FREE BOOKS

Author's List




PREV.   NEXT  
|<   19   20   21   22   23   24   25   26   27   28   29   30   31   32   33   34   35   36   37   38   39   40   41   42   43  
44   45   46   47   48   49   50   51   52   53   54   55   >>  
loes, fel isod, Nac un westl dymestl yn dod; Eiddunent hwy Dduw anian,-- Traethaf a gofiaf o'r gan. "Hyd atad, ein Duw, eto, Dyneswn, edrychwn dro; Rhown i ti, rhwng cernau tonn, Hael Geli, fawl o galon; Rhued nawf, nis rhaid i ni, Uwch ei safn, achos ofni: Y lli dwfr sy'n y llaw dau,-- Dy law, 'n Ion, a'n deil ninnau. "Ti yw arweinydd y taranau, Tefli y sythion fellt fel saethau,-- Gan roi, a dwyn, dy ffrwyn yn ffroenau Anwar dymestl,--mae'n wir diamau: Yng nghynnen yr elfennau--rhoddi'r gwynt, Gelwi gorwynt,--neu gloi ei gaerau. "Y mor uthr udawl, a'i dra mawr ruthriadau, Y sydd fel moelydd uwch y cymylau; Yr wyt ti, Ynad, ar warr y tonnau, Yn trefnu hynt y chwerw-wynt i chwarau; Cesgli'r gwynt chwyrn i'th ddyrnau,--yn sydyn, Arafa wedyn bob cynhyrfiadau. "Pa ragor in' for yn fedd Na gwaun dir i gnawd orwedd? Cawn i'th gol o farwol fyd, Yn nydd angeu'n hawdd ddiengyd,-- Mae'n calon yn boddloni I uniawn drefn Un yn Dri." Pan ar ben gorffen y gan Y terfynai twrf anian; Clywai'r Un sy'n cloriannu Rhawd, o'r ser i'r dyfnder du: Arafodd, llaesodd y lli, Trychineb, a'r trochioni; Mor a nen ymyrrai'n ol, I ddistawrwydd ystyriol; Deuai hwyl a da helynt Y donn yn gyson a'r gwynt; Mewn un llais rhoent hymnau'n llon, I'r hwn a roes yr hinon; Yna y chwai dorrai dydd,-- Dyna lan Prydain lonydd. Doe'r llong, ar ddiddan waneg, I ben y daith--Albion deg. _Prydain yn 429_. Hil Gomer yr amser hyn, Oedd o nodwedd anhydyn; Amryw nwyd wnae Gymru'n waeth, Mawr gynnen, a Morganiaeth; Gwyr digariad i'w goror, Lanwai a cham, lan a chor: Rhai ffol yn cymysgu'r ffydd A choelion am uchelwydd; Gwadu Crist, neu gydio'u cred Ar glebr am "dreiglo abred"; Pictiaid, Ysgotiaid, weis cas, Ruthrent, lunient alanas; A Phrydain heb undeb oedd, Na llyw wrth ben ei lluoedd; Y llysoedd, yn lle iesin Farnu gwael, oe'nt defyrn gwin; Brad amlwg, a brwd ymladd, Gorthrech, cri, llosgi, a lladd, Wnae Albion,--a'u troion trwch Yn ail i ryw anialwch. _Taith y ddau_. Y teulu apostolaidd Eu bron, cyn gorffwyso braidd, Drwy'r wlad, ar waith clodadwy Eu Tad, ymegnient hwy. Gan foreu godi,--rhoddi'n rhwyddion Fyrr o Gilead wrth friwiau gwaelion; Digyrith bleidio gwirion--rhag gwrthdrin, Rhoi llaeth a gwin i'r llwythau gweinion. _Cynhadledd a'r Morganiaid_. Iselaidd furiau Salem Godent, ac urddent a gem; A gem y ddau ddegymydd, Fu aur a ffurf y wir ffydd; Gemau'r gair, disglair, dwys, Yw parwydydd Para
PREV.   NEXT  
|<   19   20   21   22   23   24   25   26   27   28   29   30   31   32   33   34   35   36   37   38   39   40   41   42   43  
44   45   46   47   48   49   50   51   52   53   54   55   >>  



Top keywords:

rhoddi

 

Prydain

 

Albion

 

dymestl

 

dorrai

 

dreiglo

 
uchelwydd
 

Phrydain

 

alanas

 

lunient


Ruthrent
 

Pictiaid

 

Ysgotiaid

 

nodwedd

 

ddiddan

 

gynnen

 

Morganiaeth

 

digariad

 
cymysgu
 

lonydd


choelion

 
anhydyn
 

Lanwai

 

gwrthdrin

 

gwirion

 
llaeth
 

Cynhadledd

 
gweinion
 

llwythau

 

bleidio


Digyrith

 

rhwyddion

 

Gilead

 

gwaelion

 

friwiau

 

Morganiaid

 

Iselaidd

 
disglair
 

parwydydd

 

Godent


furiau
 
urddent
 

ddegymydd

 
ymegnient
 
defyrn
 
ymladd
 

llosgi

 

Gorthrech

 

llysoedd

 

lluoedd