FREE BOOKS

Author's List




PREV.   NEXT  
|<   15   16   17   18   19   20   21   22   23   24   25   26   27   28   29   30   31   32   33   34   35   36   37   38   39  
40   41   42   43   44   45   46   47   48   49   50   51   52   53   54   55   >>  
weled A thir y Gryw, a thrwy Gred. Y Rhyddid sydd gyd-raddawl,--oll hydrefn A llywodraeth wladawl, Sydd dda;--a chyd-gerdda gwawl Gair yr Iesu, gwir rasawl. A llwydd Dduw iddi, a lleoedd heddwch, Gyrred allan o'i gaerau dywyllwch: I ni y mae digon yma o degwch Gael in', a'i hurddas, Gwalia'n ei harddwch; Nes troi'n glynnau'n fflamau fflwch,--a'n creigiau, Llonned ei dyddiau'n llen a dedwyddwch. HAWDDAMOR. Englynion ar agoriad Eisteddfod Caerwys, 1823. Nawddamor bob gradd yma,--orwych feirdd, Rhowch fyrddau 'ni wledda; Lluman arfoll Minerfa Sydd uwch Caerwys ddilys dda. Bu Caerwys, er pob corwynt--a 'sgydwai Weis cedyrn eu tremynt,-- Er braw, anhylaw helynt, Nyth y gain farddoniaeth gynt. Troi o hyd mae byd heb oedi--a'n isel, Mewn oesoedd, brif drefi; Rhoes Groeg hen, a'i Hathen hi, Awr i Gaerwys ragori. [Caerwys. "Er braw, anhylaw helynt, Nyth y gain farddoniaeth gynt.": alun40.jpg] [Un O Heolydd Caerwys. "Rhoes Groeg hen, a'i Hathen hi, Awr i Gaerwys ragori.": alun56.jpg] DAFYDD IONAWR. Englyn o fawl i'r Bardd clodwiw am ei ymdrechiadau haeddbarch i ddiddyfnu yr Awen oddiwrth ffiloreg a sothach, a'i chysegru i wasanaeth rhinwedd a duwioldeb. Yr Awen burwen gadd barch,--unionwyd Gan IONAWR o'i hamharch; Hefelydd i glaf alarch A'i mawl yw yn ymyl arch. GWYL DDEWI. Penhillion a ddatganwyd yn Nghymdeithas Gymroaidd Rhuthyn, Gwyl Ddewi, 1823. Ton,--"_Ar hyd y Nos_." Trystio arfau tros y terfyn, Corn yn deffro cawri y dyffryn,-- Tanio celloedd--gwaed yn colli, Yn mro Rhuthyn gynt fu'n peri I'r ael dduo ar Wyl Ddewi, Ar hyd y nos. Heddyw darfu ystryw estron, Ellyll hwyr, a chyllill hirion; Saeson fu'n elynion inni, Heno gwisgant genin gwisgi-- Law-law'n dawel Wyl ein Dewi, Ar hyd y nos. Clywch trwy Gymru'r beraidd gyngan Rhwygo awyr a goroian-- Swn telynau--adsain llethri-- O Blumlumon i Eryri-- Gwalia ddywed--'Daeth Gwyl Ddewi,' Ar hyd y wlad. Felly ninnau rhoddwn fonllef Peraidd lais ac adlais cydlef; Rhaid i'r galon wirion oeri Cyn'r anghofiwn wlad ein geni, Na gwledd Awen bob Gwyl Ddewi, Ar hyd y wlad. EISTEDDFOD Y WYDDGRUG. AT MR. E. PARRY, CAERLLEON. _Wyddgrug, Awst 16eg, 1823_. Goroian! goroian! Mr. Parry anwyl. Bydd Callestr yn enwocaf o'r enwogion eto. Yr ydwyf newydd ddychwelyd o ystafell y dirprwywyr yn y Leeswood A
PREV.   NEXT  
|<   15   16   17   18   19   20   21   22   23   24   25   26   27   28   29   30   31   32   33   34   35   36   37   38   39  
40   41   42   43   44   45   46   47   48   49   50   51   52   53   54   55   >>  



Top keywords:

Caerwys

 

helynt

 

ragori

 

anhylaw

 

Gwalia

 

Gaerwys

 

IONAWR

 

goroian

 

farddoniaeth

 

Hathen


Rhuthyn

 

chyllill

 

hirion

 

Ellyll

 

Saeson

 

estron

 

ddatganwyd

 

Penhillion

 
Nghymdeithas
 

Gymroaidd


elynion

 
Trystio
 

Heddyw

 

celloedd

 

terfyn

 

dyffryn

 

deffro

 

ystryw

 

beraidd

 
WYDDGRUG

Wyddgrug
 

CAERLLEON

 

EISTEDDFOD

 

gwledd

 
wirion
 
anghofiwn
 
newydd
 

ddychwelyd

 
ystafell
 

Leeswood


dirprwywyr

 

enwogion

 

enwocaf

 

Goroian

 

Callestr

 

gyngan

 

Rhwygo

 

Clywch

 

gwisgant

 

gwisgi