FREE BOOKS

Author's List




PREV.   NEXT  
|<   6   7   8   9   10   11   12   13   14   15   16   17   18   19   20   21   22   23   24   25   26   27   28   29   30  
31   32   33   34   35   36   37   38   39   40   41   42   43   44   45   46   47   48   49   50   51   52   53   54   55   >>   >|  
funer fo, A Warren, un diwyro." Deuent, ymostyngent hwy I'w trethawr, at y trothwy: O flaen gorsedd felenwawr Safai, anerchai hwy'n awr,-- "Cyfeillion bron eich Brenin, A'i ategau'r blwyddau blin,-- Galwyd chwi at eich gilydd Am fater ar fyrder fydd; Gwyddoch, wrth eu hagweddau, Fod llu holl Gymru'n nacau Ymostwng, er dim ystyr, I'm hiau o gylch gyddfau'u gwyr; Ni wna gair teg na garw,-- Gwen, na bar,--llachar, na llw, Ennill eu serch i'm perchi, Na'u clod i'm hawdurdod i: Ni fynnant Bor, cynnor cain, Ond o honynt eu hunain; Ganedig bendefig da, O'u lluoedd hwy a'u llywia:-- Ond cefais, dyfeisiais fodd, O dan drais, i'w dwyn drosodd; Ac i mi gwnant roddi rhaith, Ac afraid pellach cyfraith; Rhoi llyffeithair a gair gaf,-- Gair Gwalia gywir goeliaf:-- Yn rhywfodd, ni ddysgodd hon Er lliaws, dorri llwon: Elinor, lawen araf, Mewn amhorth yn gymorth gaf; Mererid i'm Mreyron I'w cais pur trwy'r antur hon." Traethai'r Brenin, gerwin, gau, Ar redeg ei fwriadau; A'r Cyngor wnai glodfori, Mor ddoethwedd rhyfedd eu rhi, A'i ddihafal rialyd, Mewn truthiaith, gweniaith i gyd. Yna'r arglwyddi unol A gilient, nesent yn ol, Gan grymu pen i'w Brenin, Laig ei glod, a phlygu glin. _Ufudd-dod y Frenhines_. E geisiai frys negesydd Yn barod, cyn darfod dydd,-- A gyrrai, ar farch gorwych, I'r brif-ddinas y gwas gwych, A gofynaig i'w Fanon, A gair teg am gariad hon: Y lonwech bur Elinawr Serchog, oedd yn feichiog fawr; Gofynnai a hwyliai hon, Gryn yrfa, i Gaernarfon, Ar fyrder, fod mater mawr I'w ddisgwyl y dydd esgawr. O fodd ufuddhaodd hon, Iach enaid, heb achwynion; Dechreuai'r faith daith, 'run dydd, Mewn awch, a hi'n min echwydd; Gwawl lloer, mewn duoer dywydd, A'i t'wysai pan darfai dydd; Oer y cai lawer cawod, Cenllysg yn gymysg ag od; Anturiai, rhodiai er hyn, Trwy Gwalia, tir y gelyn; Er ymgasgl bar o'i hamgylch, A'i chell yn fflamiau o'i chylch,-- Ni wnai hon ddigalonni, Mor der oedd ei hyder hi; (Ow! ow! 'n wir beri'r bwriad Tra glew, er dinistrio gwlad:)-- Daeth, wrth deithio o fro i fryn, Y faith yrfa i'w therfyn. A'r deyrnes gynnes, heb gel Yn ddiegwan ddiogel; Rhoes Iorwerth eres warant,-- Ae rhingyll i gestyll, gant, Am alw cydymweliad Brenin ac arglwyddi'n gwlad: Rhuddlan oedd y fan i fod Hygof erfai gyfarfod; I dorri rhwystrau dyrys Y gelwid, llunid y llys:-- D'ai'r eurfig bendefigion O amryw le 'Nghymru lon; Yno y daeth yn y dydd, Gwalia o gwrr bwygilydd.
PREV.   NEXT  
|<   6   7   8   9   10   11   12   13   14   15   16   17   18   19   20   21   22   23   24   25   26   27   28   29   30  
31   32   33   34   35   36   37   38   39   40   41   42   43   44   45   46   47   48   49   50   51   52   53   54   55   >>   >|  



Top keywords:

Brenin

 

Gwalia

 

arglwyddi

 

fyrder

 

darfai

 

dywydd

 

Dechreuai

 

echwydd

 

gofynaig

 

lonwech


gariad

 

ddinas

 

darfod

 

gyrrai

 

gorwych

 

Elinawr

 

ddisgwyl

 

esgawr

 
ufuddhaodd
 

Gaernarfon


feichiog

 
Serchog
 

Gofynnai

 

hwyliai

 

achwynion

 

cydymweliad

 

Rhuddlan

 

gestyll

 

Iorwerth

 
ddiogel

warant
 

rhingyll

 

gyfarfod

 

rhwystrau

 
Nghymru
 
bwygilydd
 
bendefigion
 

llunid

 
gelwid
 

eurfig


ddiegwan

 

hamgylch

 

ymgasgl

 

fflamiau

 

ddigalonni

 

chylch

 

gymysg

 

Cenllysg

 

Anturiai

 

rhodiai