FREE BOOKS

Author's List




PREV.   NEXT  
|<   41   42   43   44   45   46   47   48   49   50   51   52   53   54   55   >>  
us, a chael pob peth wrth fy modd. Y mae y cyflwr unig y gadewais chwi ynddo, yn peri i mi hiraethu mwy am danoch y tro hwn nag un tro o'r blaen. Buasai yn dda gan fy nghalon gael aros yn agos atoch nes i angeu ein gwahanu. Ond nid felly y mae Rhagluniaeth yn trefnu: rhaid i ninnau ymostwng. O ddiwrnod i ddiwrnod daw y flwyddyn i fyny, pan y caf eich gweled, gobeithio, mewn gwell iechyd ac ysbrydoedd nag y gadewais chwi. Yn y cyfamser erfyniaf arnoch, er dim, i gadw eich meddwl mor dawel ag y galloch: ar hyn y mae eich cysur chwi a minnau yn ymddibynu. Ni wna tristhau ac ymofidio ddim ond gwaethygu eich llygaid dolurus, a chlwyfo meddwl y rhai a'ch carant. Digon gwir cawsom golled fawr,--collasom y cyfaill ffyddlonaf a thirionaf a welsom erioed; eto "na thristawn fel rhai heb obaith." Oni adawodd dystiolaeth ar ei ol ei fod wedi myned i ddedwyddwch--i wlad well na daear, "lle y gorffwys y rhai lluddedig, ac ni chlywant lais y gorthrymydd." Ac os dilynwn ei lwybrau, ni a gawn ei gyfarfod eto mewn ardal nad oes na phechod, na phoen, nag ymadawiad o'i mewn. "Gwir ddymuniad fy nghalon, a'm gweddi ar Dduw sydd erddoch." CWYN AR OL CYFAILL. _Pan hirarosai yn Rhydychen, Mehefin, 1827_. (Efelychiad o "Bugail Cwmdyli," gan I. G. G.) Trwy ba bleserau byd Yr wyt yn crwydro c'yd? Mae pleser fel y lli', A'r moethau goreu i mi Yn wermod hebot ti, Sior anwylaf. Trwm wibio llygad llaith Am danat yw fy ngwaith; A rhodio godre'r bryn, A gwyrddion lannau'r llyn, Lle rhodit ti cyn hyn, Sior anwylaf. Mae peraidd flodau d'ardd Yn gwywo fel dy fardd; A'th ddefaid hyd y ddol, A'u gwirion wyn o'u hol Yn gofyn ddo'i di'n ol, Sior anwylaf. Mae'n Nghymru laeth a mel, Mae'n Nghymru fron ddi-gel, Mae'n Nghymru un yn brudd O'th eisiau, nos a dydd,-- A'i gair wrth farw fydd, Sior anwylaf. MARWOLAETH YR ESGOB HEBER. Lle treigla'r Caveri {101} yn donnau tryloewon, Rhwng glennydd lle chwardd y pomgranad a'r pin Lle tyfa perlysiau yn llwyni teleidion, Lle distyll eu cangau y neithdar a'r gwin; Eisteddai Hindoo ar lawr i alaru, Ei ddagrau yn llif dros ei riddiau melynddu, A'i fron braidd rhy lawn i'w dafod lefaru, Ymdorrai ei alaeth fel hyn dros ei fin:-- "Fy ngwlad! O fy ngwlad, lle gorwedd fy nhadau! Ai mangre y nos fyddi byth fel yn awr? Y Seren a dybiais oedd Seren y borau, Ar nawn ei disgleirdeb a syrthiodd i lawr; Y dwyrain a wenai, y tymor tywynnodd
PREV.   NEXT  
|<   41   42   43   44   45   46   47   48   49   50   51   52   53   54   55   >>  



Top keywords:

anwylaf

 
Nghymru
 

meddwl

 

ddiwrnod

 

ngwlad

 

gadewais

 

nghalon

 

gwirion

 
ddefaid
 
moethau

wermod

 

pleser

 
bleserau
 

crwydro

 

llygad

 
lannau
 

gwyrddion

 

rhodit

 

peraidd

 
llaith

rhodio

 

ngwaith

 
flodau
 

tryloewon

 

Ymdorrai

 

lefaru

 

alaeth

 

gorwedd

 
ddagrau
 
riddiau

melynddu

 

braidd

 

nhadau

 

syrthiodd

 

disgleirdeb

 

dwyrain

 

tywynnodd

 

mangre

 

dybiais

 

treigla


Caveri

 

donnau

 

MARWOLAETH

 
eisiau
 

glennydd

 

cangau

 
neithdar
 
Hindoo
 

Eisteddai

 

distyll