FREE BOOKS

Author's List




PREV.   NEXT  
|<   20   21   22   23   24   25   26   27   28   29   30   31   32   33   34   35   36   37   38   39   40   41   42   43   44  
45   46   47   48   49   50   51   52   53   54   55   >>  
dwys; Er gogan, a phob anair, Dysgent, pregethent y gair, Nes cwnnu'r llesg gwan o'r llaid,-- Taro'r annuw trwy'r enaid: Lle blin a hyll o'u blaen oedd, Ail Eden o'u hol ydoedd; O flaen rhain, diflannu'r oedd Heresiau mwya'r oesoedd; Tost iawn chwedl i genedl gam Fu'r holiad yn Verulam: Ugeiniau o'r Morganiaid, Ddynion blwng, oedd yno'n blaid: Llwyddai Ion y dynion da, Er c'wilydd Agricola; Ar air Ion, i lawr yr aeth Muriau gweinion Morganiaeth. Dynion oedd dan adenydd--ystlumaidd Gwestl amhur goelgrefydd; Ymagorai'r magwrydd, Gwelen' deg oleuni dydd. Morganiaid er mawr gynnwrf, Hwynt yn eu llid droent yn llwfr; Yna'r dorf anwar a dig, At y gwyr godent gerrig,-- A mynnent bwyo 'mennydd Y rhai ffol fu'n gwyro'r ffydd! Ond y graslon Garmon gu A ataliodd y teulu: Bleiddan, ar hynny, bloeddiai,-- "Clywch! eon, ry eon rai! Pwyllwch, arafwch rywfaint! Godde' sy'n gweddu i saint; I'n Duw y perthyn dial,-- I'r annuw ein Duw a dal; Par ei farn am bob rhyw fai, Llaw dialedd lle dylai. Ond cafodd fodd i faddau,-- Drwy gur un--gall drugarhau; Y garw boen, hyd gaerau bedd, Agorai gell trugaredd; A'n harch gwir, i lenwi'r wlad Yn farn am gyfeiliornad, Yw troi, o ras ter yr Ion, Galonnau ein gelynion I droedio wrth ddeddf dradoeth; Dyn yn ddwl,--Duw Ion yn ddoeth. Felly yn awr, dan wawr well, Pob un ant tua'u pabell; Nef uchod rhoed Naf i chwi,-- Mewn heddwch dychwelwch chwi." Tra llefarodd, troell fawrwych Anian droes yn iawn ei drych; Y dymer ydoedd dwymyn Dda'i yn ei lle,--toddai'n llyn. Gwelent ei drwg--amlwg oedd, A'u llid--mor fyrbwyll ydoedd; Ust! tawelynt drwyddynt draw, O dawelwch, doi wylaw. 'Nawr o'u dwrn yn ara' deg Parai gwir gwymp i'r garreg; Trwst y main, a'r ubain rhwydd Dwys, a dorrai'r distawrwydd. Yna'r gynulleidfa'n llon Ddychwelent--(gwedd a chalon Eto'n awr yn gytun oedd,) Law yn llaw, lonna lluoedd. _Cyrraedd Ystrad Alun_. Dau gennad gwyn! Wedi gwyl Hwy gyrchent at eu gorchwyl. Llafurient a'u holl fwriad, Dan Ior i oleuo'r wlad; A'i dwyn hi dan ordinhad Da reol, o'i dirywiad; Dan y gwaith heb lid na gwg, Trwy erlid, ymlid amlwg, Doent wrth deithio bro a bryn, I olwg Ystrad Alun; Elai'r gwyr, gan eilio'r gan, Drwy Faelor, oror eirian. Hwyr hithau ddwyrai weithion, Llwydai fry ddillad y fron; Ucheron, {53} uwch ei chaerydd, A'i t'wysai, pan darfai dydd; Y lloer, a'i mantell arian, Ddeuai un modd, yn y man; Daeth o le i le fel hyn Y faith yrfa
PREV.   NEXT  
|<   20   21   22   23   24   25   26   27   28   29   30   31   32   33   34   35   36   37   38   39   40   41   42   43   44  
45   46   47   48   49   50   51   52   53   54   55   >>  



Top keywords:

ydoedd

 

Morganiaid

 

Ystrad

 

mantell

 

fyrbwyll

 

darfai

 

toddai

 

Gwelent

 

tawelynt

 

Ddeuai


garreg

 

rhwydd

 

dawelwch

 

drwyddynt

 

pabell

 

ddoeth

 

fawrwych

 

troell

 
heddwch
 

dychwelwch


llefarodd

 
dwymyn
 

ddwyrai

 

ordinhad

 

dirywiad

 

gwaith

 

fwriad

 

Llwydai

 

weithion

 
eirian

deithio
 

hithau

 

Llafurient

 

gorchwyl

 
chaerydd
 
chalon
 
distawrwydd
 

Faelor

 
gynulleidfa
 

Ddychwelent


lluoedd

 

Cyrraedd

 

gyrchent

 

gennad

 

Ucheron

 

dradoeth

 

ddillad

 

dorrai

 

Agricola

 

wilydd