FREE BOOKS

Author's List




PREV.   NEXT  
|<   26   27   28   29   30   31   32   33   34   35   36   37   38   39   40   41   42   43   44   45   46   47   48   49   50  
51   52   53   54   55   >>  
fn,--dacw'n gelyn! Ymrestrwch,--troediwch mewn trefn, Och! enrhaith! beth yw'ch anrhefn?" Unwaith ni wrendy'r annuw, I'w dilyn mae dychryn Duw; Eu heirf serth, yn y twrf sydd, Wana galon eu gilydd;-- Astalch i astalch estyn, A chledd sydd yng ngledd y'nglyn. Clywai Alun destun da, Alawon Haleluia; A chiliodd dros ei cheulan,-- Hi droes lif ar draws y lan; A mynnent hwy, er maint hon, Yn eu braw, rwyfaw'r afon: I dawch Alun dychwelynt,-- Aeth hon fel y Gison gynt: A mawr dwrdd--ym merw'r donn, Cell agerdd cylla eigion: Gwenodd Alun, gwyn ddiluw, Gael yno dorf galon Duw; Llafuriodd y llifeiriaint, Gyda si, i gadw y saint; Sugnai'r llyn y gelyn gau, Gwingodd dan grafanc Angau. O foreu dwl, ar fyrr daeth Gwawr deg o waredigaeth; 'Nawr gwelai'r Cymry'r galon, Yn soddi is dyli'r donn; Gan wau yn dyrrau dirif, A swn eu llais yn y llif; Llifeiriant a i holl farrau, Tonnau certh, arnynt yn cau:-- Nodent nad oedd mewn adwy, Glan, na maes, un gelyn mwy; Prin coelient--safent yn syn-- Ddolef eu ciaidd elyn. Dyferai eu clodforedd, Drwy'r glynnau yn hymnau hedd; Ac yn eu plith canai plant, Swn melus atsain moliant. Yna'r saint mewn eres hwyl A anerchent,--iawn orchwyl-- Araf lef i'r dyrfa lan, Dorrent ollyngdawd eirian. "Ein Ner, mewn blinder, fu'n blaid I'w war union wirioniaid; Duw'n y blwng wrandawai'n bloedd,-- Boddai yna'r byddinoedd. "Eurawg olwynion hen Ragluniaeth, Barai'r dolydd, y wybr a'r dalaeth, I wyrthiol adsain germain gaeth,--Alun Foddai y gelyn,--caem fuddugoliaeth. "Duw Ner roes yr hoewder hwn, I'n Duw eilchwaith diolchwn; Llawforwyn fu'r llifeiriant, Gyda bloedd i gadw ei blant. "Iolwn na byddo'i wiwlwys--ogoned, Ac enaint Paradwys, Gilio oddiar Gwalia ddwys, Na'u aroglau o'r Eglwys. "Duw'r hedd fo'n eich harwedd chwi, Drwy genedl lawn drygioni; A chwedi oes heb loes lem, Noswyliaw boch yn Salem." Hwy wahanent ar hynny, Heb wybod ofn,--bawb i'w dy; A'r lleddf ddau genadwr llon Draw hefyd i dy Rhufon. Ac ar hwyl deg, yr ail dydd, Dwyreent mewn dir awydd, I rodio i lawr at ffrwd las, Glennydd lle bu galanas: 'Nawr aber, fel arferol, Ydoedd hi ar hyd y ddol; Ciliai'r dylif, clwy'r dylaith, A'i dwrf oll, pan darfu'i waith; Dai'r ardal yn dir irdeg, Lle berwai tonn, ddai'n llwybr teg: Gwelent hwy, wrth geulan tonn, Gelanedd eu gelynion; Yn dyrrau, 'n rhesau di ri, O'r Belan hyd i'r Beili. Gwelai Rhufon dirionwawr, Ar hyn, ryw lenc
PREV.   NEXT  
|<   26   27   28   29   30   31   32   33   34   35   36   37   38   39   40   41   42   43   44   45   46   47   48   49   50  
51   52   53   54   55   >>  



Top keywords:

Rhufon

 

dyrrau

 

bloedd

 

wiwlwys

 

aroglau

 

genedl

 

ogoned

 

Gwalia

 

drygioni

 

Eglwys


Paradwys

 

harwedd

 

enaint

 

oddiar

 

fuddugoliaeth

 

byddinoedd

 

Boddai

 

Eurawg

 
olwynion
 

Ragluniaeth


wrandawai

 
blinder
 

eirian

 

wirioniaid

 

dolydd

 

hoewder

 

eilchwaith

 

diolchwn

 

llifeiriant

 
Llawforwyn

chwedi
 

wyrthiol

 

dalaeth

 

adsain

 
germain
 
Foddai
 
berwai
 

Ciliai

 
dylaith
 

llwybr


dirionwawr

 

Gwelai

 

geulan

 

Gwelent

 

Gelanedd

 

gelynion

 

rhesau

 

Ydoedd

 

ollyngdawd

 

lleddf