FREE BOOKS

Author's List




PREV.   NEXT  
|<   23   24   25   26   27   28   29   30   31   32   33   34   35   36   37   38   39   40   41   42   43   44   45   46   47  
48   49   50   51   52   53   54   55   >>  
enfigen faeth, Ddylanwodd o elyniaeth,-- Ae'n greulon, anfoddlon fab, Fu'n war anwyl ireiddfab; Y diwedd oedd--gadodd ef Mewn gwg,--huddwg ei haddef, Gan addaw dod, diwrnod du, A dialedd i'w deulu; Gwauai y dwrn,--rhegai' dad, O'm Duw! fath ymadawiad! Er gwae im', rhwygai ymaith-- Na wyr ond Ion ran o'i daith; Nis gallaf, dan drymaf dro, Ond trist ruddfanu trosto. "O'r diwrnod bu'r du ornwaith, Ni chenais, ni cherddais chwaith,-- Picellau drwg ofnau gant, Y fron wirion fraenarant: Na welir hwn, wylo'r wyf,-- Ac wylo rhag ofn gwelwyf Etifedd gwae! tyfodd gwyn Diymarbed i'm herbyn; Funud ni phrisiaf einioes,-- Aeth yn faich holl ddwthwn f'oes! O Angeu! torra f'ingedd, 'Rwy'n barod, barod, i'm bedd." Eto y toddai natur Yn ddagrau fel perlau pur; Delwai, mudanai'r dynion, Gyda'u brawd gwaedai eu bron; Pwyntient fys at lys hael Ion-- Lle o allu ellyllon. Synnent, ac edrychent dro, Eilwaith cymysgent wylo: Addysgid y ddau esgob Felly'n null cyfeillion Iob; I ganfod fod llym gwynfawr Bwysau ei ofidiau'n fawr. _Y Gynulleidfa_. Ar hyn d'ai gwas addas wedd, Mynegai mewn mwyn agwedd, Fod nifer, yr amser hyn, Ar ddolau iraidd Alun; A'u disgwyliad dwys gwiwlon Am glywed clau eiriau'r Ion. Sychu oedd raid y llygaid llaith, O fwriad at lafurwaith: O'r deildy tua'r doldir Yr elent hwy trwy lawnt hir; A gwelent war, liwgar lu, Yn gannoedd yno'n gwenu. O ddisgwyl y ddau esgawb, A gwyneb pur gwenai pawb, O oedran diniweidrwydd, Y'mlaen, hyd i saith-deg mlwydd; Rhai ieuainc, mewn chwidr awydd Yn chwarau ar geinciau gwydd; Arafaidd d'ai'r gwyryfon, Yn weddaidd, llariaidd a llon; Oeswyr, a phwys ar eu ffyn, Hulient dorlennydd Alun; Doethaidd eu dull i'r dwthwn, Eistedd wnai'r gwragedd yn grwn; Pob mam lan a'i baban bach, Ryw hoenus,--a rhai henach, A geisient gael eu gosod Dan sancteiddiol nefol nod; 'Nawr mewn trefn, tu cefn i'r cylch, Gan ymgau'n gain o amgylch, Y deuai holl wrandawyr Y graslon enwogion wyr. Ar ddeulin yr addolynt Yr Oen hoeliwyd, gablwyd gynt; A Bleiddan, drwy fwynlan fodd, Ar Dduw a hir weddiodd; Eiddunodd newydd anian, A mawr les, i Gymru lan; I beri hedd, nes byrhau Ochain hon a'i chynhennau,-- A throi i'r wir athrawiaeth Rai'n ol, ar gyfeiliorn aeth; Ac yna, na cha'i Morganiaeth,--na gwenwyn O geuneint Derwyddiaeth, Fwrw'u dilyf ar dalaeth, Yn hwy'n lle manna a llaeth. Bedyddio wnaent--(byd dd'ai'n wyn) Wyr mewn oed,--rhai man wedyn; Yna'r
PREV.   NEXT  
|<   23   24   25   26   27   28   29   30   31   32   33   34   35   36   37   38   39   40   41   42   43   44   45   46   47  
48   49   50   51   52   53   54   55   >>  



Top keywords:

diwrnod

 

dorlennydd

 

Doethaidd

 

dwthwn

 

Oeswyr

 

Hulient

 
Eistedd
 

lafurwaith

 

deildy

 

fwriad


llaith
 

doldir

 

gwragedd

 

esgawb

 

gwenai

 

mlwydd

 

ieuainc

 

diniweidrwydd

 
oedran
 

gannoedd


liwgar

 
ddisgwyl
 

Arafaidd

 

gwyryfon

 

weddaidd

 
llariaidd
 

geinciau

 
chwidr
 

chwarau

 

gwelent


gwyneb

 

athrawiaeth

 

gyfeiliorn

 

Morganiaeth

 

byrhau

 

chynhennau

 

Ochain

 
gwenwyn
 

geuneint

 

wnaent


Bedyddio
 
Derwyddiaeth
 

dalaeth

 
llaeth
 
llygaid
 
amgylch
 

geisient

 

henach

 

hoenus

 

sancteiddiol