FREE BOOKS

Author's List




PREV.   NEXT  
|<   17   18   19   20   21   22   23   24   25   26   27   28   29   30   31   32   33   34   35   36   37   38   39   40   41  
42   43   44   45   46   47   48   49   50   51   52   53   54   55   >>  
d ysgogi Oddiar ffordd ddaionus Duw: Er ei chau a drain a drysni-- Llwybr i'r Baradwys yw. Boed i'th riaint fyw i'th arwain Gam a cham ar lwybrau gwir; Na foed arnat ras yn angen Tra yma yn yr anial dir. Yr ydwyf yn gyrru eich llyfrau yn ol, gyda'r diolchgaiwch gwresocaf am eu benthyg. Yn y sypyn, hefyd, cewch hen ysgrif-lyfr, haws ei ddeall na'r llall: mynnwn gyfeirio eich sylw at y "Cywydd i law merch," ac ni chewch eich siomi. Mae beirniaid da wedi meddwl mai llaw ysgrifen SION TUDUR ei hun ydyw y llyfr hwn, ond prin y gallaf goelio hynny. Yn Rhuthyn y prynais i ef, am 1s. 6c. 'Digon o newid arno,' meddwch chwithau. Pe meddyliwn na byddai yn bechod anfaddeuol, gormeswn ar eich tiriondeb ymhellach, a gofynwn am fenthyg _Transactions of the Cymmrodorion_, yn ol gyda'r dygiedydd. Yr ydwyf, ar ddymuniad gwr Eglwysig, yn bwriadu cyfieithu "Hanes y Cymry, o farwolaeth Llewelyn hyd eu hundeb a Lloegr." Maddeuwch fusgrellni fy llythyr,--yn wir mae gorfoledd am lwyddiant ein Heisteddfod wedi fy nghymysgu yn llwyr, fel na wn pa beth a ysgrifenais. "RHYWUN." Clywais lawer son a siarad Fod rhyw boen yn dilyn cariad; Ar y son gwnawn innau chwerthin Nes y gwelais wyneb Rhywun. Ni wna cyngor, ni wna cysur, Ni wna canmil mwy o ddolur, Ac ni wna ceryddon undyn Beri im' beidio caru Rhywun. Gwyn ac oer yw marmor mynydd, Gwyn ac oer yw ewyn nentydd; Gwyn ac oer yw eira Berwyn, Gwynnach, oerach, dwyfron Rhywun. Er cael llygaid fel y perlau. Er cael cwrel yn wefusau, Er cael gruddiau fel y rhosyn, Carreg ydyw calon Rhywun. Tra bo clogwyn yn Eryri, Tra bo coed ar ben y Beili, Tra bo dwfr yn afon Alun, Cadwaf galon bur i Rywun. Pa le bynnag bo'm tynghedfen, P'un ai Berhiw ai Rhydychen, Am fy nghariad os bydd gofyn, Fy unig ateb i fydd--Rhywun. Caiff yr haul fachludo'r borau, Ac a moelydd yn gymylau,-- Gwisgir fi mewn amdo purwyn Cyn y peidiaf garu Rhywun. [Cartref Gwyn: "Gwynnach, oerach, dwyfron Rhywun.": alun48.jpg] MAES GARMON. _Rhagymadrodd_. Boed Hector flaenor a'i floedd, Eirf Illium a'i rhyfeloedd, Groeg anwar mewn garw gynnen, Bynciau y per Homer hen; Hidled Virgil, wiwged was, Win awen uwch AEneas; Gwnaed eraill ganiad eurwedd Am arfau claer,--am rwyf cledd, Byllt trwy dan gwyllt yn gwau, Mwg a niwl o'r magnelau; Brad rhyw haid, a brwydrau hen, Oes, a phleidiau Maes Flodden; {45a} Gwarchau, a dagrau digrawn, Cotinth a Valencia lawn, {45b} Eilia
PREV.   NEXT  
|<   17   18   19   20   21   22   23   24   25   26   27   28   29   30   31   32   33   34   35   36   37   38   39   40   41  
42   43   44   45   46   47   48   49   50   51   52   53   54   55   >>  



Top keywords:

Rhywun

 

dwyfron

 

oerach

 

Gwynnach

 

tynghedfen

 

Oddiar

 

Rhydychen

 

Berhiw

 

Cadwaf

 

ysgogi


bynnag

 

fachludo

 

moelydd

 

Gwisgir

 

gymylau

 

nghariad

 

nentydd

 

Berwyn

 
mynydd
 

beidio


Llwybr

 
marmor
 

drysni

 

ddaionus

 

llygaid

 

clogwyn

 

ffordd

 

perlau

 

wefusau

 
gruddiau

Carreg
 

rhosyn

 

purwyn

 

gwyllt

 
magnelau
 
ganiad
 
eraill
 

eurwedd

 
Cotinth
 

digrawn


Valencia

 

dagrau

 

Gwarchau

 

brwydrau

 

phleidiau

 

Flodden

 

Gwnaed

 

AEneas

 

Rhagymadrodd

 

GARMON