FREE BOOKS

Author's List




PREV.   NEXT  
|<   42   43   44   45   46   47   48   49   50   51   52   53   54   55   >>  
, A godrau y cwmwl cadduglyd oreurodd, Disgwyliais am haul--ond y Seren fachludodd Cyn i mi weled ond cysgod y wawr. "Fy ngwlad! O fy ngwlad! yn ofer yr hidlwyd I'th fynwes fendithion rhagorach nag un, Yn ofer ag urdd bryd a phryd y'th anrhegwyd, Cywreindeb i fab, a phrydferthwch i fun; Yn ofer tywynni mewn gwedd ddigyfartal, A blodau amryliw yn hulio dy anial, A nentydd yn siarad ar wely o risial, A pbob peth yn ddwyfol ond ysbryd y dyn. "Yn ofer y tardd trwy dy dir heb eu gofyn Ddillynion per anian yn fil ac yn fyrdd; Yn ofer y gwisgwyd pob dol a phob dyffryn A dillad Paradwys yn wyn ac yn wyrdd; Yn ofer rhoi awen o Nef i dy adar, A gwythi o berl i fritho dy ddaear; Yn ofer pob dawn tra mae bonllef a thrydar Yr angrhed a'i anrhaith yn llenwi dy ffyrdd. "Dy goelgrefydd greulon wna d'ardd yn anialdir, Ei sylfaen yw gwaed, a gorthrymder a cham: Pa oergri fwrlymaidd o'r Ganges {102a} a glywir? Maban a foddwyd gan grefydd y fam: Ond gwaddod y gwae iddi hithau ddaw heibio; O! dacw'r nen gan y goelcerth yn rhuddo, Ac uchel glogwyni y Malwah {102b} 'n adseinio Gan ddolef y weddw o ganol y fflam. "Gobeithiais cyn hyn buasai enw Duw Israel, A'r aberth anfeidrol ar ael Calfari, Yn destun pob cerddi o draeth Coromandel, A chonglau Bengal hyd i eithaf Tickree; {102c} Ac onid oedd Bramah yn crynu ar ei cherbyd, Er y pryd y bu Swartz yn cyhoeddi fod bywyd Yn angau y groes i Baganiaid dwyreinfyd?-- Pan gredodd fy nhad yr hyn ddysgodd i mi. {102d} "A'th ddoniau yn nwch, ac yn uwch dy sefyllfa, A'th enaid yn dan o enyniad y Nef, Cyhoeddaist ti, Heber, yr unrhyw ddiangfa, Gyda'r un serch ac addfwynder ag ef; Dyferai fel gwlith ar y rhos dy hyawdledd, Enillai'r digred at y groes a'r gwirionedd, Llonyddai'r gydwybod mewn nefol drugaredd;-- Mor chwith na chaf mwyach byth glywed dy lef. "Doe i felynion a gwynion yn dryfrith, Cyfrenit elfennau danteithion y nen; Y plant a feithrinit neshaent am dy fendith, A gwenent wrth deimlo dy law ar eu pen; Doe y datgenit fod Nef i'r trallodus-- Heddyw ffraethineb sy' fud ar dy wefus-- Ehedaist o'r ddaear heb wasgfa ofidus, I weled dy Brynwr heb gwmwl na llen. {103a} 'Fy ngwlad! O fy ngwlad! bu ddrwg i ti'r diwrnod 'Raeth Heber o rwymau marwoldeb yn rhydd; Y grechwen sy'n codi o demlau'r eulunod, Ac uffern yn ateb y grechwen y sydd; Juggernaut {103b} erch barotoa'i olwynion-- Olwynion a liwir gan gochwaed
PREV.   NEXT  
|<   42   43   44   45   46   47   48   49   50   51   52   53   54   55   >>  



Top keywords:

ngwlad

 

ddaear

 

grechwen

 

Cyhoeddaist

 

Bramah

 

draeth

 

unrhyw

 

cerddi

 

enyniad

 

sefyllfa


Coromandel

 

ddiangfa

 

gwlith

 

hyawdledd

 

Dyferai

 

destun

 

Calfari

 

addfwynder

 
chonglau
 

Tickree


cyhoeddi

 
cherbyd
 

Enillai

 

Swartz

 

Baganiaid

 

eithaf

 

ddoniau

 

Bengal

 

ddysgodd

 
dwyreinfyd

gredodd
 

felynion

 

diwrnod

 

rwymau

 
Brynwr
 
ffraethineb
 
Ehedaist
 

ofidus

 
wasgfa
 

marwoldeb


barotoa

 

olwynion

 

Olwynion

 

gochwaed

 

Juggernaut

 

demlau

 

eulunod

 

uffern

 

Heddyw

 

trallodus