FREE BOOKS

Author's List




PREV.   NEXT  
|<   22   23   24   25   26   27   28   29   30   31   32   33   34   35   36   37   38   39   40   41   42   43   44   45   46  
47   48   49   50   51   52   53   54   55   >>  
erdd geinwech yr eos, Ymorau heb ymaros, I Geli am noddi'r nos. A seiniai, pynciau pob pig I'w Creawdwr caredig; Nes yr aeth yn mhen ennyd Yr wybr fan yn gan i gyd. Esgynnent, troent eu tri I balawg Fryn y Beili, I weld y wlad,--ferthwlad fau,-- Rhedai Alun trwy'i dolau Dyffrynol, breiniol a bras, Oll yn hardd a llawn urddas; Duw Celi oedd gwedi gwau 'N gywrain eu dillad gorau; Deor myrr, neithdar, a mel, Yn rhywiog a wnae'r awel; Aroglai'r manwydd briglas, Y bau a'i chwrlidau'n las; A diffrwyth lysiau'r dyffryn Gwlithog, fyrdd, mewn gwyrdd a gwyn. Ebrwydd, y corn boreubryd Alwai 'ngwrth y teulu nghyd; Teulu y castell telaid, 'Nol porthi, mewn gweddi gaid. Rhufon a yrrai hefyd Efo'r gweis, trwy'r fro i gyd, Am neges em enwogion I weled tir y wlad hon,-- Yr eilient yn ochr Alun Araeth am gadwraeth dyn; A'u bod am weini bedydd Yn ael y dwfr, ganol dydd; Ag awydd ferth, gweddai fod Bawb ynaw a'u babanod; Mai bechan y Llan oll oedd I gynnwys amryw gannoedd. _Gofid Rhufon_. Felly aent o'r arfoll hon Eu tri, i'r gerddi gwyrddion; Mawl i Dduw roent mewn teml ddail, Gwedi 'i gwau gyda gwiail; Ei lloriau, a gleiniau glwys, B'rwydid fel ail Baradwys; Sonient, with aros yno, Am och a brad,--am uwch bro,-- Lle na ddel gwyll neu ddolef,-- Am urdd yn Nuw,--am ardd Nef,-- Gardd o oesol radol rin, A'i haberoedd yn bur-win. Rhufon, dan ofid rhyfawr, Ni ddywedai--ofynnai fawr; Danghosai' liw, nid gwiw gwad, Loes erwin uwchlaw siarad; O'r diwedd, 'nol hir dewi, Ochenaid, a llygaid lli, A'i ddagrau, fel rhaffau'n rhydd, O'i lygaid yn wlawogydd,-- Tan grynnu'i fant yn graen, fo Gwynai alaeth gan wylo, "Enwogiawn, mi wn agos Rhaid i 'null ar hyd y nos Ddangos fod saeth gaeth, a gwg, Drwy'r galon draw o'r golwg; Y ngrudd gref, lle gwingodd graid, Llychwinodd aml ochenaid; Grym y groes, a dagrau'm gwraig, Dyrr wen y diarynaig. Mynegaf i'm henwogion Hanes fy mriw--naws fy mron, A'r achos o'm hir ochi,-- Yr oedd mab iraidd i mi; Delw i'r holl ardaloedd,-- Eu tegwch a'u harddwch oedd; 'R oedd ei rwydd daclusrwydd clau, A'i lun nerthol yn wyrthiau; A gwen hoff lawen a fflwch, Ireiddiwch ar ei ruddiau. "Dau lygad ei dad ydoedd, Un enaid a'i enaid oedd; Rhyw adyn ei rwydo wnaeth A'i swynion, i gamsyniaeth,-- Un tonnawg anghytunol Droes allan, a phagan ffol; Ac oerodd ei holl gariad At wir Duw,--at eiriau'i dad; Hynny fagodd genfigen, Yr un dydd yn ei fron denn,-- Lle cadd hen g
PREV.   NEXT  
|<   22   23   24   25   26   27   28   29   30   31   32   33   34   35   36   37   38   39   40   41   42   43   44   45   46  
47   48   49   50   51   52   53   54   55   >>  



Top keywords:

Rhufon

 

Enwogiawn

 

alaeth

 

Gwynai

 

ddolef

 

grynnu

 

Ddangos

 

ofynnai

 

ddywedai

 

diwedd


siarad

 

uwchlaw

 

Danghosai

 

rhyfawr

 

lygaid

 

wlawogydd

 

rhaffau

 

ddagrau

 
Ochenaid
 

llygaid


haberoedd

 
Mynegaf
 

swynion

 

wnaeth

 

gamsyniaeth

 

tonnawg

 

anghytunol

 

Ireiddiwch

 

fflwch

 
ruddiau

ydoedd
 

phagan

 

genfigen

 

fagodd

 
gariad
 
oerodd
 
eiriau
 

gwraig

 
dagrau
 

diarynaig


henwogion

 

gwingodd

 

Llychwinodd

 

ochenaid

 

daclusrwydd

 

wyrthiau

 

nerthol

 

harddwch

 

tegwch

 

iraidd