddiwyd
 

ddiarf

 

Castell

 

mynydd

 
bronydd
 
glodydd
 
Dofydd
 

braenar

 
addolant
 

drafferth


anferth

 

Baradwys

 

cherydd

 

ormeswr

 

maesydd

 

unwaith

 

Ymaith

 

chwibiana

 

anterth

 

gyntun